Ynglŷn â'r swydd wag Cyfeirnod y Swydd Wag: 1653
Sefydliad:
Cyngor Sir Caerfyrddin
Adran:
Llanelli (Tîm Cymunedol Anableddau Dysgu)
Nifer y swyddi gwag:
1
Math o gontract:
Parhaol Amser Llawn
Lleoliad:
Sir Gaerfyrddin
Gradd:
Gradd N
Cyflog:
£59,054 - £67,823
Os yw'n rhan-amser a/neu yn ystod y tymor, bydd y cyflog llawn amser a ddyfynnir (yn seiliedig ar 37 awr) ar sail pro rata yn unol â hynny
Cyfradd yr awr:
£30.61 - £35.15
Oriau Contract:
37 awr
Dewch i ymuno â'n tîm Cyfle Uwch-reoli yn Sir Gaerfyrddin Uwch-reolwr (Datblygu Gwasanaethau, Anghenion Cymhleth a Phontio) Ydych chi'n rheolwr profiadol ym maes gofal cymdeithas sy'n teimlo'n angerddol dros arwain newid trawsnewidiol? Oes gennych chi'r uchelgais a'r sgiliau i oruchwylio gwasanaethau sefydledig wrth arwain mentrau arloesol newydd? Os felly, mae gennym ni gyfle cyffrous ar lefel uwch-reolwr fyddai'n berffaith i chi.
Rydym yn chwilio am arweinydd rhagorol sy'n rhannu ein huchelgais ar gyfer y dyfodol ac sydd wedi ymrwymo i wneud gwahaniaeth cadarnhaol. Drwy ymuno â'n tîm, byddwch chi'n chwarae rôl hanfodol i yrru ein rhaglen uchelgeisiol o newid sydd â'r nod o wella gwasanaethau a chyflawni rhagoriaeth.
Mae hon yn rôl unigryw sy'n gweithio ar draws ein gwasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion a'r gwasanaethau plant a theuluoedd. Bydd y rôl yn uniongyrchol gyfrifol am ddarparu a datblygu gwasanaethau 'ar draws pob oedran' ar gyfer plant a phobl ifanc anabl, a bydd yn arwain ar y gwaith o ddatblygu llety byw â chymorth i oedolion.
Drwy weithio gyda ni, byddwch yn rhan bwysig o rywbeth mwy gan fod gennym raglen uchelgeisiol o newid i wella gwasanaethau. Os ydych chi'n gyffrous am y swydd hon, yn greadigol ac yn dalentog, ac mae gennych chi agwedd "gallu gwneud", byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Yn gyfnewid am hyn, cewch eich cefnogi gan dîm cryf, awdurdod sefydlog a reolir yn dda, sy'n ymrwymedig i arloesi a gwella parhaus.
Mae'r portffolio a'r cyfrifoldebau rheoli uniongyrchol penodol yn destun newid.
Bydd cyfweliadau yn cael eu cynnal ar yr 23ain o Fai Mai 2025.
I gael rhagor o wybodaeth neu i drefnu sgwrs anffurfiol, cysylltwch â Kevin Barlow, Uwch-reolwr KevinBarlow@sirgar.gov.uk
Disgrifiad Swydd:
019386.pdf - 156KB ~~EFORM_FILE_NEW_WINDOW~~
Dyddiad disgwyliedig y cyfweliad:
23 Mai 2025
Lefel DBS:
Bydd gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd gan Wirio'r Rhestr Wahardd yn ofynnol ar gyfer y swydd hon. Mae'n drosedd gwneud cais am y swydd os yw'r ymgeisydd wedi'i wahardd rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau a reoleiddir sy'n berthnasol i blant neu oedolion sydd mewn perygl.
Lefel Sgiliau Cymraeg - Siarad:
Lefel 2 - Bydd angen ichi fod â lefel sylfaenol o Gymraeg llafar. Gellir darparu cymorth rhesymol ar ôl penodi i gyrraedd y lefel hon.
Dyddiad Cau: 15/05/2025, 23:55
Y Buddion Rydym yn cynnig pecyn buddion ardderchog, gan gynnwys:
- Cyflog cystadleuol
- Cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
- Hawl i wyliau blynyddol hael gyda'r opsiwn o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol
- Mynediad at gymorth iechyd a llesiant i staff
- Datblygiad personol a dilyniant gyrfa
- Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e., cynllun beicio i'r gwaith
- Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd
Gwybodaeth Ychwanegol Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol. ">
Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli. Cymhwysedd: Gofynnir i chi am eich cenedligrwydd ac a oes gennych hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Gwneir hyn er mwyn cael gwybod a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag hon. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer gweithio yn y Cyngor neu mewn sefydliadau partner: https://www.gov.uk/prove-right-to-work .
Nodwch: Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.
Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio' i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.
Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.