Ydych chi'n weithiwr cymdeithasol cymwysedig sy'n angerddol am wneud gwahaniaeth i fywydau plant, pobl ifanc a'u teuluoedd? Ydych chi'n chwilio am gyfle cyffrous i ddatblygu eich gwybodaeth a'ch sgiliau gan weithio fel Uwch Ymarferydd? 
Mae Ceredigion wedi ymrwymo i sicrhau y bydd pob plentyn a pherson ifanc yn cyflawni ei botensial ac rydym yn trawsnewid ein gwasanaethau i sicrhau dull ataliol sy'n seiliedig ar gryfderau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Yn y swydd hon, byddwch yn helpu i arwain a rheoli tîm o weithwyr cymdeithasol, cynorthwywyr gwaith cymdeithasol a gweithwyr cymorth a fydd yn gweithio'n agos gydag asiantaethau partner i helpu i gefnogi teuluoedd i ofalu'n ddiogel am eu plant lle bynnag y bo modd. 
Byddwch yn canolbwyntio ar lwyth achosion bach o achosion mwy cymhleth ac yn goruchwylio ac yn cefnogi staff i sicrhau canlyniadau da i blant a phobl ifanc sydd angen cynlluniau diogelu, gofal a chymorth a chynllunio gofal. Byddwch yn gallu datblygu arbenigeddau mewn achosion llys, rheoli risg, gwaith uniongyrchol, cymorth i'r rhai sy'n gadael gofal ac agweddau eraill ar ddyletswyddau statudol. 
Mae Ceredigion wedi ymrwymo i ymgorffori'r Fframwaith Ymarfer Arwyddion o Ddiogelwch a Llesiant ac rydym yn buddsoddi mewn trawsnewid ein prosesau ac i hyfforddi ein staff i adnabod a rheoli'r risg o niwed ac adeiladu gwydnwch pobl i gynyddu diogelwch a lles. 
Lle bynnag y bo modd, rydym yn chwilio am unigolion sydd â rhywfaint o ruglder yn yr iaith Gymraeg. Fodd bynnag, bydd ymgeisydd llwyddiannus heb y sgiliau Cymraeg gofynnol yn cael ei gefnogi'n llawn i gyrraedd y safon a ddymunir o fewn 2 i'w benodi. 
Ein cynnig i chi Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu ein pobl a byddwn nid yn unig yn darparu cymorth i'ch galluogi i gymryd perchnogaeth o feysydd cyfrifoldeb allweddol y rôl hon yn gyflym ac yn hyderus ond yn ogystal, rydym wedi ymrwymo i gefnogi eich datblygiad er mwyn i chi allu bwrw ymlaen â'ch gyrfa gyda ni. 
Yn gyfnewid am eich sgiliau a'ch ymrwymiad byddwn yn cynnig ystod o fuddion i chi, gan gynnwys gweithio hyblyg, lwfans gwyliau blynyddol cystadleuol,cynllun pensiwn gyda chyfraniad cyflogwr o 14.6%,buddion teulu, arbedion ffordd o fyw a phecynnau iechyd a lles. 
Gellir cael mwy o wybodaeth am ein hystod eang o fuddion gweithwyr
yma. 
Credwn fod cydbwysedd bywyd a gwaith yn holl bwysig. I'ch cefnogi i gyflawni hyn, bydd gennych fynediad at y buddion dewisol canlynol: 
 - Gweithio Hybrid:Yn amodol ar fodloni rhai amodau, gallwch ddewis gweithio o'ch cartref neu mewn swyddfa.
- Amser-fflecsi:Gellir gweithio oriau o fewn lled band diffiniedig, o ddydd Llun i ddydd Gwener, yn amodol ar anghenion gwasanaeth.
Disgrifiad Swydd a Manyleb PersonAm sgwrs anffurfiol, cysylltwch â 
Youssef.Shawish@ceredigion.gov.uk Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.  Rydym wedi ymrwymoi ddiogelu ac amddiffynplant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o'r ymrwymiadhwn,maerhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch.Sylwchna fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio. 
 Yr hyn a gynigwn Cydbwysedd bywyd a gwaith 
 Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael 
 Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
 Lle byddwch yn gweithio Porth Cynnal - Gwasanaethau Arbenigol 
Rydym yn darparu ystod o wasanaethau cymorth arbenigol gydol oes i bobl Ceredigion. Ein nod yw sicrhau bod pob unigolyn yn derbyn y gefnogaeth arbenigol sydd ei hangen arnynt er mwyn iddynt allu byw bywydau diogel, iach a gwydn. Ein prif swyddogaethau yw: 
 Penmorfa Penmorfa yw ein swyddfa fwyaf canolog, dyma lle mae ein Prif Weithredwr a'n Cynghorwyr wedi'i leoli.
 Darllen mwy Aberaeron Mae Aberaeron yn dref harbwr brydferth ac mae'n un o gyrchfannau gwyliau mwyaf poblogaidd Ceredigion gyda llefydd poblogaidd i aros a bwyta.
 Darllen mwy