Oriau gwaith: 37 oriau yr wythnos - Bydd yr oriau hyn yn cael eu gweithio yn ôl trefn rota Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch chi am yr oriau sydd ar gael, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio gan ddefnyddio'r manylion wedi'u darparu isod.
Math o gontract: Llawn Amser, Parhaol
Lleoliad: Cartref Preswyl Min y Mynydd
Tîm: Gwasanaethau Preswyl Pobl Hŷn
Mae'r swydd hon yn cynnig cyfle gwych i ddod yn rhan o'n tîm ni a darparu cymorth ar draws y sefydliad.
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £31,537 - £34,434 ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu. Mae Cartref Preswyl Min-y-Mynydd yn wasanaeth wedi'i gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru sy'n darparu llety tymor hir a thymor byr i bobl hŷn sy'n byw gyda dementia.
Rydyn ni'n edrych am unigolyn brwdfrydig i ymuno âr tîm gan weithio ochr yn ochr âr Rheolwr a'r Dirprwy Reolwr, sydd âr sgiliau, profiad a'r ymrwymiad angenrheidiol i reoli’m o staff a darparu arweiniad iddyn nhw. Byddwch chi'n sicrhau bod pobl sy'n byw yn y cartref yn cael gofal o'r safon uchaf ac yn byw bywyd bodlon, ystyrlon.
Mae'r Uwch Swyddog Gofal yn gyfrifol am y cartref yn absenoldeb y Rheolwr Tîm a'r Dirprwy Reolwr Cofrestredig. Mae hon yn rôl sydd wedi ei lleoli yn y swyddfa er, pan fydd angen, bydd yn darparu cymorth uniongyrchol i bobl sy'n byw yn y cartref.
Ar gyfer y rôl, gofynnwn i chi: - Diploma Lefel 5 QCF mewn Arweinyddiaeth ar gyfer Gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol neu gyfwerth fel y'i cydnabyddir gan Gofal Cymdeithasol Cymru a/neu Diploma Lefel 3 mewn Gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol neu gyfwerth fel y'i cydnabyddir gan Gofal Cymdeithasol Cymru.
- Gwybodaeth am Arolygiaeth Gofal Cymru a'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Cartrefi Gofal i Bobl Hŷn.
- Profiad o weithio mewn amgylchedd gofal.
- Trwydded yrru lawn y DU Categori B (Ceir) a defnydd o gerbyd modur wedi'i yswirio at ddibenion busnes i deithio ledled y Fwrdeistref Sirol i fynychu cyfarfodydd.
Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, patrymau gweithio ystwyth a chynlluniau disgownt i staff.
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau.
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Heber Moseley ar 01685 840595 neu ebost:
moselh@caerphilly.gov.uk.
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â
webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth. r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.