Mae'r Gwasanaethau Chwarae Plant hefyd yn darparu amrywiaeth o brosiectau a digwyddiadau chwarae drwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys y digwyddiad Diwrnod Chwarae Cenedlaethol sy'n cael ei gynnal bob mis Awst ar gyfer pob plentyn ledled Caerdydd.
Yng Nghyngor Caerdydd rydym yn cymryd lles ein holl staff o ddifrif ac yn ymdrechu i ddarparu trefniadau gweithio cadarnhaol sy'n cefnogi ein gweithlu i deimlo eu bod yn cael eu parchu a'u gwerthfawrogi. Dyma rai enghreifftiau o'r ffordd rydym yn ceisio cyflawni hyn, gyda chyfleoedd i chi fel gweithiwr:
- Mynediad at Gronfa Bensiwn Caerdydd a Bro Morgannwg sy'n rhan o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL), sy'n cynnig cynllun pensiwn diogel, hyblyg a dibynadwy, ar gyfer tawelwch meddwl.
- Cyfleoedd hyfforddi a datblygu rhagorol a gynigir gan dîm datblygu'r gweithlu gwybodus ac ymroddedig, p'un a ydych newydd gymhwyso neu'n ymarferydd profiadol sy'n arbenigwr yn eich maes.
- Cyfleoedd ar gyfer datblygu gyrfa ar draws Tîm Cymorth Cynnar Caerdydd gyfan - rydym yn annog datblygiad gyrfaol ac yn cefnogi gweithwyr i sicrhau bod ganddynt fynediad i ddatblygu eu cryfderau ym mhob maes.
- Rhoddir cymorth drwy fentora, goruchwyliaeth ac uwch dîm rheoli sy'n cydnabod cyflawniadau ac yn dathlu llwyddiant.
About the jobMae Trefnwyr Chwarae'r Gwasanaethau Chwarae Plant yn cyfrannu at weithredu, datblygu a darparu cyfleoedd chwarae o safon yn llwyddiannus yn ein lleoliadau chwarae ledled y ddinas.
Byddwch yn rhan o dîm chwarae deinamig sy'n darparu cyfleoedd chwarae creadigol, hwyl ac ysgogol sy'n canolbwyntio ar y plentyn, rydym yn chwilio am Drefnydd Chwarae brwdfrydig i ymuno â'r Tîm Chwarae presennol.
What We Are Looking For From YouMae Cymhwyster Gwaith Chwarae L2 yn hanfodol. Dilynwch y ddolen i ddysgu mwy am Gymwysterau Chwarae hanfodol. https://chwarae.cymru/gwaith-chwarae/cymwysterau-a-hyfforddiant/
Gweler y Disgrifiad Swydd a'r Fanyleb Person sydd wedi'u hatodi i gael gwybodaeth bellach am y rôl.
Rhaid i chi fod â phrofiad o weithio gyda phlant mewn amgylchedd gwaith chwarae. Cefnogi plant i gymryd rhan mewn gweithgareddau chwarae rhydd.
Profiad o gynllunio, paratoi a darparu amgylchedd chwarae ysgogol, cyffrous a heriol drwy ymgynghori â phlant i rymuso eu chwarae.
Gallu cyfathrebu'n effeithiol â phlant, pobl ifanc a'u teuluoedd
Ymrwymiad i'r egwyddorion a'r arferion a nodir yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn.
Additional informationOs oes gennych chi gwestiynau am y rôl, cysylltwch â
Becki Miller ar
07967843132 a fydd yn fwy na pharod i'ch helpu.
Os oes angen cymorth ychwanegol arnoch i gwblhau'r cais am y swydd Trefnydd Chwarae, gall ein tîm Gwasanaeth Cyngor i Mewn i Waith eich helpu. I gael rhagor o gymorth ffoniwch 029 2087 1071 neu e-bostiwch cyngorimewniwaith@caerdydd.gov.uk
Dylai'r ymgeisydd/wyr llwyddiannus allu cyfathrebu'n effeithiol yn Gymraeg hyd at Lefel 3 - Canolradd.
Swydd dros dro yw hon tan 31 Mawrth 2026, gyda'r posibilrwydd o'i hymestyn.
Rhaid i ymgeiswyr mewnol sy'n dymuno gwneud cais am y swydd hon ar sail secondiad gael cymeradwyaeth cyn gwneud cais gan ddefnyddio Ffurflen SEC1 (4.C.081). Dim ond y Cyfarwyddwr / Cyfarwyddwr Cynorthwyol / Prif Swyddog neu uwch swyddog enwebedig ar radd nad yw'n is na RhG2, neu yn achos staff mewn ysgolion, y Pennaeth / Corff Llywodraethu, all gymeradwyo ceisiadau.
Mae'r swydd hon yn addas i'w rhannu.
Mae'r swydd hon yn amodol ar Wiriadau Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae'r rôl hon yn un rhan amser am hyd at 20 awr yr wythnos, 52 wythnos y flwyddyn (yn gweithio rhwng 2pm a 6pm fel arfer). Mae'r cyflog a hysbysebir yn seiliedig ar rôl amser llawn (37 awr yr wythnos, 52 wythnos y flwyddyn). Bydd y cyflog gwirioneddol yn is na'r cyflog a hysbysebir oherwydd yr oriau a'r wythnosau rhan-amser a weithiwyd.
Rydym yn deall y gallech ddefnyddio deallusrwydd artiffisial ac adnoddau eraill ar gyfer eich cais; fodd bynnag, gwnewch yn siŵr bod yr holl wybodaeth rydych chi'n ei chyflwyno yn ffeithiol gywir, yn onest, yn wreiddiol ac nad yw'n cynnwys syniadau neu waith nad ydynt yn eiddo i chi.
Rydym yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Sylwer nad yw'r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth lenwi adran gwybodaeth ategol eich cais, gwnewch yn siŵr eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan : Gwybodaeth bwysig y mae angen i chi ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:- - Canllaw ar Wneud Cais
- Ymgeisio am swyddi gyda ni
- Fframwaith Cymwyseddau Ymddygiadol
Gwybodaeth Ychwanegol: - Siarter Cyflogeion
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Hysbysiad Preifatrwydd
Atodiadau
- DISGRIFIAD SWYDD A MANYLEB PERSON