Ynglŷn â'r swydd wag Cyfeirnod y Swydd Wag: 2283
Sefydliad:
Cyngor Sir Caerfyrddin
Nifer y swyddi gwag:
1
Math o gontract:
Parhaol Amser Llawn
Lleoliad:
Sir Gaerfyrddin
Gradd:
Gradd F +8%
Cyflog:
£30,886 - £35,204
Os yw'n rhan-amser a/neu yn ystod y tymor, bydd y cyflog llawn amser a ddyfynnir (yn seiliedig ar 37 awr) ar sail pro rata yn unol â hynny
Cyfradd yr awr:
£16.00 - £18.25
Oriau Contract:
37
Dewch i ymuno â'n tîm "Arwain gyda thosturi. Grymuso annibyniaeth."
Cael Effaith Barhaol - Ymunwch â'n Tîm Cartref yn Gyntaf - sydd wedi cael Sgôr Rhagorol gan Arolygiaeth Gofal Cymru, 2025. Ydych chi'n unigolyn profiadol, hyderus a thosturiol sy'n angerddol dros ofal yn y gymuned? Ydych chi'n barod i gymryd y cam nesaf yn eich gyrfa? Rydyn ni'n chwilio am
Uwch-weithiwr Cymorth rhagweithiol i ymuno â'n tîm a chwarae rôl hanfodol wrth ddarparu a llunio gwasanaethau Ailalluogi, Rhyddhau ac Adfer ac Asesu (D2RA) ac Osgoi Derbyniadau.
Yn y rôl hon, byddwch chi'n darparu cefnogaeth hanfodol i unigolion, yn bennaf oedolion hŷn, gan eu helpu i adennill annibyniaeth, meithrin hyder, a pharhau i fyw'n ddiogel yn eu cartrefi eu hunain.
Mae hon yn swydd uwch o fewn y Model Gofal Canolraddol Cartref yn Gyntaf, sy'n cael ei weithredu ar y cyd gan Gyngor Sir Caerfyrddin (CSC) a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
Yn yr uwch rôl hon, byddwch chi nid yn unig yn darparu gofal a chefnogaeth o ansawdd uchel, sy'n canolbwyntio ar y person, ond hefyd yn darparu arweiniad, mentora a chefnogaeth o ddydd i ddydd i'n tîm ymroddedig o Weithwyr Cymorth. Byddwch chi'n helpu i gydgysylltu cynlluniau gofal, monitro cynnydd, a sicrhau bod pob unigolyn yn derbyn y gefnogaeth gywir ar yr adeg gywir. Gan weithio fel rhan o dîm cefnogol a blaengar, byddwch chi'n ymrwymedig i wneud gwahaniaeth go iawn, un person ar y tro. Byddwch chi'n cefnogi'r Arweinwyr Gofal Canolradd, ac yn cael eich cefnogi ganddyn nhw, i gyflawni'r canlyniadau gorau posibl a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.
Beth rydyn ni'n chwilio amdano?Rydyn ni'n chwilio am
unigolyn hyderus, tosturiol ac uchel ei gymhelliant sy'n gallu arwain mewn lleoliad cymunedol, integredig prysur.
Byddwch chi'n rhywun sy'n:Meddwl yn holistaidd - Rydych chi'n gweld y darlun ehangach, yn deall sut mae'n rhaid i systemau iechyd a gofal cymdeithasol weithio gyda'i gilydd i gefnogi pobl yn effeithiol.
Arwain gyda phwrpas - Rydych chi'n brofiadol mewn goruchwylio ac ysgogi timau gofal, gan sicrhau safonau uchel ac atebolrwydd proffesiynol.
Cyfathrebu'n effeithiol ac yn hyderus - P'un a ydych chi'n ymgysylltu â chriwiau ambiwlans, meddygon teulu, therapyddion, teuluoedd neu'ch tîm eich hun, rydych chi'n meithrin ymddiriedaeth ac yn gweithredu'n benderfynol.
Gweithredu dan bwysau - Rydych chi'n hyderus mewn sefyllfaoedd cymhleth ac yn gallu ymateb yn gyflym i argyfyngau, cwympiadau ac atgyfeiriadau brys.
Canolbwyntio ar atebion - Rydych chi'n defnyddio'ch barn broffesiynol a'ch creadigrwydd i ddod o hyd i atebion sy'n canolbwyntio ar y person, gan gydbwyso risg, annibyniaeth a gofal diogel.
Ymrwymedig i ragoriaeth - Rydych chi'n deall y rheoliadau a'r safonau sy'n llywodraethu gofal yng Nghymru ac yn ymdrechu i'w rhagori arnyn nhw.
Adeiladu partneriaethau cryf - Rydych chi'n gweithio ar y cyd â chydweithwyr ar draws iechyd a gofal cymdeithasol i sicrhau darpariaeth gwasanaeth amserol, di-dor.
Rydyn ni'n chwilio am rywun sy'n rhannu ein gwerthoedd a'n hymddygiadau ac sy'n barod i lunio a darparu gofal cymunedol mewn ffyrdd newydd ac arloesol.
Pam ymuno â ni?- Ymgymryd â rôl arwain werth chweil o fewn tîm cefnogol, cydweithredol
- Helpu i lunio a goruchwylio darpariaeth gofal, gan sicrhau'r safonau uchaf
- Cael mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu gyrfa rhagorol
- Ennill profiad arweinyddiaeth amhrisiadwy mewn gofal cymdeithasol
Mae bod yn Uwch-weithiwr Cymorth yn ein Tîm Gartref yn Gyntaf yn fwy na swydd yn unig, mae'n gyfle i wneud newid cadarnhaol bob dydd. P'un a ydych chi eisiau cael gyrfa hirdymor mewn arweinyddiaeth gofal neu ddatblygu sgiliau goruchwylio allweddol ar gyfer y dyfodol, bydden ni'n falch iawn o glywed gennych chi.
Byddwch chi'n cael eich croesawu i dîm gofal canolraddol sefydledig. Dyma'ch cyfle i fod yn rhan o rywbeth mwy: sefydliad sy'n gwerthfawrogi eich cyfraniad, yn buddsoddi yn eich datblygiad, ac yn cynnig cyfleoedd gwirioneddol i dyfu.
Mae'r rôl yn cynnwys:- Cefnogi unigolion gyda gosod nodau a chynllunio adsefydlu
- Gweithio'n agos gyda defnyddwyr gwasanaeth, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol i hyrwyddo annibyniaeth ac adferiad
- Cyfrannu at ddull cydweithredol o ofal sy'n canolbwyntio ar y person
- Brysbennu a rheoli atgyfeiriadau mewn partneriaeth â gweithwyr proffesiynol o bob rhan o'r ICMDT, gan gynnwys meddygon teulu, nyrsys cymunedol, therapyddion, a gofal cymdeithasol.
- Gweithio'n agos gyda gwasanaethau ambiwlans i gefnogi unigolion ar bwynt argyfwng a helpu i osgoi derbyniadau diangen i'r ysbyty.
- Ymateb i atgyfeiriadau sy'n gysylltiedig â chwympiadau mewn cydweithrediad â gweithwyr iechyd proffesiynol a datblygu pecynnau cymorth tymor byr priodol i wneud y mwyaf o adferiad.
- Mae angen i chi fod yn hyblyg ar gyfer anghenion y gwasanaeth a gallu ymateb a gweithio ledled y sir
Mae ein graddau cyflog yn hynod gystadleuol gyda swyddi tebyg ar draws y sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae'r gyfradd fesul awr ar gyfer oriau cytundebol gwarantedig ymhlith y rhai sy'n talu orau yng Nghymru ac rydym hefyd yn gallu cynnig amrywiaeth o fuddion eraill megis talu costau teithio rhwng galwadau yn ogystal â 45c y filltir ar gyfer costau car personol, defnydd o geir adrannol, mynediad at gynlluniau gwobrwyo, cynllun pensiwn o safon uchel, hawl gwyliau â thâl hael, lwfansau mamolaeth a thadolaeth a llawer mwy.
Darperir dillad gwaith, bagiau, cyfarpar diogelu personol a ffonau symudol i bob aelod o'n tîm gofal cartref i weld eu rotâu a gwybodaeth am yr hyn sy'n digwydd yn y gwasanaeth a'r cyngor sir ehangach, gan gynnwys cynlluniau gostyngiadau i staff.
Os ydych am gael sgwrs anffurfiol am y swydd, cysylltwch â:
- Gail Sinclair: 07368 808289
Ebost: gsinclair@sirgar.gov.uk
- Marie Lane/Emma James: 07979 702474 / 07815 451831
Ebost: mlane@sirgar.gov.uk / ejames@sirgar.gov.uk
Disgrifiad Swydd:
035354.pdf - 278KB ~~EFORM_FILE_NEW_WINDOW~~
Lefel DBS:
Bydd gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd gan Wirio'r Rhestr Wahardd yn ofynnol ar gyfer y swydd hon. Mae'n drosedd gwneud cais am y swydd os yw'r ymgeisydd wedi'i wahardd rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau a reoleiddir sy'n berthnasol i blant neu oedolion sydd mewn perygl.
Lefel Sgiliau Cymraeg - Siarad:
Lefel 3 - Bydd angen ichi fod â lefel dda o Gymraeg llafar. Gellir darparu cymorth rhesymol ar ôl penodi i gyrraedd y lefel hon.
Dyddiad Cau: 12/10/2025, 23:55
Y Buddion Rydym yn cynnig pecyn buddion ardderchog, gan gynnwys:
- Cyflog cystadleuol
- Cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
- Hawl i wyliau blynyddol hael gyda'r opsiwn o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol
- Mynediad at gymorth iechyd a llesiant i staff
- Datblygiad personol a dilyniant gyrfa
- Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e., cynllun beicio i'r gwaith
- Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd
Gwybodaeth Ychwanegol Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol. ">
Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli. Cymhwysedd: Gofynnir i chi am eich cenedligrwydd ac a oes gennych hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Gwneir hyn er mwyn cael gwybod a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag hon. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer gweithio yn y Cyngor neu mewn sefydliadau partner: https://www.gov.uk/prove-right-to-work .
Nodwch: Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.
Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio' i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.
Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.