Oriau gwaith: 37 Oriau (7.24 Dydd Llun – Dydd Gwener)
Math o gontract: Parhaol, Llawn Amser
Lleoliad: Canolfan Iechyd a Gofal Cymdeithasol Integredig Rhymni
Tîm: Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol
Mae'r swydd hon yn cynnig cyfle gwych i ddod yn rhan o'n tîm ni a darparu cymorth ar draws y sefydliad.
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £42,839 - £46,142 ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu. Mae'r swydd hon yn cynnwys taliad atodol ar sail y farchnad o £2,995 y flwyddyn, yn ogystal â'r cyflog blynyddol, a fydd yn cael ei dalu ar ffurf 12 rhandaliad misol am fod ar y rota Gweithwyr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy.
Bydd deiliad y swydd yn gweithio gyda defnyddwyr gwasanaeth 18 oed a hŷn sydd ag anghenion iechyd meddwl. Mae'r tîm yn amlddisgyblaethol a blaengar a bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus ymarfer yn unol âr Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Gwaith Cymdeithasol a'r Cod Ymarfer ar gyfer Gweithwyr Gofal Cymdeithasol i ddarparu gwasanaethau asesu a rheoli gofal.
Bydd angen i chi fod â dealltwriaeth dda o ddeddfwriaethau a pholisïau cyfredol. Hefyd, bydd gofyn i chi weithio'n agos â gofalwyr, gweithwyr proffesiynol eraill ac aelodau o'm neu'n unigol ar eich liwt eich hun. Bydd gennych chi rôl amrywiol a'r gallu i ddelio â sefyllfaoedd argyfwng, a bydd disgwyl i chi hwyluso rhyddhau defnyddwyr y gwasanaeth yn ddiogel o'r ysbyty i'r gymuned. Bydd gofyn i chi gynorthwyo a diogelu defnyddwyr y gwasanaeth sy'n agored i niwed drwy gyfnodau anodd yn eu bywydau nhw, felly mae sgiliau cyfathrebu a threfnu effeithiol yn hanfodol.
Rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar Ddiploma/Gradd mewn Gwaith Cymdeithasol neu gymhwyster rhagflaenol a Dyfarniadau Ôl-gymhwyso ar gyfer Cadarnhau Ymarfer a Galluogi Ymarfer neu gyfatebol. Os nad ydych chi'n meddu ar Ddyfarniad Gweithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy, bydd disgwyl i chi ymgymryd âr hyfforddiant hwn er mwyn cyflawni'r rôl.
Ar gyfer y rôl, rydyn ni'n gofyn bod gennych chi'r canlynol: - Diploma/Gradd mewn Gwaith Cymdeithasol neu gymhwyster rhagflaenol.
- Dyfarniad Gweithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy.
- Gwybodaeth am y fframwaith deddfwriaethol presennol ar gyfer gofal cymdeithasol a'r ysgogwyr cenedlaethol ym meysydd gwaith cymdeithasol a gofal cymdeithasol gan gynnwys Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, y Ddeddf Iechyd Meddwl, Galluedd Meddyliol, Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 a Threfniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid.
- Profiad o ymgymryd â dyletswyddau Gweithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy.
- Trwydded yrru lawn y DU Categori B (Ceir) a defnydd o gerbyd modur wedi'i yswirio at ddibenion busnes/gwaith i deithio ledled y Fwrdeistref Sirol i ymweld â chleientiaid a mynd i gyfarfodydd.
Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, patrymau gweithio ystwyth a chynlluniau disgownt i staff.
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau.
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Rhian Llewellyn ar 01685 846444 neu ebost:
llewer1@caerphilly.gov.uk Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth.
Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Rhaid i chi feddu ar Ddiploma/Gradd mewn Gwaith Cymdeithasol neu ragflaenydd a bod wedi cofrestru fel Gweithiwr Cymdeithasol gyda Gofal Cymdeithasol Cymru (neu'n gallu trosglwyddo o gorff cydnabyddedig arall).
Mae’r gofynion cofrestru presennol yn nodi bod cwblhau’r cymhwyster Cydgrynhoi Ymarfer o fewn eich 3 blynedd gyntaf o ymarfer yn orfodol (os gwnaethoch gymhwyso ar ôl 1 Ebrill 2016). Bydd methu â chwblhau'r cymhwyster hwn yn llwyddiannus yn golygu na fyddwch yn gallu adnewyddu eich Cofrestriad Gwaith Cymdeithasol neu ymarfer fel Gweithiwr Cymdeithasol.