Ynglŷn â'r swydd wag Cyfeirnod y Swydd Wag: 983
Sefydliad: Cyngor Sir Caerfyrddin
Adran: Canolfan Ddydd Cwmaman
Nifer y swyddi gwag: 1
Math o gontract: Parhaol Rhan-amser
Lleoliad: Sir Gaerfyrddin
Gradd: Gradd F
Cyflog: £27,711 - £31,586
Os yw'n rhan-amser a/neu yn ystod y tymor, bydd y cyflog llawn amser a ddyfynnir (yn seiliedig ar 37 awr) ar sail pro rata yn unol â hynny
Cyfradd yr awr: £14.36 - £16.37
Oriau Contract: 35
Dewch i ymuno â'n tîm Mae Canolfan Dydd Cwmamman yn ceisio recriwtio Uwch-weithiwr Cymorth. Mae'n gyfle cyffrous i unigolyn brwdfrydig, ymroddedig a hyblyg. Mae angen i'r unigolyn gael NVQ/QCF lefel 3 i gynorthwyo a dirprwyo, lle bo'n briodol, ar ran Arweinydd Gwasanaethu Dydd
Bydd y cyfrifoldebau yn cynnwys (ond nid yn gyfyngedig i):
- Goruchwylio a monitro staff
- Cofnodi systemau TG ac adrodd arnynt
- Rhestri Gwaith
- Dyletswyddau Gofal Personol
- Symud a Thrin, gan ddefnyddio offer lle bo'r angen
- Cymorth gyda meddyginiaeth (yn unol â Pholisi Meddyginiaeth yr Awdurdod)
• Cymryd cyfarwyddyd gan weithwyr proffesiynol sy'n ymweld (Meddyg Teulu, Nyrs Ardal ac ati)
Manteision gweithio i Gyngor Sir Caerfyrddin: Gwyliau blynyddol â thâl, Cynllun Pensiwn yr Awdurdod Lleol, Gwasanaeth Iechyd Galwedigaethol, Cynllun Beicio i'r Gwaith, oriau gwarantedig dan gontract, patrwm gwaith rheolaidd, gwisg a chyfarpar diogelu personol (PPE) wedi'u darparu, pecyn sefydlu a hyfforddi llawn â thâl.
Fel rhan o Bolisi a Gweithdrefn y Cyngor mae bellach yn ofynnol i weithwyr gofrestru ar gyfer y Gwasanaeth Diweddaru gan y DBS. Codir tâl blynyddol o £13 i danysgrifio i'r gwasanaeth hwn a fydd yn cael ei dalu gan yr unigolyn. Bydd yr Awdurdod yn talu am y gwiriad DBS cyntaf.
Bernadette Thomas
07812502827
Bethomas@carmarthenshire.gov.uk
Disgrifiad Swydd: 034503.pdf - 286KB ~~EFORM_FILE_NEW_WINDOW~~
Lefel DBS: Bydd gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd gan Wirio'r Rhestr Wahardd yn ofynnol ar gyfer y swydd hon. Mae'n drosedd gwneud cais am y swydd os yw'r ymgeisydd wedi'i wahardd rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau a reoleiddir sy'n berthnasol i blant neu oedolion sydd mewn perygl.
Lefel Sgiliau Cymraeg - Siarad: Lefel 3 - Bydd angen ichi fod â lefel dda o Gymraeg llafar. Gellir darparu cymorth rhesymol ar ôl penodi i gyrraedd y lefel hon.
Dyddiad Cau: 04/12/2024, 23:55
Y Buddion Rydym yn cynnig pecyn buddion ardderchog, gan gynnwys:
- Cyflog cystadleuol
- Cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
- Hawl i wyliau blynyddol hael gyda'r opsiwn o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol
- Mynediad at gymorth iechyd a llesiant i staff
- Datblygiad personol a dilyniant gyrfa
- Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e., cynllun beicio i'r gwaith
- Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd
Gwybodaeth Ychwanegol Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol. ">
Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli. Cymhwysedd: Gofynnir i chi am eich cenedligrwydd ac a oes gennych hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Gwneir hyn er mwyn cael gwybod a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag hon. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer gweithio yn y Cyngor neu mewn sefydliadau partner: https://www.gov.uk/prove-right-to-work .
Nodwch: Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.
Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio' i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.
Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.