Rydym yn chwilio am Uwch Ymarferydd Gofal Plant Preswyl profiadol i sefydlu ein cartref plant preswyl ein hunain ym Mwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â'r awdurdod lleol wrth i ni ddechrau sefydlu cangen breswyl i gefnogi rhai o'r plant a'r bobl ifanc sydd yn ein gofal. Fel Uwch Weithiwr Cymorth, byddwch yn rhan annatod o ddarparu amgylchedd diogel lle bydd ein plant a'n pobl ifanc yn byw. Byddwch yn eu cefnogi i gyrraedd eu llawn botensial drwy roi cyfleoedd iddynt ffynnu. Bydd hyn yn cynnwys darparu cefnogaeth emosiynol a chymdeithasol, rheoli ymddygiad heriol a datblygu dealltwriaeth o drawma plentyndod cynnar a'r effaith ar y bobl ifanc yn ein gofal. Bydd yr Uwch Ymarferydd yn rhan o'r tîm rheoli, gan ddarparu cefnogaeth i'r Rheolwr ond hefyd yn cynnig cefnogaeth ac arweiniad o'i brofiad a'i arbenigedd eich hun i'r staff. Helpu i sefydlu tîm cydlynol sy'n gweithio gyda'i gilydd i ddarparu'r gofal gorau i'r bobl ifanc. Mae'n ofynnol bod yr Uwch Ymarferydd Gofal Plant Preswyl yn meddu ar y Diploma Lefel 3 ar gyfer Plant a Phobl Ifanc neu gyfwerth. Mae'r bobl ifanc yn derbyn gofal 24 awr a bydd gofyn i chi weithio sifftiau cysgu i mewn, ar sail rota, i gefnogi hyn.
Am wybodaeth bellach cysylltwch â Warren Davies ar 01685 725000 neu ebostiwch warren.davies@merthyr.gov.uk
Bydd gofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'r holl gymwysterau a nodir yn hanfodol.
I gael ffurflen gais ffoniwch 01685 725000. Dychwelwch eich ffurflen erbyn 9/4/2025 2024 i'r Adran Adnoddau Dynol, Canolfan Ddinesig, Stryd Y Castell, Merthyr Tudful, CF47 8AN.
Ebost: Human.ResourcesAdmin@merthyr.gov.uk
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi ymrwymo o warchod a diolgelu pobl fwyaf bregus ein cymunedau. Wrth recriwtio a dethol staff byddwn yn cynnal gwiriadau manwl cyn penodi unrhyw un.
Mae'n rhaid i bob gweithiwr, wrth gyflawni eu cyfrifoldebau personol a sefydliadol, gydymffurfio â'r Ddeddf Gwarchod Data, y Polisi Diogelu Gwybodaeth a'r polisïau gweithredol perthnasol eraill. Ni ddylid datgelu unrhyw fater cyfrinachol wrth berson di-awdurdod neu drydydd parti ar unrhyw achlysur naill ai yn ystod eich cyflogaeth neu wedi i chi adael y swydd. Yr unig eithriadau yw pan fo disgwyl i chi wneud hynny dan eich amodau gwaith neu pan fo'n ofynnol gan y gyfraith, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, neu'r ddau. Fe all dorri cyfrinachedd arwain at gamau disgyblu.
Rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn ein gweithlu ac yn ystyried ein hunain fel Cyflogwr o Ddewis, yn ymrwymedig i hyrwyddo ac integreiddio cydraddoldeb i bob agwedd o'n gwaith. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb ac yn annog ceisiadau gan bob grwp a chefndir i geisio ac ymuno gyda ni yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Rydym yn ymroddedig i ddileu gwahaniaethu yn y gweithle ac yn sicrhau nad oes dim gwahaniaethu anghyfreithlon yn digwydd yn y broses recriwtio a dewis ar sail oedran, anabledd, rhyw, hil, cyfeiriadedd rhywiol, priodas neu bartneriaeth sifil, crefydd neu gred, hunaniaeth rhywedd, beichiogrwydd neu famolaeth.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr