Oriau gwaith: 37 Oriau (7.24 Dydd Llun - Dydd Gwener)
Math o gontract: Parhaol/Llawn Amser
Lleoliad: Tredomen
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â Thîm Caerffili a darparu cymorth ar draws y Tîm Gwasanaethau Plant 16 Rhagor ehangach.
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £41,511 - £44,711 ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn chwarae rhan allweddol yn cynorthwyo pobl ifanc wrth iddyn nhw lywio’u taith i fod yn oedolion, a chynorthwyo a diogelu pobl ifanc wrth iddyn nhw bontio o’r system ofal i annibyniaeth.
Byddwch chi’n darparu lefel uwch o sgiliau ac arbenigedd gwaith cymdeithasol o fewn y tîm er mwyn datblygu a chynnal safonau ymarfer a dirprwyo ar ran y Rheolwr Tîm ar achlysuron penodol. Byddwch chi’n cynorthwyo’r Rheolwr Tîm a darparu gwasanaeth o fewn deddfwriaeth, rheoliadau a chanllawiau cyfredol a pholisïau a gweithdrefnau’r gyfadran.
Bydd eich rôl yn cynnwys goruchwylio Gweithwyr Cymdeithasol ac Ymgynghorwyr Personol yn uniongyrchol, a chynorthwyo'r Rheolwr Tîm i barhau i ddatblygu darpariaeth gwasanaeth o ansawdd uchel. Byddwch chi’n rheoli llwyth achosion o bobl ifanc, gan adolygu eu cynnydd yn rheolaidd a diwygio eu cynlluniau gofal yn ôl yr angen. Byddwch chi’n arwain trwy esiampl a chynorthwyo'r tîm i gyrraedd ei dargedau perfformiad. Eich rôl fydd gweithio'n effeithiol mewn ffordd amlddisgyblaethol gydag asiantaethau partner a chyfrannu at ddatblygu gwasanaethau o safon.
Mae’n rhaid bod gan ymgeiswyr Radd/Diploma mewn Gwaith Cymdeithasol neu gymhwyster rhagflaenol. Rhaid cwblhau'r Rhaglen Cydgrynhoi Ymarfer yn llwyddiannus o fewn y tair blynedd gyntaf o ymarfer (os ydych chi wedi cymhwyso ar ôl 1 Ebrill 2016). Yn ogystal, rhaid i ymgeiswyr fod wedi cofrestru fel Gweithiwr Cymdeithasol gyda Gofal Cymdeithasol Cymru neu reoleiddwyr cyfatebol yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon.
Ar gyfer y rôl, rydyn ni'n gofyn bod gennych chi'r canlynol: - Diploma/Gradd mewn Gwaith Cymdeithasol neu gymhwyster rhagflaenol.
- Cwblhau'r Rhaglen Cydgrynhoi Ymarfer yn llwyddiannus o fewn y tair blynedd gyntaf o ymarfer (os ydych chi wedi cymhwyso ar ôl 1 Ebrill 2016).
- Yr wybodaeth ddiweddaraf am ddeddfwriaeth gyfredol a rheoliadau statudol, ymchwil ac ymarfer mewn perthynas â'r maes gwasanaeth perthnasol.
- Trwydded yrru lawn y DU Categori B (Ceir) a defnydd o gerbyd modur wedi'i yswirio at ddibenion busnes i deithio ledled y Fwrdeistref Sirol i fynychu cyfarfodydd.
Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, patrymau gweithio ystwyth a chynlluniau disgownt i staff.
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Karen Williams ar 07971781534 neu ebost:
willik19@caerphilly.gov.ukGellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â
webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth.
Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Rhaid i chi feddu ar Ddiploma/Gradd mewn Gwaith Cymdeithasol neu ragflaenydd a bod wedi cofrestru fel Gweithiwr Cymdeithasol gyda Gofal Cymdeithasol Cymru (neu'n gallu trosglwyddo o gorff cydnabyddedig arall).
Mae’r gofynion cofrestru presennol yn nodi bod cwblhau’r cymhwyster Cydgrynhoi Ymarfer o fewn eich 3 blynedd gyntaf o ymarfer yn orfodol (os gwnaethoch gymhwyso ar ôl 1 Ebrill 2016). Bydd methu â chwblhau'r cymhwyster hwn yn llwyddiannus yn golygu na fyddwch yn gallu adnewyddu eich Cofrestriad Gwaith Cymdeithasol neu ymarfer fel Gweithiwr Cymdeithasol.