Oriau gwaith: 37 Oriau (Dydd llun – Dydd Gwener)
Math o gontract: Llawn Amser/ Cyfnod Penodol Tan 31 st Mawrth 2026
Lleoliad: Ty Pawb/ Lleoliadau Amrywiol yn y Fwrdeistref
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â Thîm Caerffili a darparu cymorth ar draws y Tîm Gwasanaethau Plant ehangach.
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £41,511 - £44,711 ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu. Mae Gwasanaethau i Blant Caerffili wedi datblygu eu strategaeth gyda'r nod o leihau’r nifer o blant sy'n derbyn gofal.
Prif ffocws y rôl fydd hwyluso cyfarfodydd â theuluoedd i’w grymuso nhw i ddatblygu cynllun teuluol i helpu plant a phobl ifanc i barhau i gael gofal yn eu teulu. Bydd angen i chi fod yn effeithiol wrth adeiladu perthnasoedd gwaith cadarnhaol ac wedi ymrwymo i hyrwyddo ymagwedd deuluol sy'n canolbwyntio ar atebion at ymyrraeth, gan hyrwyddo dull sy'n seiliedig ar gryfderau gyda theuluoedd.
Bydd angen profiad ar yr ymgeisydd llwyddiannus o weithio ar y cyd â theuluoedd i hyrwyddo "beth sy'n bwysig" iddyn nhw. Rhaid i chi fod â sgiliau cyfathrebu a threfnu rhagorol wrth hwyluso cyfarfodydd â theuluoedd a chynllunio diogelwch. Bydd hyfforddiant yn cael ei roi ond bydd gennych chi sgiliau trosglwyddadwy eisoes o weithio gyda theuluoedd ar adegau o argyfwng.
Ar gyfer y rôl, rydyn ni'n gofyn bod gennych chi'r canlynol: - Gradd/Diploma mewn Gwaith Cymdeithasol neu gymhwyster rhagflaenol.
- Cwblhau'r Rhaglen Cydgrynhoi Ymarfer yn llwyddiannus o fewn y tair blynedd gyntaf o ymarfer (os gwnaethoch chi gymhwyso ar ôl 1 Ebrill 2016).
- Yr wybodaeth ddiweddaraf am ddeddfwriaeth gyfredol a rheoliadau statudol, ymchwil ac ymarfer mewn perthynas â'r maes gwasanaeth perthnasol.
- Trwydded yrru lawn y DU Categori B (Ceir) a defnydd o gerbyd modur wedi'i yswirio at ddibenion busnes i deithio ledled y Fwrdeistref Sirol i fynd i gyfarfodydd.
Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, patrymau gweithio ystwyth a chynlluniau disgownt i staff.
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Karen Singler ar 01495 233261 neu ebost:
singlk@caerphilly.gov.ukGellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth
Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Rhaid i chi feddu ar Ddiploma/Gradd mewn Gwaith Cymdeithasol neu ragflaenydd a bod wedi cofrestru fel Gweithiwr Cymdeithasol gyda Gofal Cymdeithasol Cymru (neu'n gallu trosglwyddo o gorff cydnabyddedig arall).
Mae’r gofynion cofrestru presennol yn nodi bod cwblhau’r cymhwyster Cydgrynhoi Ymarfer o fewn eich 3 blynedd gyntaf o ymarfer yn orfodol (os gwnaethoch gymhwyso ar ôl 1 Ebrill 2016). Bydd methu â chwblhau'r cymhwyster hwn yn llwyddiannus yn golygu na fyddwch yn gallu adnewyddu eich Cofrestriad Gwaith Cymdeithasol neu ymarfer fel Gweithiwr Cymdeithasol.