Bridgend County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Lleoliad
Penybont
Pob ardal
Manylion
Oriau contract
Llawn Amser
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Gweithle
Gofal preswyl i blant
Rôl
Gweithiwr Gofal Preswyl i Blant
Disgrifiad o'r swydd
37 awr yr wythnos
Mae hon yn adeg gyffrous i ymuno â CBS Pen-y-bont ar Ogwr wrth i ni barhau i ailfodelu'r ffordd rydym yn diwallu anghenion plant y mae angen ein cymorth arnynt yn unol ag agenda Llywodraeth Cymru i roi terfyn ar elw mewn gwasanaethau preswyl plant yng Nghymru.
Mae Tŷ Hillsboro yn rhoi gofal a chymorth i un plentyn/person ifanc rhwng 8 a 25 oed na ellir ei osod ochr yn ochr ag eraill oherwydd ei anghenion cymhleth.
Bydd Hillsboro yn cael ei ddefnyddio fel lleoliad pontio tymor byr tuag at leoliad hirdymor mwy addas a sefydlog i berson ifanc. Bwriedir i'r gwasanaeth feddu ar y gallu i fod yn 'anweithredol' a dod yn weithredol ar fyr rybudd os caiff plentyn neu berson ifanc priodol ei atgyfeirio gyda newidiadau o ran y statws gwasanaeth yn cael eu cyfathrebu i AGC. Mae hyn yn golygu y bydd y gwasanaeth yn fwy adweithiol a gall hefyd osgoi'r opsiwn arall, sef lleoliad y tu allan i'r sir.
Mae Hillsboro yn ceisio cynnig cyfle ar gyfer oedi a deall yr angen yn well er mwyn cynorthwyo â phontio ar gyfer y plentyn neu'r person ifanc i wasanaethau sy'n fwyaf addas i hyrwyddo newid a datblygu cadarnhaol.
Bydd y gwasanaeth yn canolbwyntio ar ddarparu amgylchedd therapiwtig i sefydlogi ymddygiad heriol plentyn/person ifanc, gweithio ar wella unrhyw ymddygiad cymryd risg, ailgysylltu ag addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth lle y bo angen a chynorthwyo'r broses o nodi lleoliadau hirdymor addas i symud ymlaen iddynt.
A chithau'n uwch weithiwr preswyl plant, bydd angen i chi fod wedi cymhwyso i FfCCh lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol Plant ar gyfer plant a phobl ifanc fel y rhestrir yn y fframwaith Cymwysterau ar gyfer y Sector Gofal Cymdeithasol yng Nghymru.
A ydych yn teimlo eich bod am fod yng nghanol datblygiad parhaus y dull arloesol hwn o ofal? A ydych yn gallu gweithio'n hyblyg? A allwch weithio i'r safonau uchaf, gan sicrhau bod y cartref yn parhau i gydymffurfio â Gofynion Rheoliadol ac yn cynorthwyo plant a phobl ifanc i gyflawni'r canlyniadau gorau posibl? Os felly, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych!
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant ac Oedolion gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 25 Chwefror 2026
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 09 Mawrth 2026
Dyddiad y Cyfweliad: 16 Mawrth 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr