Therapydd Galwedigaethol, llawn amser (37 awr), parhaol Gradd 11 (£42,839) – Gradd Gychwynnol ar gyfer Therapydd Galwedigaethol - cofrestru gyda'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal
Gradd 12 (£46,142) – Gradd Therapydd Galwedigaethol Profiadol - o leiaf 3 blynedd o brofiad ôl-gymhwyso, gan gynnwys o leiaf 1 flwyddyn mewn lleoliad cymunedol, a chofrestru gyda'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal.
Mae'n dda gan Gyngor Rhondda Cynon Taf gynnig swydd Therapydd Galwedigaethol yn rhan o'i Garfan Adsefydlu. Rydyn ni'n chwilio am Therapydd Galwedigaethol brwdfrydig i ymuno â'r garfan yn Rhondda Cynon Taf, wedi'i leoli yn Nhŷ Elái, Rhondda, CF40 1NY.
Mae'r gwasanaeth Adsefydlu yn fenter waith ar y cyd rhwng iechyd a gofal cymdeithasol sy'n cynnwys Therapyddion Galwedigaethol, Ffisiotherapyddion, Cynorthwyydd Therapi Galwedigaethol (OTA), Ymarferwyr Therapi Cynorthwyol (ATP), Arweinydd Carfan a charfan hyfforddedig iawn o staff gofal cymdeithasol.
Byddwch chi'n rhoi cymorth i unigolion drwy gyflwyno rhaglen gymorth hyd at 6 wythnos, er mwyn darparu cyfleoedd i wella o afiechyd ac atal penodau o ddirywiad iechyd lle bo modd. Weithiau ar ôl cyfnod yn yr ysbyty, gall pobl golli hyder a phoeni am eu diogelwch a'u gallu i ymdopi gartref. Mae'r Gwasanaethau Adsefydlu yn tawelu meddwl unigolion ac mae'n eu hannog i gynnal sgiliau byw sylfaenol, i'w hail-ddysgu neu i'w dysgu. Mae'n rhoi cymorth i bobl gyflawni eu llawn botensial ac i atal neu leihau'r angen i ddefnyddio gwasanaethau yn y gymuned dros dymor hirach.
Mae'r gwasanaeth Adsefydlu yn gweithio ar draws ardaloedd Rhondda Cynon Taf.
Mae gan y Garfan bwyslais ar waith aml-asiantaeth a bydd disgwyl i chi weithio'n agos gyda chydweithwyr o'r maes iechyd a nifer o asiantaethau eraill.
O'ch penodi, byddwch chi'n dod â sgiliau asesu, cyfathrebu a chynllunio da i sicrhau canlyniadau cadarnhaol i'r unigolion rydym ni'n gweithio gyda nhw.
Rhaid eich bod chi'n Therapydd Galwedigaethol cymwysedig sydd â phrofiad o ddarparu goruchwyliaeth glinigol i staff neu fyfyrwyr, a phrofiad profedig mewn lleoliad cymunedol. Byddwch chi'n gyfrifol am lwyth achosion ac yn darparu goruchwyliaeth a chymorth i staff gofal cymdeithasol.
Ynghyd â dangos dealltwriaeth o reoli risg a materion diogelu, mae amddiffyn plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd i bob aelod o staff y Cyngor.
Mae aelodau o'r garfan yn gweithio'n hyblyg ac o'r swyddfa yn Nhŷi.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael goruchwyliaeth reolaidd un wrth un yn ogystal â sesiynau Datblygiad Proffesiynol Parhaus dan arweiniad cyfoedion. Mae gyda phob un o'n hymarferwyr gyfle i ddylanwadu ar ddatblygiad ein gwaith. Maen nhw'n cael cymorth gan garfan reoli gadarn a phrofiadol ar lefelau strategol a gweithredol.
Rydyn ni'n cydnabod bod y maes Therapi Galwedigaethol yn un heriol, yn broffesiynol ac yn bersonol, a'i fod yn gofyn am sgiliau, ymrwymiad a brwdfrydedd sylweddol. Mae gyda ni ganolfan Addysg a Datblygu fewnol, bwrpasol sy'n rhoi cymorth ymarferol ar bob lefel i ymarferwyr gynnal a datblygu eu sgiliau.
