Oriau gwaith: 37
Math o gontract: Parhaol, Llawn Amser
Lleoliad: Tŷ Graddfa
Tîm: Tîm Adnoddau Cymunedol
Mae'r swydd hon yn cynnig cyfle gwych i ddod yn rhan o'n tîm ni a darparu cymorth ar draws y sefydliad.
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £42,839 - £46,142 ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu. Mae'r Tîm Adnoddau Cymunedol yn dîm mawr, sy'n cynnwys sawl disgyblaeth, er enghraifft Gweithwyr Cymdeithasol, Therapyddion Galwedigaethol, Ffisiotherapyddion a staff Gofal Cartref.
Yn y Tîm Adnoddau Cymunedol, mae'r elfen rhyddhau o'r ysbyty yn amgylchedd cyflym a bydd deiliad y swydd yn hanfodol wrth ddarparu cymorth i alluogi rhyddhau yn ddiogel, gan ganolbwyntio ar weithio gydag unigolion i gyflawni eu canlyniadau.
Yn y gwasanaeth, mae'r rhan rhyddhau o'r ysbyty yn cynnwys Gweithwyr Cymdeithasol a Chynorthwywyr Gwaith Cymdeithasol profiadol, a rhai sydd newydd gymhwyso, sy'n cynnig cymorth i'w gilydd ac sy'n cael cymorth gan reolwyr profiadol.
Ar gyfer y rôl, gofynnwn i chi: - Diploma/Gradd mewn Gwaith Cymdeithasol neu gymhwyster rhagflaenol
- Y gallu i weithio'n adeiladol gyda gweithwyr proffesiynol eraill i hyrwyddo arferion gweithio mewn partneriaeth
- Profiad o weithio o fewn y fframwaith Gofal Iechyd Parhaus
- Trwydded yrru lawn Categori B (Ceir) y Deyrnas Unedig a'r defnydd o gerbyd modur wedi'i yswirio at ddibenion busnes i deithio ledled y Fwrdeistref Sirol i ymweld â chleientiaid a mynychu cyfarfodydd.
Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, patrymau gweithio ystwyth a chynlluniau disgownt i staff.
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Joanne Milliken ar 07920 152573 neu ebost:
millij@caerphilly.gov.uk.
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth
Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Rhaid i chi feddu ar Ddiploma/Gradd mewn Gwaith Cymdeithasol neu ragflaenydd a bod wedi cofrestru fel Gweithiwr Cymdeithasol gyda Gofal Cymdeithasol Cymru (neu'n gallu trosglwyddo o gorff cydnabyddedig arall).
Mae’r gofynion cofrestru presennol yn nodi bod cwblhau’r cymhwyster Cydgrynhoi Ymarfer o fewn eich 3 blynedd gyntaf o ymarfer yn orfodol (os gwnaethoch gymhwyso ar ôl 1 Ebrill 2016). Bydd methu â chwblhau'r cymhwyster hwn yn llwyddiannus yn golygu na fyddwch yn gallu adnewyddu eich Cofrestriad Gwaith Cymdeithasol neu ymarfer fel Gweithiwr Cymdeithasol.