Rydyn ni'n recriwtio Uwch Weithiwr Cymdeithasol yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.Oriau gwaith: 37 oriau (7.24 Dydd Llun - Dydd Gwener)
Math o gontract: Parhaol/Llawn amser
Lleoliad: Gall oriau gwaith gael eu rhannu rhwng y cartref a'r swyddfa yn dibynnu ar ofynion tasgau penodol.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â Thîm Caerffili a darparu cymorth ar draws Timau Iechyd Meddwl Cymunedol y Gogledd a’r De.
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £41,511–£44,711 ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu. Mae'r swydd hon yn denu Atodiad Marchnad o £2,863 y flwyddyn, yn ychwanegol at y cyflog blynyddol, a fydd yn cael ei dalu mewn 12 rhandaliad misol. Mae'r Timau wedi'u cydleoli â chydweithwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yng Nghanolfan Iechyd a Gofal Cymdeithasol Integredig Rhymni ac Adeilad yr Hen Ysgol, Mill Road, Caerffili, ac rydyn ni'n gweithio gyda defnyddwyr gwasanaeth 18 oed a hŷn sydd ag anghenion iechyd meddwl.
Bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus fod yn ddynamig a blaengar ac ymarfer yn unol â'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Gwaith Cymdeithasol a'r Cod Ymarfer ar gyfer Gweithwyr Gofal Cymdeithasol i ddarparu gwasanaethau asesu a rheoli gofal.
Fel Uwch Weithiwr Cymdeithasol, byddwch chi’n cynorthwyo'r Rheolwyr Tîm i ddarparu arweiniad a rheolaeth i staff gwaith cymdeithasol cymwys, gweithwyr cymorth a staff gweinyddol yn y tîm. Byddwch chi’n sicrhau bod staff yn darparu'r safonau uchaf o gymorth proffesiynol i ddefnyddwyr y gwasanaeth a gofalwyr, cydweithwyr a gweithwyr proffesiynol eraill.
Bydd disgwyl i chi gymryd rhan yn y rota dyletswydd Gweithwyr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy os oes gennych chi’r cymhwyster perthnasol a byddwch chi’n cynorthwyo Gweithwyr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy eraill o fewn y gwasanaeth i ymgymryd â'r rôl heriol hon yn effeithiol.
Ar gyfer y rôl, rydyn ni'n gofyn bod gennych chi'r canlynol: - Gradd/Diploma mewn Gwaith Cymdeithasol neu gymhwyster rhagflaenol.
- Dyfarniad Gweithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy.
- Gwybodaeth am Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014, Deddf Iechyd Meddwl 1983, y Cod Ymarfer a Deddfwriaeth Eilaidd cysylltiedig yng Nghymru, e.e. Mesur Iechyd Meddwl (Cymru).
- Trwydded yrru lawn y DU Categori B (Ceir) a defnydd o gerbyd modur wedi'i yswirio at ddibenion busnes/gwaith i deithio ledled y Fwrdeistref Sirol i fynychu cyfarfodydd/ymweld â chleientiaid yn eu cartrefi.
Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, patrymau gweithio ystwyth a chynlluniau disgownt i staff.
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Rhian Llewellyn/Julie O` Brien ar 01685 846444/02920 855020 neu ebost:
llewer1@caerphilly.gov.uk obriej2@caerphilly.gov.ukGellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth
Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Rhaid i chi feddu ar Ddiploma/Gradd mewn Gwaith Cymdeithasol neu ragflaenydd a bod wedi cofrestru fel Gweithiwr Cymdeithasol gyda Gofal Cymdeithasol Cymru (neu'n gallu trosglwyddo o gorff cydnabyddedig arall).
Mae’r gofynion cofrestru presennol yn nodi bod cwblhau’r cymhwyster Cydgrynhoi Ymarfer o fewn eich 3 blynedd gyntaf o ymarfer yn orfodol (os gwnaethoch gymhwyso ar ôl 1 Ebrill 2016). Bydd methu â chwblhau'r cymhwyster hwn yn llwyddiannus yn golygu na fyddwch yn gallu adnewyddu eich Cofrestriad Gwaith Cymdeithasol neu ymarfer fel Gweithiwr Cymdeithasol.
YMGEISWYR MEWNOL YN UNIG