Oriau gwaith: 37
Math o gontract: Parhaol
Lleoliad: Lleoliadau Amrywiol yn y Fwrdeistref
Tîm: Timau Lleol
Mae'r swydd hon yn cynnig cyfle gwych i ddod yn rhan o'n tîm ni a darparu cymorth ar draws y sefydliad.
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £42,839 - £46,142 ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu. Mae'r swydd hon yn denu Atodiad Marchnad o £3,551 y flwyddyn, yn ychwanegol at y cyflog blynyddol, a fydd yn cael ei dalu mewn 12 rhandaliad misol.
Rydyn ni am benodi ymarferwyr deinamig, profiadol a brwdfrydig i ddod yn rhan o'm blaengar a chreadigol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn dal llwyth achosion mwy cymhleth; yn gallu cynnig cymorth, mentora a goruchwyliaeth i aelodau'r tîm; monitro perfformiad y tî cynorthwyo'r Rheolwr Tî a dirprwyo pan fo angen.
m yn gwneud gwaith asesu a chynllunio o ansawdd uchel ar gyfer plant a'u teuluoedd sydd angen ymyrraeth barhaus gan y gwasanaethau cymdeithasol. Mae'm yn ymdrin â gwaith tymor byr a hirdymor, gan gynnwys plant sydd angen gofal a chymorth, diogelu, plant sy'n derbyn gofal a gwaith llys.
Ar gyfer y rôl, rydyn ni'n gofyn bod gennych chi'r canlynol: - Gradd/Diploma mewn Gwaith Cymdeithasol neu gymhwyster rhagflaenol.
- Yr wybodaeth ddiweddaraf am ddeddfwriaeth gyfredol a rheoliadau statudol, ymchwil ac ymarfer mewn perthynas â'r maes gwasanaeth perthnasol.
- Profiad ôl-gymhwyso ym maes gwaith cymdeithasol – gwaith maes.
- Trwydded yrru lawn Categori B (ceir) y DU a defnydd o gerbyd modur wedi'i yswirio at ddibenion busnes i deithio ledled y Fwrdeistref Sirol i fynd i gyfarfodydd.
Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, patrymau gweithio ystwyth a chynlluniau disgownt i staff.
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau.
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Rachel Silver / Colette Limbrick ar 07789371545 / 01443 864512 neu ebost:
SILVER@CAERPHILLY.GOV.UK /
LIMBRC@CAERPHILLY.GOV.UK Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth.
Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Rhaid i chi feddu ar Ddiploma/Gradd mewn Gwaith Cymdeithasol neu ragflaenydd a bod wedi cofrestru fel Gweithiwr Cymdeithasol gyda Gofal Cymdeithasol Cymru (neu'n gallu trosglwyddo o gorff cydnabyddedig arall).
Mae’r gofynion cofrestru presennol yn nodi bod cwblhau’r cymhwyster Cydgrynhoi Ymarfer o fewn eich 3 blynedd gyntaf o ymarfer yn orfodol (os gwnaethoch gymhwyso ar ôl 1 Ebrill 2016). Bydd methu â chwblhau'r cymhwyster hwn yn llwyddiannus yn golygu na fyddwch yn gallu adnewyddu eich Cofrestriad Gwaith Cymdeithasol neu ymarfer fel Gweithiwr Cymdeithasol.