Therapydd Galwedigaethol - Rheolwr Tîm Cynorthwyol-Mewnol yn Unig
Dyddiad cau 03/08/2025
Cyflogwr
Wrexham County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Lleoliad
Wrecsam
Pob ardal
Manylion
Math o gontract
Parhaol
Disgrifiad o'r swydd
Disgrifiad
Hysbyseb Swydd am Reolwr Tîm Cynorthwyol - Therapi Galwedigaethol yn Wrecsam Therapydd Galwedigaethol - Rheolwr Tîm Cynorthwyol
Gradfa 11: £44,711-£47,754 Adran: Gofal Cymdeithasol i Oedolion (gan gynnwys Therapi Galwedigaethol Pediatrig) Team: Therapi Galwedigaethol
Mewnol yn Unig
Mae Tîm Therapi Galwedigaethol Wrecsam yn dîm cefnogol a sefydledig ac mae swydd lawn amser i'w llenwi yno ar Raddfa Rheolwr Tîm Cynorthwyol. Mae hwn yn gyfle cyffrous i ddatblygu eich sgiliau rheoli ymhellach er mwyn: • Darparu cyngor ynglÅ•n ag arferion proffesiynol. • Rheoli'r tîm Therapi Galwedigaethol drwy ei weithdrefnau a'i weithgareddau fel ei fod yn darparu gwasanaeth effeithlon ac o ansawdd uchel i'w gleientiaid yn unol â chyfrifoldeb deddfwriaethol. • Sicrhau fod agwedd y tîm yn sensitif ac yn briodol ar gyfer anghenion unigolion. • Dirprwyo ar ran y Rheolwr Tîm pan fo angen. Mae ymrwymiad i gefnogi sesiynau misol Datblygiad Proffesiynol Parhaus a rhaglen hyfforddi brysur. Mae'm yn cynnig gweithio'n hyblyg o fewn y polisi cydbwysedd gwaith a bywyd sy'n rhoi'r cyfle i gael gwyliau ychwanegol drwy'r system fflecsi. Rydym yn gobeithio recriwtio Therapydd Galwedigaethol profiadol sydd â chyfoeth o wybodaeth, sgiliau a phrofiad, wedi gweithio ar draws ystod o wasanaethau a grwpiau o gleientiaid sy'n derbyn cefnogaeth gofal cymdeithasol gan gynnwys plant, pobl hÅ•n, anableddau dysgu, anghenion tai cymhleth ac addasiadau, a symud a chario. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus wedi ei gofrestru gyda HCPC. Byddwch yn gweithio yng nghartrefi'r cleientiaid gyda thimau amlddisgyblaethol gan gynnwys darparwyr gofal cymdeithasol, tai, addysg ac iechyd i sicrhau'r canlyniadau gorau i'ch cleientiaid a'u gofalwyr. Mae'n rhaidi chi gael profiad o oruchwylio staff, rheoli llwythi achosion cymhleth ac ymrwymo i ddatblygu eich sgiliau rheoli ac arwain. Am drafodaeth anffurfiol ar ôl gweld y swydd-ddisgrifiad, cysylltwch â Cressida Travis neu Joanna Fitton Rheolwr Tîm Therapi Galwedigaethol ar 01978 298003/298008. Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed. Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg