Oriau gwaith: 37 Oriau
Math o gontract: Parhaol/ Llawn Amser
Lleoliad: Canolfan Iechyd Cymunedol y De, Caerffili
Tîm: Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol
Mae'r swydd hon yn cynnig cyfle gwych i ddod yn rhan o'n tîm ni a darparu cymorth ar draws y sefydliad.
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £41,511 - £44,711 ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu. Mae'r swydd hon yn denu Atodiad Marchnad o £2,863 y flwyddyn, yn ychwanegol at y cyflog blynyddol, a fydd yn cael ei dalu mewn 12 rhandaliad misol.Mae Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol y De am recriwtio ymgeisydd dynamig a blaengar y bydd gofyn iddo ymarfer yn unol â’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Gwaith Cymdeithasol a’r Cod Ymarfer ar gyfer Gofal Cymdeithasol.
Bydd angen i chi fod â dealltwriaeth dda o ddeddfwriaeth a pholisïau cyfredol. Hefyd, bydd gofyn i chi weithio'n agos â gofalwyr, gweithwyr proffesiynol eraill ac aelodau o'r tîm neu'n unigol ar eich liwt eich hun. Bydd gennych chi rôl amrywiol a'r gallu i ddelio â sefyllfaoedd argyfwng a bydd disgwyl i chi hwyluso rhyddhau defnyddwyr y gwasanaeth yn ddiogel o'r ysbyty i'r gymuned.
Bydd gofyn i ddeiliad y swydd gynorthwyo a diogelu defnyddwyr y gwasanaeth sy'n agored i niwed drwy gyfnodau anodd yn eu bywydau, felly mae sgiliau cyfathrebu a threfnu effeithiol yn hanfodol.
Rhaid i ymgeiswyr fod wedi cofrestru fel Gweithiwr Cymdeithasol gyda Gofal Cymdeithasol Cymru. Mae'r gofynion cofrestru presennol yn nodi ei fod yn orfodol i gwblhau'r cymhwyster Cydgrynhoi Ymarfer o fewn eich 3 blynedd gyntaf o ymarfer (os i chi gymhwyso ar ôl 1 Ebrill 2016). Bydd methu â chwblhau'r cymhwyster hwn yn llwyddiannus yn golygu na allwch chi adnewyddu eich Cofrestriad Gwaith Cymdeithasol nac ymarfer fel Gweithiwr Cymdeithasol.
Ar gyfer y rôl, gofynnwn i chi: - Gradd/Diploma mewn Gwaith Cymdeithasol neu gymhwyster rhagflaenol.
- Cwblhau'r Rhaglen Cydgrynhoi Ymarfer yn llwyddiannus o fewn y tair blynedd gyntaf o ymarfer (os yw'n gymwys ar ôl 1 Ebrill 2016).
- Gwybodaeth am y fframwaith deddfwriaethol presennol ar gyfer gofal cymdeithasol a'r ysgogwyr cenedlaethol o fewn gwaith cymdeithasol a gofal cymdeithasol gan gynnwys y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant Cymru (2014), Deddf Iechyd Meddwl, Galluedd Meddyliol, Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 a Threfniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid.
- Profiad o ymgymryd â dyletswyddau Gweithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy.
Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, patrymau gweithio ystwyth a chynlluniau disgownt i staff.
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Julie O`Brien/Louise Powell ar 02920 855020 neu ebost:
obriej2@caerphilly.gov.uk powell4@caerphilly.gov.ukGellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth
Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Rhaid i chi feddu ar Ddiploma/Gradd mewn Gwaith Cymdeithasol neu ragflaenydd a bod wedi cofrestru fel Gweithiwr Cymdeithasol gyda Gofal Cymdeithasol Cymru (neu'n gallu trosglwyddo o gorff cydnabyddedig arall).
Mae’r gofynion cofrestru presennol yn nodi bod cwblhau’r cymhwyster Cydgrynhoi Ymarfer o fewn eich 3 blynedd gyntaf o ymarfer yn orfodol (os gwnaethoch gymhwyso ar ôl 1 Ebrill 2016). Bydd methu â chwblhau'r cymhwyster hwn yn llwyddiannus yn golygu na fyddwch yn gallu adnewyddu eich Cofrestriad Gwaith Cymdeithasol neu ymarfer fel Gweithiwr Cymdeithasol.