Torfaen County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen
Lleoliad
Torfaen
Pob ardal
Manylion
Oriau contract
Rhan Amser
Math o gontract
Parhaol
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Gweithle
Gwasanaethau canolfan breswyl i deuluoedd
Rôl
Gweithiwr Cymorth Mewn Canolfan Breswyl i Deuluoedd
Disgrifiad o'r swydd
Lleoliad gwaith: Conwy
Mae swydd Therapydd Galwedigaethol llawn amser ar gael o fewn y Tîm Pobl Hŷn a Gwaith Cymdeithasol Ysbyty.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gwneud ymyriadau therapi galwedigaethol ar y cyd â Phobl Hŷn sydd o bosib angen gofal a chefnogaeth a phobl sydd wedi bod mewn ysbyty ynghyd â'u teuluoedd a'u gofalwyr.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio o fewn Tîm Adnoddau Cymunedol sy'n canolbwyntio'n bendant ar gynllunio yn seiliedig ar ganlyniadau ac ailalluogi.
Rhaid i ymgeiswyr feddu ar gymhwyster Therapi Galwedigaethol proffesiynol h.y. Ôl Ddiploma Therapi Galwedigaethol neu Radd mewn Therapi Galwedigaethol ac wedi cofrestru gyda'r HCPC. Yn ddelfrydol bydd ymgeiswyr wedi cael profiad ar ôl cymhwyso mewn gweithio gyda Phobl Hŷn, teuluoedd a gofalwyr.
Bydd cefnogaeth ar gael drwy oruchwyliaeth reolaidd ffurfiol a goruchwyliaeth anffurfiol o ddydd i ddydd, Adolygiadau Datblygu Personol a chyfleoedd hyfforddi gwych.
Mae'n hanfodol bod deilydd y swydd yn gallu teithio drwy'r Sir yn rheolaidd, yn aml i ac o leoliadau anghysbell ar fyr rybudd.
Oherwydd natur y gwaith, bydd angen datgeliad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae'r rôl hon yn cynnig opsiynau gweithio hyblyg ar gyfer cydbwysedd bywyd a gwaith. Gall hyn gynnwys addasu eich diwrnod gwaith a gweithio hybrid, hy cydbwysedd rhwng gweithio yn y swyddfa a gweithio gartref.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Becky Goodchild, Rheolwr Tim, 01492 577704 becky.goodchild@conwy.gov.uk
Gofynion y Gymraeg: Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi ymrwymo i'w Safonau Iaith Gymraeg. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Mae Conwy wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Rydym yn darparu opsiwn i bobl anabl wneud cais mewn gwahanol fformatau. Cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 i gael cyngor pellach.
This form is also available in English.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr