Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu'n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi fel un o'r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol neu manylion pellach gellir cysylltu â Manon Fon Owen drwy e-bost: manonfonowen@gwynedd.llyw.cymru
Ffurflenni cais ar gael gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy'r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Pecyn Recriwtio Plant a Chefnogaeth Teuluoedd.pdf
Manylion Person NODWEDDION PERSONOL HANFODOL Yn berson sy'n gallu ysbrydoli eraill. Yn berson sy'n gallu cyfathrebu'n naturiol gyda phobl ifanc, teuluoedd, cydweithwyr a gweithwyr o asiantaethau eraill. Yn berson sensitif a hyblyg. Yn berson hyderus a diplomataidd. Y gallu i weithio mewn modd gwrth-ormesol. Yn hyblyg i weithio oriau anghymdeithasol.
DYMUNOL - CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL HANFODOL Cymhwyster cydnabyddedig gofal plant e.e NVQ/QCF Lefel 3 Gofal Iechyd a Chymdeithasol - Llwybr Gofal Plant neu yn fodlon ennill y cymhwyster o fewn chwe mis o fod yn y swydd
DYMUNOL Unrhyw gymhwyster perthnasol arall yn y maes Anabledd neu Ofal Cymdeithasol PROFIAD PERTHNASOL HANFODOL Profiad o weithio hefo plant anabl neu plant sy'n wael. Profiad o gynllunio a threfnu gwaith yn strwythuredig ac yn effeithiol. Profiad o drefnu digwyddiadau neu weithgareddau gan gynnwys nifer o wahanol asiantaethau. Profiad o fod wedi cefnogi cydweithwyr yn y man gwaith.
DYMUNOL Profiad o reoli staff. Profiad o ddarparu adroddiadau ysgrifenedig yn y Gymraeg a'r Saesneg. SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL HANFODOL Tystiolaeth o allu gweithio fel aelod o dîm a gydag eraill. Tystiolaeth o allu cyfathrebu i safon dda, ar lafar ac yn ysgrifenedig. Tystiolaeth o allu rheoli a blaenoriaethu gwaith a gweithredu'n effeithiol dan bwysau. Y gallu i yrru, a gyda thrwydded yrru gyfredol. Gwybodaeth am anghenion plant anabl. Tystiolaeth o allu dehongli a chofnodi digwyddiadau yn gywir a chlir. Tystiolaeth o allu gweithio dan gyfarwyddyd a derbyn adborth. Tystiolaeth o'r gallu i gyfrannu at drafodaethau a chyfarfodydd. Tystiolaeth o allu dyfeisio a datblygu rhaglenni gwaith a fydd yn galluogi plant a phobl ifanc gael y gwasanaeth cefnogol gorau bosib.
DYMUNOL Y gallu cyflwyno gwybodaeth yn hyderus i gynilleidfaoedd amrywiol. Gwybodaeth am ddulliau o ddelio ag ymddygiad heriol. ANGHENION IEITHYDDOL HANFODOL Gwrando a Siarad - Lefel Uwch Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn. Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.
Darllen a Deall - Lefel Uwch Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol. Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu - Lefel Uwch Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)
Swydd Ddisgrifiad Pwrpas y Swydd. Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
I ddarparu ystod o becynnau o wasanaeth cefnogol i blant anabl neu blant a phobl ifanc sy'n wael, gan gynorthwyo'r Arweinyddion Gwasanaethau Cefnogol perthnasol i gydlynu'r gwaith.
Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer Cyfrifoldeb am staff achlysurol, offer e.e. cadair cludo ceir, offer symud a thrin, adnoddau o fewn y grwpiau.
Prif Ddyletswyddau. Hyrwyddo a galluogi plant a phobl ifanc sy'n derbyn gwasanaethau cefnogol gan Derwen i gyrraedd eu llawn potensial, mewn modd sydd yn hyrwyddo eu lles, iechyd, datblygiad a diogelwch.
Hyrwyddo a galluogi plant a phobl ifanc sy'n derbyn gwasanaethau cefnogol gan Derwen i ddatblygu eu sgiliau a hyrwyddo eu annibyniaeth.
Hyrwyddo dewis personol, galluogi plant i wneud penderfyniadau ystyriol ac i roi rheolaeth i blant dros benderfyniadau sy'n effeithio arnynt hwy.
Sicrhau bod y gwasanaeth yn ymateb i anghenion y plentyn / person ifanc a hyn mewn dull person canolog.
Gweithio o fewn egwyddorion Cefnogaeth Weithgar i annog cyfranogiad plant a phobol ifanc mewn tasgau pob dydd (am fwy o wybodaeth cliciwch yma: About Active Support | bild)
Gweithio o fewn egwyddorion Cefnogaeth Ymddygiad Cadarnhaol a dilyn cynlluniau Ymddygiad Cadarnhaol personol er mwyn sicrhau ymateb priodol a chyson i anghenion ymddygiadol (am fwy o wybodaeth cliciwch yma: About PBS | bild)
Sicrhau cysondeb mewn darpariaeth, a chydnabod pwysigrwydd y berthynas rhwng plant, teuluoedd a'r darparwr.
Ymgyfarwyddo â pholisïau, trefniadau a chanllawiau'r Cyngor ynglŷn ag arferion da a materion yn ymwneud a Iechyd a Diogelwch.
Paratoi adroddiadau manwl ar gynnwys sesiynau o wasanaeth cefnogol ac unrhyw angen perthnasol i'r plentyn, a chynnwys yr adroddiadau ar ffeil y plentyn.
Cefnogi plant a phobol ifanc gan gyfarch eu anghenion gofal personol yn ôl yr angen. Gwneud hyn mewn dull sy'n hyrwyddo a chynnal eu hurddas a phreifatrwydd.
Cynorthwyo'r Arweinyddion Gwasanaethau Cefnogol i gydlynu dyraniad gwaith i staff o ddydd i ddydd gan cynnwys cynnal sesiynau goruchwyliaeth gyda staff achlysurol.
Trefnu i ymweld a plant/pobl ifanc a'u teuluoedd i gwblhau'r proffil ac unrhyw asesiadau risg perthnasol yn dilyn derbyn asesiad a chynllun gofal gan Weithiwr Cymdeithasol.
Creu cynllun PCP gan adnabod sut byddwn yn cefnogi plant a phobl ifanc i gyrraedd eu deilliannau dewisol.
Dirprwyo elfennau a gytunwyd ymlaen llaw yn absenoldeb Arweinydd Gwasanaeth Cefnogol.
Bod yn berson cyswllt allan o oriau ar sail rota.
Cyfrifoldeb i weithio oriau dros nos pam mae'r angen.
Mentora a rhoi arweiniad rheolaidd i aelodau staff o fewn y tîm.
Cyfathrebu mewn ffordd glir, cwrtais ac eglur gydag plant a phobl ifanc, rhieni, aelodau eraill o'r tîm a gweithwyr proffesiynol eraill.
Adnabod, ymateb ac adrodd ar unrhyw bryderon diogelu yn unol a polisïau a gweithdrefnau Diogelu lleol a cenedlaethol (am fwy o wybodaeth cliciwch yma: Safeguarding Wales)
Mynychu cyfarfodydd Tîm ac unrhyw gyfarfodydd eraill fel bo'r angen ac a ystyrir yn addas gan y Rheolwr Gwasanaethau Cefnogol / Arweinyddion Gwasanaethau Cefnogol perthnasol.
Mynychu a pharatoi ar gyfer goruchwyliaeth gyson.
Cymryd cyfrifoldeb am datblygiad proffesiynol unigol gan adnabod cyrsiau hyfforddi addas a pherthnasol i'r rôl.
Ymrwymo i gôd Ymarfer Proffesiynol Gofal Cymdeithasol (am fwy o wybodaeth cliciwch yma: Codes of Professional Practice and guidance | Social Care Wales)
Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
Angen gweithio oriau hyblyg, dros y penwythnosau ac ar wyliau banc fel bo'r angen.
Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
Gweithredu o fewn polisïau'r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b. Yn unol ac anghenion y gwasanaeth mi fydd yr oriau cytundeb yn cael eu cyfarch ar sail rota dros 7 diwrnod yr wythnos.
Deilydd y swydd i fod yn ymwybodol gall yr oriau fod ar ôl 5y.h, oriau penwythnos neu oriau dros nos.
Angen cerbyd a trwydded yrru ddilys ac yswiriant busnes cyfredol.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr