Rydym yn awyddus i benodi unigolyn sy'n meddu ar sgiliau arwain cryf i arwain a chymell staff. Bydd deiliad y swydd yn canolbwyntio ar ganfod atebion a bydd yn meddu ar brofiad o weithio mewn gwasanaeth maethu.
Fel Uwch Ymarferydd - Gwasanaethau Maethu, byddwch yn cefnogi'r Rheolwr Cofrestredig i arwain a hyrwyddo'r Gwasanaeth Maethu, gan sicrhau twf y ddarpariaeth fewnol mewn perthynas â Gofalwyr Maeth, Llety â Chymorth a'r trefniadau ar gyfer Pan Fydda i'n Barod drwy wneud gwaith penodol o ran recriwtio a chadw. Byddwch yn rheoli'r modd y gweithredir y gwasanaeth gan roi arferion gorau ar waith ar bob adeg. Byddwch yn arddel safonau proffesiynol drwy ddatblygu timau sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau a fydd yn deall eu cyfraniad i'r Gwasanaeth a llwyddiant ehangach y strategaeth Llesiant Gydol Oes.
Byddwch chi'n gyfrifol am sicrhau ansawdd yr asesiadau a byddwch chi'n cefnogi'r Rheolwr Cofrestredig i adolygu amrywiaeth o bolisïau a gweithdrefnau fel y gallwch chi a'r tîm ddarparu gwasanaeth o'r safon uchaf i'n gofalwyr.
Croesawir ceisiadau oddi wrth ymgeiswyr sydd wedi ennill Gradd mewn Gwaith Cymdeithasol neu gymhwyster cyfatebol, sydd â phrofiad ar ôl cymhwyso o weithio fel gweithiwr cymdeithasol ym maes Gofal Cymdeithasol i Blant ac sydd wedi'u cofrestru â Gofal Cymdeithasol Cymru.
Rydym yn cynnig sesiynau ymgynefino rhagorol a chyfleoedd hyfforddi parhaus, gan gynnwys cefnogaeth fel y gallwch chi ennill rhagor o gymwysterau.
Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi ymrwymo i wella amrywiaeth ei weithlu i adlewyrchu'n well y cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bob grup lleiafrifol a chan unigolion sy'n meddu ar un o'r nodweddion gwarchodedig fel y'i diffinnir gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.
Yn gyfnewid am eich sgiliau a'ch ymrwymiad, byddwn yn cynnig ystod o fuddion gweithwyr i chi gan gynnwys cynllun oriau hyblyg, lwfans gwyliau blynyddol cystadleuol a chynllun cyfraniadau pensiwn hael.
Yn ogystal, rydym wedi ymrwymo i ddatblygu ein pobl a byddwn nid yn unig yn darparu cefnogaeth i'ch galluogi i gymryd perchnogaeth yn gyflym ac yn hyderus o feysydd cyfrifoldeb allweddol y rôl hon ond yn ogystal, rydym wedi ymrwymo i gefnogi'ch datblygiad er mwyn i chi allu symud ymlaen â'ch gyrfa gyda ni.
Credwn fod cydbwysedd bywyd a gwaith yn holl bwysig. I'ch cefnogi i gyflawni hyn, bydd gennych fynediad at y buddion dewisol canlynol:
- Gweithio Hybrid: Yn amodol ar fodloni rhai amodau, gallwch ddewis gweithio o'ch cartref neu mewn swyddfa.
- Amser-fflecsi: Gellir gweithio oriau o fewn lled band diffiniedig, o ddydd Llun i ddydd Gwener, yn amodol ar anghenion gwasanaeth.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person Cysylltwchâni Am wybodaeth pellach a thrafodaeth anffurfiol ynglwn â'r swydd hon cysylltwch â Sarah Codner:
Sarah.Codner@ceredigion.gov.uk Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o'r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Yr hyn a gynigwn Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Lle byddwch yn gweithio Porth Cynnal - Gwasanaethau Arbenigol
Rydym yn darparu ystod o wasanaethau cymorth arbenigol gydol oes i bobl Ceredigion. Ein nod yw sicrhau bod pob unigolyn yn derbyn y gefnogaeth arbenigol sydd ei hangen arnynt er mwyn iddynt allu byw bywydau diogel, iach a gwydn. Ein prif swyddogaethau yw:
Penmorfa Penmorfa yw ein swyddfa fwyaf canolog, dyma lle mae ein Prif Weithredwr a'n Cynghorwyr wedi'i leoli.
Darllen mwy Aberaeron Mae Aberaeron yn dref harbwr brydferth ac mae'n un o gyrchfannau gwyliau mwyaf poblogaidd Ceredigion gyda llefydd poblogaidd i aros a bwyta.
Darllen mwy