Ynglŷn â'r swydd wag Cyfeirnod y Swydd Wag: 2198
Sefydliad:
Cyngor Sir Caerfyrddin
Nifer y swyddi gwag:
1
Math o gontract:
Parhaol Amser Llawn
Lleoliad:
Caerfyrddin, Llanelli, Rhydaman
Gradd:
Gradd I
Cyflog:
£39,152 - £42,839
Os yw'n rhan-amser a/neu yn ystod y tymor, bydd y cyflog llawn amser a ddyfynnir (yn seiliedig ar 37 awr) ar sail pro rata yn unol â hynny
Cyfradd yr awr:
£20.29 - £22.21
Oriau Contract:
37 awr
Dewch i ymuno â'n tîm Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn chwilio am arbenigwr adsefydlu golwg brwdfrydig a chymwys gyda phrofiad rheoli i ymuno â'r Tîm Nam ar y Golwg ac arwain tîm o 4 Arbenigwr Adsefydlu Golwg.
Rhaid i chi feddu ar brofiad rheoli, gwybodaeth dda am gyflyrau'r llygaid a chymhorthion a thechnoleg nam ar y golwg, a meddu ar sgiliau rhagorol o ran datrys problemau. Bydd y rôl yn cynnwys goruchwylio'r 4 aelod o'r tîm, cynrychioli'r tîm mewn cyfarfodydd lleol a chenedlaethol, hyrwyddo'r gwasanaeth a pherfformiad rheoli, yn ogystal ag asesu anghenion unigolion a darparu cyngor, offer a hyfforddiant perthnasol i'w helpu i gyflawni eu nodau ac i'w grymuso i fyw bywydau annibynnol a boddhaus. Dylech allu sgrinio ac aseinio atgyfeiriadau newydd i'r gwasanaeth mewn modd hyblyg, gyda phwyll ac amhleidiol, tra'n cefnogi staff ac yn sicrhau bod yr awdurdod lleol yn darparu ymyriadau o ansawdd uchel.
Bydd y rôl yn gofyn i chi weithio gydag oedolion o bob oed â chyflyrau llygaid amrywiol, a delio ag achosion cymhleth pan fyddant yn codi. Mae'r rôl wedi'i lleoli yn Rhydaman ac mae'n cynnwys gweithio ar draws y sir yn y gymuned. Mae hyblygrwydd i weithio o swyddfeydd yng Nghaerfyrddin a Llanelli ac o gartref pan fydd yn addas.
Gallwn gynnig:
- ymsefydlu cynhwysfawr
• goruchwyliaeth broffesiynol reolaidd
• gweithio ystwyth/hybrid
• gweithio hyblyg
• 27 diwrnod o wyliau blynyddol ar ddechrau'r swydd, yn cynyddu i 35 diwrnod ynghyd â 8 gŵyl y banc
• cynllun pensiwn llywodraeth leol
• buddion i weithwyr
• ad-daliad o ffioedd cofrestru gwaith cymdeithasol
• cyfle i symud ymlaen a rhaglen datblygiad proffesiynol gefnogol
Mae'r gallu i deithio ar draws y sir yn hanfodol.
Am sgwrs anffurfiol ynghylch y swydd hon, cysylltwch â Jayne Thomas, Uwch Reolwr Cyflenwi Ar Gyfer Gwasanaethau Integredig Gofal Hirdymor ar 01267-246942 neu 07500 994397.
Disgrifiad Swydd:
010307.pdf - 151KB ~~EFORM_FILE_NEW_WINDOW~~
Dyddiad disgwyliedig y cyfweliad:
15 Hydref 2025
Lefel DBS:
Bydd gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd gan Wirio'r Rhestr Wahardd yn ofynnol ar gyfer y swydd hon. Mae'n drosedd gwneud cais am y swydd os yw'r ymgeisydd wedi'i wahardd rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau a reoleiddir sy'n berthnasol i blant neu oedolion sydd mewn perygl.
Lefel Sgiliau Cymraeg - Siarad:
Lefel 2 - Bydd angen ichi fod â lefel sylfaenol o Gymraeg llafar. Gellir darparu cymorth rhesymol ar ôl penodi i gyrraedd y lefel hon.
Dyddiad Cau: 30/09/2025, 23:55
Y Buddion Rydym yn cynnig pecyn buddion ardderchog, gan gynnwys:
- Cyflog cystadleuol
- Cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
- Hawl i wyliau blynyddol hael gyda'r opsiwn o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol
- Mynediad at gymorth iechyd a llesiant i staff
- Datblygiad personol a dilyniant gyrfa
- Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e., cynllun beicio i'r gwaith
- Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd
Gwybodaeth Ychwanegol Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol. ">
Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli. Cymhwysedd: Gofynnir i chi am eich cenedligrwydd ac a oes gennych hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Gwneir hyn er mwyn cael gwybod a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag hon. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer gweithio yn y Cyngor neu mewn sefydliadau partner: https://www.gov.uk/prove-right-to-work .
Nodwch: Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.
Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio' i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.
Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.