Oriau gwaith: 37 oriau yr wythnos
Math o gontract: Llawn Amser, Cyfnod Penodol Tan 30/08/2026
Lleoliad: Tredomen
Tîm: Tîm Pobl Hŷn y De
Mae'r swydd hon yn cynnig cyfle gwych i ddod yn rhan o'n tîm ni a darparu cymorth ar draws y sefydliad.
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £41,511 - £44,711 ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â thîm gwaith cymdeithasol sefydledig sy'n canolbwyntio ar y person a’r canlyniadau.
Byddwch chi’n darparu gwasanaethau rheoli asesu a gofal amserol ac ymatebol i bobl hŷn ag anawsterau corfforol. Byddwch chi hefyd yn darparu gwasanaeth rheoli asesu a gofal i oedolion dros 65 oed sydd â phroblemau iechyd meddwl a phobl iau â dementia sy'n cael eu hystyried bod angen gofal a chymorth arnyn nhw er mwyn cynyddu a chynnal eu hannibyniaeth a'u hurddas.
Ar gyfer y rôl, rydyn ni'n gofyn bod gennych chi'r canlynol: - Diploma/Gradd mewn Gwaith Cymdeithasol neu gymhwyster rhagflaenol.
- Gwybodaeth am y fframwaith deddfwriaethol presennol ar gyfer gofal cymdeithasol a'r ysgogwyr cenedlaethol o fewn Gofal Cymdeithasol i Oedolion.
- Y gallu i weithio'n adeiladol gyda gweithwyr proffesiynol eraill i hyrwyddo arferion gweithio mewn partneriaeth.
- Trwydded yrru lawn y DU Categori B (Ceir) a defnydd o gerbyd modur wedi'i yswirio at ddibenion busnes i deithio ledled y Fwrdeistref Sirol i ymweld â chleientiaid a mynychu cyfarfodydd.
Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, patrymau gweithio ystwyth a chynlluniau disgownt i staff.
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Andrew Parr ar 07733364833 neu ebost:
Parra@caerphilly.gov.ukGellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth
Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Rhaid i chi feddu ar Ddiploma/Gradd mewn Gwaith Cymdeithasol neu ragflaenydd a bod wedi cofrestru fel Gweithiwr Cymdeithasol gyda Gofal Cymdeithasol Cymru (neu'n gallu trosglwyddo o gorff cydnabyddedig arall).
Mae’r gofynion cofrestru presennol yn nodi bod cwblhau’r cymhwyster Cydgrynhoi Ymarfer o fewn eich 3 blynedd gyntaf o ymarfer yn orfodol (os gwnaethoch gymhwyso ar ôl 1 Ebrill 2016). Bydd methu â chwblhau'r cymhwyster hwn yn llwyddiannus yn golygu na fyddwch yn gallu adnewyddu eich Cofrestriad Gwaith Cymdeithasol neu ymarfer fel Gweithiwr Cymdeithasol.