Oriau gwaith: 18.5 Oriau
Math o gontract: Parhaol/ Rhan Amswer
Lleoliad: Tredomen, Ystrad Myncah
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â Thîm Caerffili a darparu cymorth ar draws y Tîm Gwasanaethau Plant ehangach.
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £20,755 - £22,355 ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn helpu ac yn cynorthwyo'r Rheolwr Tîm gyda mentora a darparu goruchwyliaeth ffurfiol i aelodau'r tîm. Byddwch chi'n cynorthwyo staff eraill gyda'r gwaith o ddatblygu a hwyluso sesiynau gwaith grŵp, a bydd gofyn i chi gyfrannu at ddatblygiadau gwasanaeth.
Bydd angen sgiliau asesu a dadansoddi rhagorol arnoch chi, a'r gallu i ymgysylltu a chyfathrebu'n effeithiol â Gofalwyr Maeth, eu teuluoedd a'u plant sy'n derbyn gofal, gan ganolbwyntio ar les a diogelwch plant, a gallu cynorthwyo ac arwain Gofalwyr Maeth i adeiladu ar eu sgiliau cyfannol, yn ogystal ag ymrwymiad i wella canlyniadau i blant a phobl ifanc.
Mae’r tîm yn gyfrifol am recriwtio, asesu, cynorthwyo, goruchwylio ac adolygu gofalwyr maeth cyffredinol, ochr yn ochr â chwblhau Asesiadau Personau Cysylltiedig o aelodau’r teulu/personau cysylltiedig ar gyfer plentyn na all, neu o bosibl na fydd yn gallu aros gyda’i deulu biolegol.
Ar gyfer y rôl, rydyn ni'n gofyn bod gennych chi'r canlynol: - Gradd/Diploma mewn Gwaith Cymdeithasol neu gymhwyster rhagflaenol.
- Cwblhau'r Rhaglen Cydgrynhoi Ymarfer yn llwyddiannus o fewn y tair blynedd gyntaf o ymarfer (os gwnaethoch chi gymhwyso ar ôl 1 Ebrill 2016).
- Yr wybodaeth ddiweddaraf am ddeddfwriaeth gyfredol a rheoliadau statudol, ymchwil ac ymarfer mewn perthynas â'r maes gwasanaeth perthnasol.
- Trwydded yrru lawn Categori B (ceir) y DU a defnydd o gerbyd modur wedi'i yswirio at ddibenion busnes i deithio ledled y Fwrdeistref Sirol i fynychu cyfarfodydd.
Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, patrymau gweithio ystwyth a chynlluniau disgownt i staff.
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Carla Perry ar 07789371781 neu ebost:
perrycl@aerphilly.gov.ukGellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â
webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth.
Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Rhaid i chi feddu ar Ddiploma/Gradd mewn Gwaith Cymdeithasol neu ragflaenydd a bod wedi cofrestru fel Gweithiwr Cymdeithasol gyda Gofal Cymdeithasol Cymru (neu'n gallu trosglwyddo o gorff cydnabyddedig arall).
Mae’r gofynion cofrestru presennol yn nodi bod cwblhau’r cymhwyster Cydgrynhoi Ymarfer o fewn eich 3 blynedd gyntaf o ymarfer yn orfodol (os gwnaethoch gymhwyso ar ôl 1 Ebrill 2016). Bydd methu â chwblhau'r cymhwyster hwn yn llwyddiannus yn golygu na fyddwch yn gallu adnewyddu eich Cofrestriad Gwaith Cymdeithasol neu ymarfer fel Gweithiwr Cymdeithasol.