Oriau gwaith: 37
Math o gontract: Parhaol, Llawn Amser
Lleoliad: Lleoliadau Amrywiol yn y Fwrdeistref
Tîm: Tîm Ardal Bargod
Mae'r swydd hon yn cynnig cyfle gwych i ddod yn rhan o'n tîm ni a darparu cymorth ar draws y sefydliad.
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £41,511- £44,711, yn ogystal â thaliad atodol ar sail y farchnad o £3,441 y flwyddyn, ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu.Rydyn ni am benodi ymarferwyr deinamig, profiadol a brwdfrydig i ddod yn rhan o'n timau blaengar a chreadigol.
Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn dal llwyth achosion mwy cymhleth, yn gallu cynnig cymorth, mentora a goruchwyliaeth i aelodau'r tîm, monitro perfformiad y tîm, cynorthwyo'r Rheolwr Tîm a dirprwyo pan fo angen.
Mae'r timau'n gwneud gwaith asesu a chynllunio o ansawdd uchel ar gyfer plant a'u teuluoedd sydd angen ymyrraeth barhaus gan y gwasanaethau cymdeithasol. Mae'r timau'n ymdrin â gwaith tymor byr a thymor hir, gan gynnwys plant sydd angen gofal a chymorth, diogelu, plant sy'n derbyn gofal a gwaith llys.
Os oes gennych chi'r gwerthoedd, y cymhelliant a'r ymrwymiad cywir i weithio mewn amgylchedd heriol, ond gwerth chweil, rydyn ni am glywed gennych chi.
Ydych chi'n effeithiol wrth adeiladu perthnasau gwaith cadarnhaol, gyda sgiliau cyfathrebu a TG da? Oes gennych chi angerdd ac ymrwymiad gwirioneddol i wella canlyniadau i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd? Ydych chi eisiau gweithio ar y cyd i hyrwyddo “yr hyn sy'n bwysig” gyda phlant a'u teuluoedd? A yw'r swydd hon yn swnio'n addas i chi?
Os felly, byddwn ni'n darparu'r canlynol i chi:
- Rhaglen sefydlu gynhwysfawr.
- Hyfforddiant i hybu eich datblygiad proffesiynol parhaus.
- Model asesu risg wedi'i sefydlu.
- Penderfyniadau amserol sy'n cael eu gwneud ar sail tystiolaeth.
- Goruchwyliaeth reolaidd, gwerthusiad blynyddol a chyfleoedd ar gyfer ymarfer myfyriol.
- Uwch Ymarferwyr eraill a Rheolwr Tîm cefnogol a phrofiadol.
- Arweinyddiaeth amlwg a chryf gan yr Uwch Dîm Rheoli.
Ar gyfer y rôl, rydyn ni'n gofyn bod gennych chi'r canlynol: - Diploma/Gradd mewn Gwaith Cymdeithasol neu gymhwyster rhagflaenol.
- Cwblhau'r Rhaglen Cadarnhau Ymarfer yn llwyddiannus o fewn y tair blynedd gyntaf o ymarfer (os ydych chi wedi cymhwyso ar ôl 1 Ebrill 2016).
- Wedi cofrestru fel Gweithiwr Cymdeithasol gyda Gofal Cymdeithasol Cymru neu reoleiddwyr cyfatebol yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon.
- Sgiliau gwaith cymdeithasol uwch, arbenigedd mewn amddiffyn plant a gwaith llys, ac yn gallu hyrwyddo a datblygu safonau ymarfer da yn bersonol ac o fewn y tîm.
- Trwydded yrru llawn DU Categori B (Ceir) a defnydd o gerbyd modur wedi'i yswirio at ddibenion busnes i deithio ledled y Fwrdeistref i fynychu cyfarfodydd.
Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, patrymau gweithio ystwyth a chynlluniau disgownt i staff.
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Carol Davies ar 01443 864745 neu ebost
daviec30@caerphilly.gov.uk/ Rhoda Hibbs ar 01443 873501 neu ebost
hibbsr@caerphilly.gov.uk.
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth
Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Rhaid i chi feddu ar Ddiploma/Gradd mewn Gwaith Cymdeithasol neu ragflaenydd a bod wedi cofrestru fel Gweithiwr Cymdeithasol gyda Gofal Cymdeithasol Cymru (neu'n gallu trosglwyddo o gorff cydnabyddedig arall).
Mae’r gofynion cofrestru presennol yn nodi bod cwblhau’r cymhwyster Cydgrynhoi Ymarfer o fewn eich 3 blynedd gyntaf o ymarfer yn orfodol (os gwnaethoch gymhwyso ar ôl 1 Ebrill 2016). Bydd methu â chwblhau'r cymhwyster hwn yn llwyddiannus yn golygu na fyddwch yn gallu adnewyddu eich Cofrestriad Gwaith Cymdeithasol neu ymarfer fel Gweithiwr Cymdeithasol.
Mae'r swydd hon yn denu Atodiad Marchnad o £3,441 y flwyddyn, yn ychwanegol at y cyflog blynyddol, a fydd yn cael ei dalu mewn 12 rhandaliad misol.