Am y rôl: Mae'r rôl yn gofyn am unigolyn sydd â phrofiad o weithio gyda phobl ifanc mewn lleoliad preswyl gyda'r gallu i arwain sifft a chymryd cyfrifoldeb am bob agwedd o anghenion y bobl ifanc a chefnogaeth i staff pan fyddant ar shifft. Rydym yn chwilio am unigolyn tawel a threfnus sydd â'r gwerthoedd craidd o ddiwallu anghenion pobl ifanc a chynorthwyo i ddatblygu tîm newydd cyffrous mewn cartref plant Therapiwtig. O leiaf lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol gyda phobl ifanc neu gymhwyster perthnasol arall yn ôl gofal cymdeithasol Cymru.
Amdanoch chi: - Sgiliau i ddeall ACE a sut i reoli a chefnogi pobl ifanc
- Y gallu i reoli aelodau staff eich shifft gan sicrhau eu bod yn teimlo'n ddiogel.
- Cofnodion cywir yn y cartref, a dealltwriaeth a gwybodaeth o gynlluniau a gwaith papur pobl ifanc.
- Angerdd cryf dros helpu pobl ifanc mewn angen
- Y gallu i feithrin perthnasoedd cefnogol gyda phobl ifanc a thîm staff
- Gwybodaeth dda o ddisgwyliadau AGC a safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Preswyl.
- Rhaid meddu ar drwydded yrru lawn y DU ac isafswm oedran o 22 oed.
Eich dyletswyddau: - Arwain sifft lawn, gan gefnogi 3 person ifanc a 3 gweithiwr gofal preswyl.
- Goruchwyliaeth ar gyfer staff rydych chi'n eu harwain.
- Cynorthwyo'r dirprwy reolwr gyda rotas, cynlluniau pobl ifanc, gwaith papur y Tŷ.
- Cefnogi staff i greu amgylchedd strwythuredig a meithringar i bobl ifanc.
- Dilyn polisïau a gweithdrefnau ar gyfer y cartref yn unol â rheoliadau gan AGC a Gofal Cymdeithasol Cymru.
Am ragor o wybodaeth am y swydd hon, gallwch gysylltu â recruitment@powys.gov.uk
Mae gofyniad o fewn y swydd am uwch archwiliad DBS