Ynglŷn â'r swydd wag Cyfeirnod y Swydd Wag: 1795
Sefydliad:
Cyngor Sir Caerfyrddin
Nifer y swyddi gwag:
2
Math o gontract:
Dros Dro/Secondiad - Amser Llawn
Dyddiad gorffen y contract:
31 Mawrth 2028
Lleoliad:
Sir Gaerfyrddin
Gradd:
Gradd G
Cyflog:
£31,067 - £35,235
Os yw'n rhan-amser a/neu yn ystod y tymor, bydd y cyflog llawn amser a ddyfynnir (yn seiliedig ar 37 awr) ar sail pro rata yn unol â hynny
Cyfradd yr awr:
£16.10 - £18.26
Oriau Contract:
37
Dewch i ymuno â'n tîm Mae Gwasanaethau Plant a Theuluoedd Cyngor Sir Caerfyrddin yn creu tîm newydd Teuluoedd gyda'i Gilydd ac rydym yn chwilio am
Uwch-weithwyr Cymorth i Deuluoedd gofalgar, creadigol ac ymroddedig i'n helpu i'w lywio a'i gyflawni.
Byddwch yn gweithio'n uniongyrchol gyda phlant, pobl ifanc a'u teuluoedd, gan feithrin perthnasoedd cryf, lawn ymddiriedaeth sy'n cefnogi newid cadarnhaol. Byddwch yn helpu plant a phobl ifanc i deimlo'n ddiogel, teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a theimlo bod pobl yn gwrando arnynt, ynghyd â helpu rhieni a gofalwyr i ddatblygu eu hyder a'u sgiliau rhianta. Rhan allweddol o'r rôl fydd helpu teuluoedd i gryfhau neu atgyweirio perthnasoedd, ac i adeiladu'r sylfeini sefydlog sydd eu hangen ar blant a phobl ifanc i ffynnu.
Byddwch yn gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr profiadol o bob rhan o'r gwasanaeth, a chael mynediad at y gefnogaeth a'r arbenigedd cywir i'ch helpu i lwyddo. Gyda'n gilydd, byddwn yn gweithio i gadw plant a phobl ifanc yn ddiogel, teuluoedd gyda'i gilydd a chymunedau yn gysylltiedig.
Rydym yn chwilio am berson ysbrydoledig, brwdfrydig a all arwain ac ysgogi tîm i ddarparu gwasanaeth o safon i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd. Os oes gennych brofiad o gefnogi pobl mewn rôl gofal cymdeithasol neu debyg, wedi ymgymryd â swydd oruchwylio ac yn barod i wneud gwahaniaeth gwirioneddol yn Sir Gaerfyrddin, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
I gael trafodaeth anffurfiol, cysylltwch â Robert Jenkins; RDJenkins@sirgar.gov.uk
Disgrifiad Swydd:
033957.pdf - 168KB ~~EFORM_FILE_NEW_WINDOW~~
Lefel DBS:
Bydd gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd gan Wirio'r Rhestr Wahardd yn ofynnol ar gyfer y swydd hon. Mae'n drosedd gwneud cais am y swydd os yw'r ymgeisydd wedi'i wahardd rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau a reoleiddir sy'n berthnasol i blant neu oedolion sydd mewn perygl.
Lefel Sgiliau Cymraeg - Siarad:
Lefel 3 - Bydd angen ichi fod â lefel dda o Gymraeg llafar. Gellir darparu cymorth rhesymol ar ôl penodi i gyrraedd y lefel hon.
Dyddiad Cau: 02/07/2025, 23:55
Y Buddion Rydym yn cynnig pecyn buddion ardderchog, gan gynnwys:
- Cyflog cystadleuol
- Cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
- Hawl i wyliau blynyddol hael gyda'r opsiwn o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol
- Mynediad at gymorth iechyd a llesiant i staff
- Datblygiad personol a dilyniant gyrfa
- Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e., cynllun beicio i'r gwaith
- Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd
Gwybodaeth Ychwanegol Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol. ">
Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli. Cymhwysedd: Gofynnir i chi am eich cenedligrwydd ac a oes gennych hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Gwneir hyn er mwyn cael gwybod a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag hon. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer gweithio yn y Cyngor neu mewn sefydliadau partner: https://www.gov.uk/prove-right-to-work .
Nodwch: Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.
Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio' i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.
Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.