Oriau gwaith: 37 Oriau
Math o gontract: Parhaol, Llawn Amser
Lleoliad: Hafan Coed, Coed Duon
Tîm: Tîm Allgymorth Dyfal Iechyd Meddwl
Mae'r swydd hon yn cynnig cyfle gwych i ddod yn rhan o'n tîm ni a darparu cymorth ar draws y sefydliad.
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £42,839 - £46,142 ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu. Mae'r swydd hon yn denu Atodiad Marchnad o £2,995 y flwyddyn, yn ychwanegol at y cyflog blynyddol, a fydd yn cael ei dalu mewn 12 rhandaliad misol.
Mae’r gwasanaeth Allgymorth Dyfal wedi’i leoli yn Hafan Coed, Coed Duon. Mae’n dîm amlddisgyblaethol sy’n cael atgyfeiriadau gan y Timau Iechyd Meddwl Cymunedol ar ran defnyddwyr gwasanaeth sy’n byw ag anghenion iechyd meddwl cymhleth sy’n cael anawsterau wrth ymgysylltu â gwasanaethau iechyd meddwl craidd. r tîm yn gweithio’n ddwys â defnyddwyr gwasanaeth, yn y cartref ac yn y gymuned, ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili. Mae'm yn gweithio'n agos gyda meysydd gwasanaeth iechyd meddwl cymunedol a chleifion mewnol eraill, yn ogystal ag asiantaethau statudol eraill, e.e. tai, yr heddlu, y gwasanaeth prawf, asiantaethau trydydd sector ac adnoddau cymunedol.
Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus ymarfer yn unol â'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Gwaith Cymdeithasol a'r Cod Ymarfer ar gyfer Gweithwyr Gofal Cymdeithasol i ddarparu gwasanaethau asesu a rheoli gofal. Bydd angen i chi fod â dealltwriaeth dda o ddeddfwriaethau a pholisïau cyfredol. Bydd gofyn i chi hefyd weithio'n agos â gofalwyr, gweithwyr proffesiynol eraill ac aelodau o'm neu ar eich liwt eich hun. Bydd gennych chi rôl amrywiol a'r gallu i ddelio â sefyllfaoedd argyfwng a bydd disgwyl i chi hwyluso rhyddhau defnyddwyr y gwasanaeth yn ddiogel o'r ysbyty i'r gymuned.
Ar gyfer y rôl, rydyn ni'n gofyn bod gennych chi'r canlynol: - Diploma neu Radd mewn Gwaith Cymdeithasol neu gymhwyster rhagflaenol cyfwerth.
- Cymhwyster Gweithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy
- Gwybodaeth am Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014, Deddf Iechyd Meddwl 1983, y Cod Ymarfer a Deddfwriaeth Eilaidd gysylltiedig yng Nghymru, e.e. Mesur Iechyd Meddwl (Cymru)
- Trwydded yrru lawn y DU Categori B (Ceir) a defnydd o gerbyd modur wedi'i yswirio at ddibenion busnes/gwaith i fynd i gyfarfodydd.
Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, patrymau gweithio ystwyth a chynlluniau disgownt i staff.
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau.
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Lee Moule ar 01443 864512 neu ebost:
moulel1@caerphilly.gov.uk Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth. r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Rhaid i chi feddu ar Ddiploma/Gradd mewn Gwaith Cymdeithasol neu ragflaenydd a bod wedi cofrestru fel Gweithiwr Cymdeithasol gyda Gofal Cymdeithasol Cymru (neu'n gallu trosglwyddo o gorff cydnabyddedig arall). r gofynion cofrestru presennol yn nodi bod cwblhau’r cymhwyster Cydgrynhoi Ymarfer o fewn eich 3 blynedd gyntaf o ymarfer yn orfodol (os gwnaethoch gymhwyso ar ôl 1 Ebrill 2016). Bydd methu â chwblhau'r cymhwyster hwn yn llwyddiannus yn golygu na fyddwch yn gallu adnewyddu eich Cofrestriad Gwaith Cymdeithasol neu ymarfer fel Gweithiwr Cymdeithasol.