Ar hyd y blynyddoedd diwethaf, mae ein Hadrannau Gwasanaethau Cymdeithasol wedi elwa yn sgil buddsoddiad cynhwysfawr a sylweddol. Yn sgil hyn, rydyn ni wedi cryfhau'n gwasanaethau ataliol gan anelu at leihau'r pwysau ar y rheng flaen.
O'n elwa ar lwybr gyrfa gwell ar gyfer gweithwyr proffesiynol yn y maes Therapi Galwedigaethol, a phecyn buddion sy'n cynnwys gweithio hyblyg, pris gostyngol ar gyfer aelodaeth Hamdden am Oes a chyfle i fanteisio ar y cynllun 'Beicio i'r Gwaith'.
I'r sawl sy'n dechrau eu gyrfa yn y maes Therapi Galwedigaethol, byddwch chi'n derbyn cymorth i gwblhau ein rhaglen, Y Flwyddyn Gyntaf yn Ymarfer. Y nod o ran y rhaglen yma yw lleihau'r bwlch rhwng ennill cymhwyster a rhoi hynny ar waith yn ymarferol.
Rhaid i chi feddu ar gymhwyster Therapi Galwedigaethol proffesiynol cydnabyddedig ac mae disgwyl i chi fod wedi'ch cofrestru'n "Therapydd Galwedigaethol" gyda'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal adeg eich penodi, a'ch bod yn cynnal y cofrestriad hwnnw ar ôl eich penodi.
Os byddwch chi'n cyrraedd y rhestr fer ar gyfer cyfweliad, bydd raid ichi gadarnhau a ydych chi'n gwneud cais am swydd Therapydd Galwedigaethol (GR11) neu Therapydd Galwedigaethol Profiadol (GR12) cyn y cyfweliad. Bydd angen i'r rhai sy'n gwneud cais am swydd Therapydd Galwedigaethol Profiadol fod yn barod i ddarparu tystiolaeth yn y cyfweliad eu bod wedi'u cofrestru gyda'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal, a bod gyda nhw 3 blynedd o brofiad ôl-gymhwyso, gan gynnwys o leiaf 1 flwyddyn mewn lleoliad cymunedol. Rhaid i ymgeiswyr sy'n dechrau eu gyrfa gyda RhCT mewn swydd Therapydd Galwedigaethol Profiadol fod yn barod i gwblhau Rhestr Wirio Tystiolaeth Fframwaith Dilyniant RhCT o fewn chwe mis cyntaf eu cyflogaeth. Am ragor o wybodaeth a sgwrs anffurfiol cysylltwch ag Alesha Payne (Prif Therapydd Galwedigaethol) neu Vijay Selvaraj (Arweinydd Carfan) ar (01443) 425070. Buddion gweithio i Gyngor Rhondda Cynon Taf: - Trefniadau Gweithio Hyblyg (gan ddibynnu ar y swydd)
- Cyfleoedd datblygu gyrfa ardderchog
- Cynllun pensiwn arbennig gyda chyfraniadau gan y cyflogwr
- Cymorth a chyngor iechyd galwedigaethol
- Cynllun buddion ar gyfer staff
- Cerdyn gostyngiadau Vivup
Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.
Yn ogystal âr cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio’n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus. Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Yn rhan o'i amcanion hirdymor mewn perthynas âr Gymraeg a Strategaeth Cynllunio'r Gweithlu, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer siaradwyr Cymraeg Lefel 3 ac uwch. Os ydych chi'n bodloni'r meini prawf hanfodol wedi'u nodi yn y fanyleb person ar gyfer y swydd ac yn siaradwr Cymraeg Lefel 3 ac uwch, bydd gwahoddiad i gyfweliad i chi os byddwch chi'n dewis cymryd rhan yn y cynllun. Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed wrthon ni cyn pen pedair wythnos o'r dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.
Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi’r Lluoedd Arfog, rhaid i’n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr neu filwyr wrth gefn, sy’n cwrdd â’r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.