Tŷ Ni / Tŷ Brynna – Mae'r ddau yn gartrefi un preswylydd (meddiannaeth sengl). Mae un ym Mrynna a'r llall yn Llanharan. Ydych chi'n awyddus i gael effaith gadarnhaol ar fywydau plant a phobl ifainc? Ydych chi'n unigolyn gweithgar a chydnerth sydd â'r gallu i arwain carfan sy'n ymgysylltu â phlant a phobl ifainc a'u cefnogi nhw'n emosiynol?
Rydyn ni'n awyddus i benodi Uwch Ymarferydd Gofal Plant Preswyl profiadol a hyderus, sy'n frwdfrydig am godi dyheadau a gweithio mewn modd sy'n ystyriol o drawma.
A chithau'n Uwch Ymarferydd Gofal Plant Preswyl ar gyfer y ddau gartref, bydd gyda chi o leiaf tair blynedd o brofiad mewn lleoliad gofal plant preswyl. Byddwch chi'n rhan o ddwy garfan ofalgar sy'n darparu cartref diogel a chefnogol i blant a phobl ifainc. Mae gwaith y cartrefi'n cael ei arwain gan Reolwr Cofrestredig profiadol.
Byddwch chi'n ymroi i wella bywydau plant sydd ag anghenion cymhleth a rhai sydd wedi profi trawma yn ystod eu plentyndod.
Gan arwain y garfan wrth ddarparu gofal a chymorth, bydd angen i chi fod yn drefnus ac yn hyblyg i'r hyn a allai fod yn amgylchedd sy'n newid yn gyflym. Bydd gofyn i chi weithio mewn modd creadigol, gan ymgymryd â gweithgareddau a gwaith uniongyrchol, gan hefyd oruchwylio staff y garfan a chynnig cymorth. Byddwch chi'n cael eich cefnogi ac yn derbyn hyfforddiant i weithio mewn amgylchedd therapiwtig gan fanteisio ar y Model Adfer Trawma.
Bydd llawer o'ch gwaith chi'n cynnwys helpu'r carfanau i weithio gyda phlant a phobl ifainc mewn modd effeithiol, gan weithio tuag at wella a meithrin cydnerthedd fel bod modd cyflawni eu nodau personol.
Bydd y gwaith yma'n cynnwys darparu cymorth a gofal emosiynol, corfforol a phersonol sy'n caniatâu i bobl ifainc gyflawni eu potensial llawn, weithiau mewn sefyllfaoedd heriol. Bydd hyn yn cynnwys gweithio â theuluoedd a phobl broffesiynol i sicrhau bod y gofal a'r cymorth wedi'u haddasu i weddu anghenion unigol y plant a phobl ifainc.
Bydd gan ddeiliad y swydd rôl allweddol yn y cartref i sicrhau bod holl ofynion RISCA yn cael eu bodloni, a bod cofrestriad yn cael ei gynnal.
Er mwyn llwyddo yn y rôl yma, rhaid i chi fod yn unigolyn angerddol ac amyneddgar, a rhaid i chi ymrwymo i'r bobl rydych chi'n gweithio gyda nhw ac i safonau proffesiynol y swydd.
Fel aelod amser llawn o'r garfan reoli, bydd angen i chi fod yn barod i weithio ystod lawn o sifftiau, gan gynnwys gwyliau banc, penwythnosau, nosweithiau a chyflawni dyletswyddau cysgu i mewn. Efallai bydd gofyn i chi weithio mewn lleoliadau preswyl eraill yn achlysurol i gynorthwyo ein cartrefi eraill yn yr awdurdod lleol, er mwyn diwallu anghenion y gwasanaeth.
Bydd disgwyl i ymgeiswyr arddangos:
- Sgiliau cyfathrebu ardderchog
- Cymhelliant i ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel
- Sgiliau TG da a'r gallu i lunio a chadw cofnodion cywir a chlir
- Agwedd gadarnhaol at arwain a chefnogi carfan o staff
- Bod yn drefnus a hyblyg i ddiwallu anghenion y gwasanaeth
- Agwedd gadarnhaol a gwytnwch
- Ymrwymiad i ddarparu amgylcheddau diogel a gofalgar i blant a phobl ifainc sy'n eu hannog nhw i ddysgu ac i ddatblygu
- Cydymdeimlad ac empathi, a brwdfrydedd dros wneud penderfyniadau personol
- Y gallu i fuddsoddi mewn meithrin cydberthnasau sy'n llawn ymddiriedaeth â phlant, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol eraill.
- Brwdfrydedd ac ymrwymiad i ddysgu
- Modd i deithio'n annibynnol
Bydd disgwyl i chi feddu ar Ddiploma FfCCh Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Plant a Phobl Ifainc) neu gymhwyster NVQ Lefel 3 (Plant a Phobl Ifainc). Byddwch wedi cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru, a bydd gyda chi o leiaf tair blynedd o brofiad cyfredol ym maes gofal plant preswyl.
Edrychwch ar ein tudalennau gwe pwrpasol ar gyfer Gwasanaethau i Blant am ragor o wybodaeth ynghylch pam y dylech chi ddewis gyrfa ym maes Gwasanaethau Preswyl. Gwasanaethau Preswyl i Blant | Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (rctcbc.gov.uk) Am ragor o wybodaeth am y swydd neu am sgwrs anffurfiol, ffoniwch Charlotte Ajax (Rheolwr Datblygu - Preswyl) ar 07385401811.
Ein Cynnig i Chi Rydyn ni’n cydnabod bod maes Gofal Cymdeithasol yn un heriol yn broffesiynol ac yn bersonol a'i fod yn gofyn am sgiliau, ymrwymiad a brwdfrydedd sylweddol. Mae gyda ni ganolfan Addysg a Datblygu fewnol, bwrpasol sy'n rhoi cymorth ymarferol er mwyn i'n staff gynnal eu sgiliau a'u Datblygiad Proffesiynol Parhaus. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn hyfforddiant llawn a'r gefnogaeth sydd ei hangen i gyflawni'r rôl. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus sydd ddim yn meddu ar gymhwyster berthnasol yn derbyn cefnogaeth i gyflawni Diploma QCF Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Plant a Phobl Ifainc) o fewn 2 flynedd o'u penodi.
Bydd modd i weithwyr Cyngor Rhondda Cynon Taf hefyd fanteisio ar ystod eang o fuddion staff sy'n cynnwys: - 26 diwrnod o wyliau blynyddol, sy'n cynyddu i 31 diwrnod ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth. Mae cyfle hefyd i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol hyd at uchafswm o 10 diwrnod (pro rata) y flwyddyn.
- Cynllun Beicio i'r Gwaith
- Aelodaeth Hamdden am Oes ratach
- Cerdyn gostyngiadau i staff – Cerdyn Vivup
- Mynediad at ein Uned Iechyd Galwedigaethol
Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd i bob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.
Yn ogystal âr cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus. Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn y gweithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Yn rhan o'i amcanion hirdymor mewn perthynas âr Gymraeg a Strategaeth Cynllunio'r Gweithlu, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer siaradwyr Cymraeg Lefel 3 ac uwch. Os ydych chi'n bodloni'r meini prawf hanfodol sydd wedi'u nodi yn y fanyleb person ar gyfer y swydd ac yn siaradwr Cymraeg Lefel 3 ac uwch, fe'ch gwahoddir i gyfweliad os byddwch chi'n dewis cymryd rhan yn y cynllun. Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi'r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr neu filwyr wrth gefn sy’n diwallu'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.