Conwy County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Lleoliad
Conwy
Pob ardal
Manylion
Math o gontract
Parhaol
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Gweithle
Cartrefi Gofal
Rôl
Gweithiwr Cartref Gofal i Oedolion
Disgrifiad o'r swydd
Dim ond gweithwyr mewnol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a ellir ymgeisio am y swydd hon.
Lleoliad gwaith: Llys Elian
Mae Llys Elian yn gartref preswyl 27 gwely ar gyfer pobl hyn sydd yn byw gyda Dementia, mae yna dri thŷ ar gyfer byw ynddynt yn barhaol ac un tŷ gofal seibiant a chanolfan ddydd.
Rydym yn dymuno penodi unigolyn ymroddedig a brwdfrydig i weithio am gyfnod penodol hyd Rhagfyr 2026 yn ein cartref preswyl.
Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn empathetig, ac yn angerddol am ddarparu gofal rhagorol.
Fel Uwch Gymhorthydd Gofal bydd gofyn i chi sicrhau bod y gefnogaeth o'r safon uchaf ac yn cydymffurfio â'r holl reoliadau, a sicrhau bod safonau'n cael eu cyflawni drwy gefnogi staff gofal a rheolaeth.
Bydd gofyn i chi drefnu, monitro a goruchwylio staff rheng flaen. Rydym ni'n chwilio am rywun arloesol o ran darparu gwasanaethau cefnogi i bobl â dementia gan y bydd hyn yn cael ei adlewyrchu yn y cynlluniau sy'n canolbwyntio ar y person.
Eich gwaith fydd cynnig cefnogaeth ymarferol ac emosiynol i unigolion ar bob agwedd o dasgau bywyd ddydd i ddydd fel gofal personol, cynnal annibyniaeth, rhoi meddyginiaeth, a diddordebau a sgiliau bywyd.
Rhoddir hyfforddiant a bydd rhai oriau gwaith yn dennu tâl uwch fesul awr. Mae cyfle i weithio oriau ychwanegol.
Bydd disgwyl i chi fod yn gyfathrebwr da a byddwch yn cyfathrebu gydag amryw o bobl or unigolion sydd yn derbyn gwasanaeth, teuluoedd a ffrindiau yn ogystal â gweithwyr gofal proffesiynol eraill fel Meddygon Teulu a Gweithwyr Cymdeithasol.
Bydd disgwyl i chi weithio mewn tîm i gynnal a gwella lles unigolion - rhoi gwybod i rheolwyr am unrhyw bryderon.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg a Saesneg yn hanfodol; mae'r gallu i ysgrifennu'n Saesneg yn hanfodol ac yn ddymunol yn Gymraeg.
Bydd gofyn i chi ymgymryd â gwiriad Datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Meinir Roberts, Rheolwr, 01492 577773, Meinir.roberts@conwy,gov.uk
Gofynion y Gymraeg: Mae'r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o'n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd. Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a'ch annog i ddefnyddio'ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i'ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Cliciwch yma i ddysgu am y manteision o ymuno â Thîm Conwy.
Dysgwch fwy am ein proses recriwtio drwy fynd i'n Tudalen Proses Recriwtio.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy'n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy'n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.
Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.
Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi'i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda 'H' ar y Manylion am yr Unigolyn). Angen rhywfaint o gymorth gyda'ch cais? Mae gennym awgrymiadau, canllawiau a gwasanaethau cymorth i'ch helpu chi drwyddo .
Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch â'r rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.
This form is also available in English.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr