Oriau gwaith: 37 Oriau
Math o gontract: Parhaol, Llawn Amser
Lleoliad: Lleoliadau Amrywiol yn y Fwrdeistref
Tîm: Gwasanaethau Preswyl
Mae'r swydd hon yn cynnig cyfle gwych i ddod yn rhan o'n tîm ni a darparu cymorth ar draws y sefydliad.
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £35,412 - £38,220 ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu. Mae Gwasanaethau Preswyl Caerffili yn ehangu eu cartrefi ac mae angen digon o staff arnom ni ym mhob cartref i fodloni gofynion Arolygiaeth Gofal Cymru. Ym mhob cartref, bydd plant yn cael gofal 24/7 gan staff gofal preswyl, gyda 3 aelod o staff ar sifft bob amser yn y cartrefi mwy a 2 aelod o staff ar sifft bob amser yn y cartrefi llai.
Prif bwrpas y rôl yw cynorthwyo'r Rheolwr Cofrestredig i ddarparu amgylchedd emosiynol sy'n ddiogel, cyson, cynnes, cefnogol a gofalgar i'r bobl ifanc ac annog eu datblygiad cymdeithasol, corfforol, emosiynol, deallusol a moesol fel y gallan nhw wireddu eu potensial eu hunain.
Rhaid i unigolion sy'n darparu gofal fod o leiaf 18 oed a rhaid iddyn nhw fod o leiaf 4 blynedd yn hŷn na'r plentyn hynaf sy'n cael ei letya. Mae hon yn nodwedd warchodedig o dan ofyniad galwedigaethol y swydd yn unol â Deddf Cydraddoldeb 2010.
Ar gyfer y rôl, rydyn ni'n gofyn bod gennych chi'r canlynol: - NVQ Lefel 3 mewn Gofalu am Blant a Phobl Ifanc neu NVQ Lefel 4 mewn Gofal neu gymhwyster rhagflaenol, sef Diploma Fframwaith Cymwysterau a Chredydau Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol Plant a Phobl Ifanc.
- O leiaf dwy flynedd o brofiad mewn lleoliad gofal preswyl i blant.
- Trwydded yrru lawn y DU Categori B (Ceir) a defnydd o gerbyd modur wedi'i yswirio at ddibenion busnes/gwaith i deithio ledled y Fwrdeistref Sirol i ymweld â chartrefi, i gludo plant, pobl ifanc a rhieni/gofalwyr yn ystod yr wythnos.
Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a chynlluniau disgownt i staff.
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau.
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Karen Williams ar 07971781534 neu ebost:
willik19@caerphilly.gov.uk Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth.
Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae Rheolau Gofal Cymdeithasol Cymru (Cofrestru) 2023 yn nodi'r gofyniad i'r holl weithwyr gofal plant preswyl, gweithwyr gofal cartref, gweithwyr cartrefi gofal i oedolion a gweithwyr canolfannau preswyl i deuluoedd gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru o fewn chwe mis yn dilyn eich dyddiad dechrau yn y swydd.
Mae Safonau Gofynnol Cenedlaethol Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) ar gyfer Cartrefi Plant yn nodi bod yn rhaid i unigolion sy'n darparu gofal fod yn 18 oed o leiaf a bod o leiaf 4 blynedd yn hŷn cael ei letya. Mae hon yn nodwedd warchodedig o dan ofynion galwedigaethol y swydd yn unol â Deddf Cydraddoldeb 2010.