Rydyn ni'n recriwtio Uwch Weithiwr Gofal Preswyl i Blant yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.Oriau gwaith: 37 Oriau
Math o gontract: Parhaol/ Llawn Amser
Lleoliad: Lleoliadau Amrywiol yn y Fwrdeistref
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â Thîm Caerffili a darparu cymorth ar draws y Tîm Plant Preswyl ehangach.
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £34,314 - £37,035 ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn parhau i fuddsoddi yn ein darpariaethau preswyl ar gyfer plant yn y Fwrdeistref Sirol. Hoffen ni recriwtio staff sydd â'r gwerthoedd, y cymhelliant a'r ymrwymiad cywir i weithio yn y rôl werth chweil ond heriol hon.
Rydyn ni'n chwilio am bobl frwdfrydig, galonogol ac ymarferol sydd â phrofiad o weithio gydag ymddygiadau cymhleth a heriol. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn gweithio mewn modd amlasiantaethol i gynorthwyo a hyrwyddo lles ac anghenion pobl ifanc sydd â lefel uchel o anghenion cymhleth.
Byddai profiad blaenorol o weithio mewn cartref preswyl i blant yn fanteisiol. Rydyn ni'n cynnig pecyn sefydlu a hyfforddi rhagorol, gan gynnwys helpu cyflogai i ennill cymwysterau sector-benodol a fydd yn cynorthwyo eich datblygiad proffesiynol. Rydyn ni hefyd yn darparu hyfforddiant a chymorth i'ch galluogi chi i weithio mewn modd therapiwtig a pherthynol. Bydd goruchwyliaeth gyfredol yn cael ei chynnig lle bydd eich anghenion hyfforddi, datblygu a phersonol yn cael sylw.
Rhaid i unigolion sy'n darparu gofal fod yn 18 oed o leiaf a rhaid iddyn nhw fod o leiaf 4 blynedd yn hŷn na'r plentyn hynaf sy'n preswylio. Mae hon yn nodwedd warchodedig o dan ofyniad galwedigaethol y swydd yn unol â Deddf Cydraddoldeb 2010.
Ar gyfer y rôl, rydyn ni'n gofyn bod gennych chi'r canlynol: - NVQ Lefel 3 mewn Gofalu am Blant a Phobl Ifanc neu NVQ Lefel 4 mewn Gofal neu gymhwyster blaenorol, sef Diploma Fframwaith Cymwysterau a Chredydau Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol Plant a Phobl Ifanc.
- Gwybodaeth am ddeddfwriaeth allweddol, h.y. Cyf 4 Deddf Plant 1989, Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017.
- Trwydded yrru lawn Categori B (Ceir) y DU a defnydd o gerbyd modur wedi'i yswirio at ddibenion busnes/gwaith i deithio ledled y Fwrdeistref Sirol i ymweld â chartrefi ac i gludo plant, pobl ifanc a rhieni/gofalwyr yn ystod yr wythnos.
Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth a chynlluniau disgownt i staff.
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Karen Williams ar 01443 864512 neu ebost:
willik19@caerphilly.gov.ukGellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â
webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth.
Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae Rheolau Gofal Cymdeithasol Cymru (Cofrestru) 2023 yn nodi'r gofyniad i'r holl weithwyr gofal plant preswyl, gweithwyr gofal cartref, gweithwyr cartrefi gofal i oedolion a gweithwyr canolfannau preswyl i deuluoedd gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru o fewn chwe mis yn dilyn eich dyddiad dechrau yn y swydd.
Mae Deddf Addysg (Cymru) 2014 a Rheoliadau Cyngor Gweithlu Addysg, (Prif Swyddogaethau) (Cymru) 2015 fel y’u diwygiwyd yn nodi'r gofyniad i weithwyr ieuenctid cymwys a gweithwyr cymorth ieuenctid cymwys gael eu cofrestru yn y categori neu'r categorïau cofrestru ar gyfer y gwaith y maent yn ei wneud.
Bydd eich cyflogaeth yn dibynnu ar dystiolaeth ddigonol o’ch cofrestriad a’ch cofrestriad parhaol, fel Gweithiwr Ieuenctid Cymwys neu Gynorthwyydd Gweithiwr