Bydd ymuno â'n tîm yn Sir Benfro yn rhoi llawer o gyfleoedd i chi ddod â syniadau newydd, datblygu'n broffesiynol, a chyfrannu'n uniongyrchol at y gwasanaeth i hyrwyddo diwylliant o welliant, myfyrio a dysgu parhaus.
Rydym yn darparu strwythur gweithio cefnogol ar draws pob un o'n timau gofal cymdeithasol, gan sicrhau bod gennych chi'r cyfan y mae ei angen arnoch i berfformio hyd eithaf eich gallu wrth wneud swydd rydych chi'n ei charu.
Gyda'i golygfeydd godidog, ffordd o fyw arfordirol ac amrywiaeth o weithgareddau hamdden, mae gan Sir Benfro lawer i'w gynnig; a ninnau hefyd. Yn ogystal âm rheoli cefnogol, dim ond rhagflas yw'r canlynol o'r ystod o fuddion y gallwch fanteisio arnynt wrth ymuno âm Cyngor Sir Penfro:
- Gwyliau blynyddol hael o hyd at 31 o ddiwrnodau
- Aelodaeth o gynllun pensiwn â buddion diffiniedig ar sail cyfartaledd cyflog gyrfa llywodraeth leol
- Opsiynau ar gyfer gweithio hyblyg a gweithio ystwyth
- Amrediad eang o adnoddau i gefnogi'ch iechyd a'ch llesiant, gan gynnwys gwasanaeth iechyd galwedigaethol proffesiynol mewnol a mynediad at wasanaethau cwnsela
- Cynllun tâl mamolaeth a thadolaeth galwedigaethol hael, yn ogystal â budd-daliadau statudol
- Mynediad i ddisgowntiau i weithwyr ar amrediad o nwyddau, gwasanaethau ac atyniadau, gan gynnwys canolfannau hamdden
- Cynlluniau aberthu cyflog, cynlluniau ceir a beicio
- Pecyn adleoli hael o hyd at £8,000 - a allai, er enghraifft, gynnwys rhent yn lle bwriad i brynu tŷ, ffioedd symud tŷ a storio, a ffioedd cyfreithiol / trefnu morgais ar gyfer prynu tŷ
Cyfeiriwch at y swydd-ddisgrifiad uchod am ragor o fanylion am y swydd wag hon a manyleb y person.Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd uchod am ragor o fanylion am y swydd wag hon a manyleb y person. Gwiriadau Cyflogaeth
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu gennych ei rhannu â Cifas pan fydd yn briodol ar gyfer eich rôl a'ch cyfrifoldeb, a bydd Cifas yn ei defnyddio i atal twyll, ymddygiad anghyfreithlon neu anonest arall, camymddwyn, ac ymddygiad arall sy'n ddifrifol amhriodol. Os caiff unrhyw un o'r rhain eu canfod, gellir gwrthod darparu rhai gwasanaethau neu gyflogaeth i chi. Bydd eich gwybodaeth bersonol hefyd yn cael ei defnyddio i wirio pwy ydych chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a Cifas, a'ch hawliau diogelu data, yma: https://www.cifas.org.uk/fpn.
Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag.
Sylwch nad yw Cyngor Sir Penfro ar hyn o bryd yn derbyn ymgeiswyr sydd angen fisa Gweithiwr Medrus fel rhagofyniad i hawl i weithio yn y DU. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y DU cyn gwneud cais am swydd wag. Nodyn Canllaw: Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial a Chywirdeb Gwybodaeth:
- Rydym yn deall y gall ymgeiswyr ddewis defnyddio offer fel Deallusrwydd Artiffisial cynhyrchiol i gefnogi paratoi eu cais. Er bod defnyddio offer o'r fath yn cael ei ganiatáu, mae'n parhau i fod yn gyfrifoldeb llawn yr ymgeisydd i sicrhau bod yr holl wybodaeth a gyflwynir yn ffeithiol gywir, yn wir, ac yn gynrychioliadol o'u sgiliau, profiadau a chymwysterau eu hunain.
- Gall darparu gwybodaeth sy'n ffug, yn gamarweiniol, neu'n orliwiedig, p'un a gafodd ei chynhyrchu gan Deallusrwydd Artiffisial ai peidio, arwain at anghymhwyso o'r broses recriwtio neu ddiswyddo os caiff ei ddarganfod ar ôl penodi.
- Drwy gyflwyno'r cais hwn, rydych yn cadarnhau bod yr holl gynnwys a ddarperir yn gywir ac wedi'i gyflwyno'n ddidwyll.
Diogelu
Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal âr dulliau a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.
Mae'r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr a gweithlu'r Cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor. Busnes pawb yw diogelu, p'un a ydynt yn gweithio i'r Cyngor neu'n gweithio ar ran y Cyngor.
Cymorth a Gwybodaeth Ychwanegol - Cysylltwch â'r Tîm Systemau AD cyn gynted â phosibl os na allwch wneud cais ar-lein drwy anfon e-bost at hrsystemsteam@pembrokeshire.gov.uk .
- Cysylltwch âm Recriwtio os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud âr swydd wag hon drwy anfon e-bost at recriwtio@sir-benfro.gov.uk
- Mae gweithwyr llywodraeth leol ar delerau'r Cyd-gyngor Cenedlaethol yn destun bargeinio cyflog cenedlaethol; mae'r holl gyflogau a nodir yn ein hysbysebion ar hyn o bryd ar sail cyflogau 1/4/2025.
Sylwch, mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth amgen addas os yw eu swyddi mewn perygl, felly rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni manyleb y person ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cronfa adleoli.
Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni chânt eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.