Gallyr ymgeisydd llwyddiannus fod yn gymwys i hyd at uchafswm o £8,000 (gan gynnwys TAW) tuag at gost y treuliau a dynnir oherwydd adleoli i Geredigion. Am fwy o wybodaeth, anfonwch e-bost atadnoddaudynol@ceredigion.gov.uk.Am fwy o wybodaeth am sir Ceredigion a'r ffordd o fyw ragorol y mae'n ei gynnig, cliciwch yma . Rydym yn chwilio am Weithiwr Cymdeithasol Uwch i ymuno â'r Tîm Trwy Oes ar sail llawn amser. Mae'r tîm yn ganolfan gwneud penderfyniadau integredig sy'n anelu at gefnogi teuluoedd gyda gwybodaeth a chyngor neu ymyrraeth. Mae hwn yn rôl gyffrous o fewn y gwasanaeth sy'n cynnig y cyfle i gynnal asesiadau ac i weithredu pecynnau gofal i gefnogi nod ein sefydliad o alluogi gwytnwch plant/teuluoedd a darparu gwasanaethau mwy priodol yn dilyn Asesiad Plant a Theulu.
I gefnogi'r Rheolwr Tîm i gyflwyno dull asesu a chynllunio gofal sy'n cynnwys y teulu cyfan neu'r rhwydwaith gan ddefnyddio methodoleg Arwyddion Diogelwch drwy'r amser.
I weithio o fewn y ddeddfwriaeth gyfredol a'r canllawiau statudol, yn ogystal â pholisïau, gweithdrefnau ac arferion y Cyngor, er mwyn asesu anghenion gofal a chymorth unigol, diogelu ac sicrhau darpariaeth ac adolygiad o wasanaethau cymorth a'r ymyriadau a gynlluniwyd ar gyfer y rhai sydd mewn perygl neu'n agored i niwed.
I weithio i sicrhau ansawdd y gwasanaeth gyda chydweithwyr yn y sector statudol ac annibynnol i sicrhau dull amlasiantaeth ac i rymuso defnyddwyr gwasanaeth i siarad drostynt eu hunain tra'n sicrhau eu bod yn ddiogel ac wedi'u diogelu.
Credwn fod cydbwysedd bywyd a gwaith yn holl bwysig. I'ch cefnogi i gyflawni hyn, bydd gennych fynediad at y buddion dewisol canlynol:
- Gweithio Hybrid: Yn amodol ar fodloni rhai amodau, gallwch ddewis gweithio o'ch cartref neu mewn swyddfa.
- Amser-fflecsi: Gellir gweithio oriau o fewn lled band diffiniedig, o ddydd Llun i ddydd Gwener, yn amodol ar anghenion gwasanaeth.
Disgrifiad Swydd a Manyleb PersonCysylltwch â niAm wybodaeth pellach a thrafodaeth anffurfiol ynglwn â'r swydd hon c ysylltwch â Amanda Boyle ar
Amanda.Boyle2@ceredigion.gov.ukNoder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.Rydym wedi ymrwymoi ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o'r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Yr hyn a gynigwn Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Lle byddwch yn gweithio Porth Gofal - Gwasanaethau Ymyrraeth wedi'u Targedu
Rydym wrth wraidd darpariaeth gofal cymdeithasol gydol oes Ceredigion ac ein nod yw sicrhau bod pob unigolyn yn derbyn yr ymyrraeth orau i ddiwallu ei anghenion neu, lle bo angen, eu tywys at gymorth cynnar neu wasanaethau arbenigol.Ein prif swyddogaethau yw:
- Tîm Derbyn a Brysbennu Porth Ceredigion
- Gwasanaethau Ymyrraeth wedi'i Thargedu
- Gwasanaethau Maethu
- Gwasanaethau Preswyl a Gofal Dydd
- Gwasanaethau Tai
- Storfeydd Cyfarpar Cymunedol Integredig
- Tîm Dyletswydd Argyfwng
Penmorfa Penmorfa yw ein swyddfa fwyaf canolog, dyma lle mae ein Prif Weithredwr a'n Cynghorwyr wedi'i leoli.
Darllen mwy Aberaeron Mae Aberaeron yn dref harbwr brydferth ac mae'n un o gyrchfannau gwyliau mwyaf poblogaidd Ceredigion gyda llefydd poblogaidd i aros a bwyta.
Darllen mwy