Neidio i'r prif gynnwys

Therapydd Galwedigaethol Ymgynghorol

Dyddiad cau 18/02/2026

Cyflogwr

Bridgend County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Lleoliad

  • Penybont
    • Pob ardal

Manylion

Oriau contract
Llawn Amser

Disgrifiad o'r swydd

37 awr yr wythnos

Mae hon yn adeg gyffrous i ymuno â'n Timau Rhwydwaith Clwstwr Integredig. Mae tîm y clwstwr yn gweithio ac yn cefnogi i ddatblygu tîm o amgylch y person a'i deulu neu'r rhai sy'n bwysig iddynt. Gall y bobl rydym yn eu cynorthwyo wynebu heriau cymhleth hirdymor o ran eu hiechyd corfforol, meddyliol a'u llesiant emosiynol. Mae'n gweithio gydag oedolion hŷn ac iau. Ein nod yw darparu cymorth cyfannol i'w galluogi i fyw eu bywydau fel y dymunant a sicrhau llais, dewis, annibyniaeth a rheolaeth yn eu bywydau. Rydym yn ceisio penodi therapydd galwedigaethol creadigol, brwdfrydig, uchelgeisiol amser llawn yn y Rhwydweithiau Clwstwr Integredig. r timau'n cynnwys gweithwyr cymdeithasol, nyrsys ardal, therapyddion galwedigaethol; ffisiotherapyddion; deieteg; Therapi Lleferydd ac Iaith; fferylliaeth a nyrsio seiciatrig cymunedol. Rydym yn gweithio'n agos gyda meddygfeydd ac asiantaethau trydydd sector i asesu a chynorthwyo anghenion oedolion y mae cyflyrau cymhleth ac andwyol hirdymor yn effeithio arnynt yn ogystal âu gofalwyr a'u teuluoedd.

Sut i wneud cais

Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr

Gwneud cais ar-lein

Dewch o hyd i swydd mewn gofal plant

Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein bwrdd swyddi i gael syniad o'r math o rolau sy'n fanteisiol.