Cyngor Sir Ynys Mon / Isle of Anglesey County Council
Lleoliad
Ynys Môn
Pob ardal
Manylion
Oriau contract
Llawn Amser
Math o gontract
Parhaol
Disgrifiad o'r swydd
Gweithio i Gyngor Sir Ynys Môn Mae Ynys Môn yn lle braf i fyw ac i weithio. Mae'n ymwneud â gwella bywydau'r bobl sy'n byw ac yn gweithio ar yr ynys. Er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni ein blaenoriaethau rydym angen gweithwyr sydd yr un mor uchelgeisiol â ninnau, sy'n cymryd balchder yn eu gwaith, sydd â meddylfryd byd busnes, sy'n barod i weithio mewn partneriaeth ac sydd bob amser yn darparu'r safonau uchaf posibl. Ein nod yw creu Ynys Môn sy'n iach a llewyrchus, lle gall teuluoedd ffynnu.
Mae ein llwyddiant yn dibynnu ar y bobl rydyn ni'n eu cyflogi, ac rydym wedi ymrwymo i werthfawrogi ein tîm. Rydym yn cynnig mwy na chyflog yn unig, felly edrychwch ar rai o'r buddion y gallwn eu cynnig i'n staff: Buddion o weithio i Gyngor Sir Ynys Môn
Pwrpas cyffredinol y swydd Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am ddarparu goruchwyliaeth broffesiynol i staff Therapi Galwedigaethol Cyngor Sir Ynys Môn. Bydd deiliad y swydd yn gweithio yn unol â deddfwriaethau , polisïau ac arfer da perthnasol.
Fel Therapydd Galwedigaethol profiadol, bydd deiliad y swydd yn helpu i frysbennu atgyfeiriadau sy'n cael eu hanfon i Teulu Môn, er mwyn sicrhau bod defnyddwyr gwasanaeth yn derbyn y gwasanaeth cywir y tro cyntaf. Rhagwelir y bydd deiliad y swydd yn gyfri fol am lwyth achosion bychan a fydd yn cynnwys achosion cymhleth.
Bydd deiliad y swydd yn cwrdd â'r amcanion drwy gydweithio'n effeithiol â'r Therapydd Galwedigaethol Clinigol Arweiniol ac Arweinwyr y Tîm Cymorth Cymunedol. Bydd gan ddeiliad y swydd gyfrifoldeb proffesiynol dros ymarferwyr Therapi Galwedigaethol rheng fl aen. Bydd rhaid i ddeiliad y swydd weithio'n agos â'r Therapydd Galwedigaethol Clinigol Arweiniol a'r Arweinwyr Tîm wrth ddatblygu gwasanaeth o ansawdd sy'n diogelu a gwella llesiant Oedolion ar Ynys Môn.
Bydd deiliad y swydd yn cael ei gefnogi a'i oruchwylio gan y Therapydd Galwedigaethol Clinigol Arweiniol.
Mwy o wybodaeth Penodiad yn ddibynnol ar Gwiriad GDG (DBS) lefel uwch boddhaol
Gwelwch y swydd disgrifiad am mwy o gwybodaeth a gofynion sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer y swydd hon.
Mae croeso i chi gyflwyno cais yn eich dewis iaith. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg neu'n Saesneg bob amser yn cael eu trin yn gyfartal.
Atodir isod y disgrifiad swydd/manyleb person.
Rydym yn eich cynghori i arbed y swydd ddisgrifiad a'r fanyleb person i'ch cyfrifiadur neu ar gof bach gan y bydd y dogfennau yn diflannu unwaith y bydd y swydd yn cau.
Manylion cyswllt Enw: Olwena Davey
Rhif ffôn: 01248 752752
Cyfeiriad e-bost: olwenadavey@ynysmon.llyw.cymru
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr