Oriau gwaith: 37 Oriau (7.24 Dydd Llun - Dydd Gwener)
Math o gontract: Llawn Amser/ Cyfnod Penodol am 24 Mis
Lleoliad: Ty Tredomen
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â Thîm Caerffili a darparu cymorth ar draws y Tîm Gwasanaethau Plant ehangach.
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £41,511 - £44,711 ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu. Mae'r swydd hon yn denu Atodiad Marchnad o £3,441 y flwyddyn, yn ychwanegol at y cyflog blynyddol, a fydd yn cael ei dalu mewn 12 rhandaliad misol.Mae Gwasanaethau i Blant Caerffili wedi datblygu eu Strategaeth gyda'r nod o leihau nifer y plant sy'n derbyn gofal fel sydd wedi'i nodi gan Lywodraeth Cymru drwy sefydlu Tîm Teuluoedd a Ffrindiau. Byddwch chi'n rheoli'r plant hynny sy'n destun Darpariaeth Gofal Plant Proffesiynol, trefniadau Maethu gan Berthnasau a phlant ar Orchmynion Gwarcheidiaeth Arbennig.
Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus fod â phrofiad o Waith Cymdeithasol gyda phlant a phobl ifanc. Byddwch chi'n gyfrifol am asesu ac adolygu anghenion cymorth y plant a'u rhieni/gofalwyr. Bydd gofyn i chi fynychu'r llys i sicrhau bod y gorchymyn mwyaf priodol ar waith h.y. wrth ystyried dirymu Gorchmynion Gofal neu drosi Gorchmynion Gofal yn Orchmynion Gwarcheidiaeth Arbennig.
Bydd gofyn i chi gynorthwyo'r Rheolwr Tîm i wneud penderfyniadau a goruchwylio staff. Rhaid bod gennych chi sgiliau asesu rhagorol a'r gallu i ymgysylltu â phlant a'u teuluoedd yn effeithiol, gan ganolbwyntio ar les a diogelwch y plentyn.
Ar gyfer y rôl, gofynnwn i chi: - Diploma/Gradd mewn Gwaith Cymdeithasol neu ragflaenydd.
- Mae'n ofynnol i Weithwyr Cymdeithasol (os ydynt wedi cymhwyso ar ôl 1af Ebrill 2016) gwblhau'r Rhaglen Cyfnerthu Ymarfer o fewn y tair blynedd gyntaf o ymarfer.
- Profiad o weithio fel rhan o dîm.
- Trwydded yrru llawn DU Categori B (Ceir) a defnydd o gerbyd modur wedi'i yswirio at ddibenion busnes i deithio ledled y Fwrdeistref i fynychu cyfarfodydd.
Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a chynlluniau disgownt i staff.
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Rachel Silver ar 07789371545 neu ebost:
silver@caerphilly.gov.ukGellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â
webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth.
Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Rhaid i chi feddu ar Ddiploma/Gradd mewn Gwaith Cymdeithasol neu ragflaenydd a bod wedi cofrestru fel Gweithiwr Cymdeithasol gyda Gofal Cymdeithasol Cymru (neu'n gallu trosglwyddo o gorff cydnabyddedig arall).
Mae’r gofynion cofrestru presennol yn nodi bod cwblhau’r cymhwyster Cydgrynhoi Ymarfer o fewn eich 3 blynedd gyntaf o ymarfer yn orfodol (os gwnaethoch gymhwyso ar ôl 1 Ebrill 2016). Bydd methu â chwblhau'r cymhwyster hwn yn llwyddiannus yn golygu na fyddwch yn gallu adnewyddu eich Cofrestriad Gwaith Cymdeithasol neu ymarfer fel Gweithiwr Cymdeithasol.