Oriau gwaith: 37 Oriau (7.24 Dydd Llun – Dydd Gwener)
Math o gontract: Parhaol, Llawn Amser
Lleoliad: Tŷ Graddfa
Tîm: Tîm Adnoddau Cymunedol
Mae'r swydd hon yn cynnig cyfle gwych i ddod yn rhan o'n tîm ni a darparu cymorth ar draws y sefydliad.
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £42,839 - £46,142 ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu. Mae cyfle wedi codi ar gyfer Uwch Ymarferydd o fewn Gwasanaeth Rhyddhau o’r Ysbyty y Tîm Adnoddau Cymunedol.
Rydyn ni’n dîm amlddisgyblaethol mawr, sy'n gweithio’n gyflym i sicrhau rhyddhau amserol a diogel i drigolion ein cymuned. Bydd y swydd hon wedi'i lleoli yn ein Gwasanaeth Asesu yn bennaf er bydd gofyn i chi hefyd ddarparu cymorth rhyddhau o'r ysbyty pan fo angen.
Mae disgwyliad y byddwch chi’n goruchwylio Gweithwyr Cymdeithasol yn ogystal â myfyrwyr/Gweithwyr Cymdeithasol sydd newydd gymhwyso. Yn gyfnewid am hyn, byddwch chi’n rhan o dîm blaengar sy'n esblygu a byddwch chi’n cael eich cynorthwyo gan gydweithwyr profiadol a Thîm Rheoli.
Ar gyfer y rôl, rydyn ni'n gofyn bod gennych chi'r canlynol: - Gradd/Diploma mewn Gwaith Cymdeithasol neu gymhwyster rhagflaenol.
- Cwblhau'r Rhaglen Cydgrynhoi Ymarfer yn llwyddiannus o fewn y tair blynedd gyntaf o ymarfer (os ydych chi wedi cymhwyso ar ôl 1 Ebrill 2016).
- Gwybodaeth am Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), Deddf Iechyd Meddwl a Deddfwriaeth Galluedd Meddyliol ac Amddifadu o Ryddid
- Profiad ôl-gymhwyso sylweddol mewn amgylchedd gwasanaethau cymdeithasol.
- Trwydded yrru lawn y DU Categori B (Ceir) a defnydd o gerbyd modur wedi'i yswirio at ddibenion busnes i deithio ledled y Fwrdeistref Sirol i ymweld â chleientiaid a mynd i gyfarfodydd.
Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, patrymau gweithio ystwyth a chynlluniau disgownt i staff.
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau.
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Jo Milliken/Lauren Davies ar 07920152573/ 07709720914 neu ebost:
millij@caerphilly.gov.uk daviel36@caerphilly.gov.uk Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth.
Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Rhaid i chi feddu ar Ddiploma/Gradd mewn Gwaith Cymdeithasol neu ragflaenydd a bod wedi cofrestru fel Gweithiwr Cymdeithasol gyda Gofal Cymdeithasol Cymru (neu'n gallu trosglwyddo o gorff cydnabyddedig arall).
Mae’r gofynion cofrestru presennol yn nodi bod cwblhau’r cymhwyster Cydgrynhoi Ymarfer o fewn eich 3 blynedd gyntaf o ymarfer yn orfodol (os gwnaethoch gymhwyso ar ôl 1 Ebrill 2016). Bydd methu â chwblhau'r cymhwyster hwn yn llwyddiannus yn golygu na fyddwch yn gallu adnewyddu eich Cofrestriad Gwaith Cymdeithasol neu ymarfer fel Gweithiwr Cymdeithasol.