Y rôl: Uwch-ymarferydd Gofal Plant Cyflog: £25,000 y flwyddyn (£21,349 pro-rata) Lleoliad: Maesteg, Pen-y-Bont ar Ogwr Contract/Oriau: Parhaol – Amser llawn, yn ystod y tymor – 37 awr yr wythnos – Byddwch yn gweithio 39 wythnos y flwyddyn
Buddion: • Gweithio am 39 wythnos y flwyddyn, ond cael eich talu am 44.53 wythnos • Pecynnau mamolaeth, mabwysiadu a thadolaeth hyblyg. • Pensiwn opsiynol, gyda hyd at 7% o gyfraniad y cyflogwr, sy’n cynnwys yswiriant bwyd • Porth disgownt staff a chymhwysedd Cerdyn Golau Glas gyda disgowntiau gan 15,000 o werthwyr cenedlaethol • Rydym yn gyflogwr achrededig Cyflog Byw Go Iawn Rydym yn un o'r elusennau plant mwyaf yn y DU ac rydym wedi bod yn gwneud gwahaniaeth i fywydau plant bregus y DU ers dros 150 o flynyddoedd. Dysgwch fwy am Weithredu dros Blant yma: Gweithredu dros Blant ac ar X, LinkedIn, Facebook neu YouTube i ddod i'n hadnabod yn well. Gair am y rôl Rydym ni’n chwilio am Uwch-ymarferydd Gofal Plant gyda phrofiad o weithio gyda phlant a allai fod ganddynt anghenion ychwanegol a chymhleth, i’n helpu ni i barhau i ddarparu gwasanaeth rhagorol yn ein grŵp chwarae Dechrau’n Deg Blaenllynfi a leolir ym Maesteg, Pen-y-Bont ar Ogwr.. Mae’r rôl hon nad yw’n rôl addysgu yn cynnig darpariaeth gofal plant o safon i blant 2 i 3 oed a dyma gyfle cyffrous am unigolyn cymwys a phrofiadol ymuno â ni. Rydym yn ymfalchïo mewn cael ein harwain gan blant ac rydym ni’nymroddedig i sicrhau bod yr holl blant rydym ni’n gweithio gyda nhw’n cael dechrau teg mewn bywyd. Sut y byddwch yn helpu i greu dyfodol mwy llewyrchus i bobl Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn arwain y tîm yn yr ystafell chwarae i ddarparu amgylchedd chwarae sy’n ddiogel ac yn gyffrous , gan gefnogi a hwyluso datblygiad plant a lle bo’n angenrheidiol, yn cyfrannu at ddiogelu plant. Bydd eich cyfrifoldebau’n cynnwys: • Cefnogi Arweinydd y Tîm Gofal Plant wrth gynnal yr ystafell chwarae o ddydd i ddydd, yn unol â gofynion statudol a deddfwriaethol • Arwain ac annog y tîm i greu naws gynnes, groesawgar a gofalgar sy’n cefnogi datblygiad hunan-barch plant, a’u hymdeimlad ohunaniaeth a pherthyn. • Gweithio’n agos gyda rhieni i ddatblyguperthynas gynhywysol ac agored sy’n ennyn eu diddordeb yn nysgua datblygiad eu plant. • Gweithio fel rhan o dîm i asesu anghenion datblygu plant a rhoi cynlluniau cymorth priodol ar waith. • Sicrhau bod y gwasanaeth yn cydymffurfio â pholisïau a gweithdrefnau Diogelu
Gadewch i ni siarad amdanoch chi • Cymhwyster CCLD Lefel 3, neu gymhwyster cyfatebol a gydnabyddir, a’r parodrwydd i gael cymhwyster CCLD Lefel 5. • Sgiliau siarad Cymraeg a Saesneg sy’n briodol i ddarpariaeth drochi’r Blynyddoedd Cynnar neu’n dysgu’r Gymraeg ar hyn o bryd • Mae profiad o leoliad blynyddoedd cynnar yn hanfodol • Profiad arweinyddiaeth, gan gynnwys goruchwyliaeth, dirprwyo, rheoli perfformiad a datblygu staff • Gwybodaeth a dealltwriaeth o ofynion AGC a deddfwriaeth berthnasol bresennol • Mynediad at gar. Mae’r rôl hon yn gofyn am y gallu i deithio’n unol ag anghenion y swydd, gydag addasiadau rhesymol, os bydd angen, yn unol â’r Ddeddf Cydraddoldeb. Da i wybod Sylwer na allwn gynnig nawdd ar gyfer y rôl hon. Am ragor o wybodaeth am y rôl, adolygwch ein disgrifiad swydd llawn drwy glicio yma. Os, am unrhyw reswm, bydd angen cefnogaeth arnoch gyda'ch cais, cysylltwch â Scott Jones ynrecruitmentservice@actionforchildren.org.ukgan ddyfynnu cyfeirnod 11243 a byddwn yn hapus i roi unrhyw gefnogaeth sydd ei hangen arnoch chi. Amrywiaeth, cydraddoldeb a chynhwysiant Yn Gweithredu dros Blant, rydym yn ymroddedig i feithrin gweithle amrywiol, cynhwysol a dilys. Rydym yn annog ceisiadau’n frwd gan ymgeiswyr Du, Asiaidd ac o Ethnigrwydd Lleiafrifol, ac ymgeiswyr anabl, am nad ydynt wedi eu cynrychioli’n ddigonol yn Gweithredu dros Blant. Rydym am gymryd camau pwrpasol a bwriadol i sicrhau cyfleoedd cyfartal i bob grŵp mewn cymdeithas ac i Gweithredu dros Blant. Mae staff gwrywaidd yn cael eu tangynrychioli o fewn ein rolau Gwasanaeth Plant. Hoffem annog mwy o ymgeiswyr gwrywaidd ar gyfer ein rolau Gwasanaeth Plant. Dogfennau Defnyddiol: • Llyfryn buddion gweithwyr Gweithredu dros • Datganiad Ymrwymiad GdB
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr