Uwch Ymarferydd - Hwb Ardal - Gorllewin (Dros Dro)
Dyddiad cau 18/02/2026
Cyflogwr
Bridgend County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Lleoliad
Penybont
Pob ardal
Manylion
Oriau contract
Llawn Amser
Disgrifiad o'r swydd
37 awr yr wythnos
Dros dro hyd at Fawrth 2027
A ydych yn angerddol am wella bywydau plant a phobl ifanc? A ydych am weithio i gyflogwr sy'n rhoi pwys mawr ar oruchwylio o ansawdd uchel, llesiant a datblygu gyrfa?
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnig cyfleoedd gwych i ddatblygu eich gyrfa ym maes gwaith cymdeithasol
Yn ddiweddar, rydym wedi cwblhau ailstrwythuro er mwyn darparu amrywiaeth hyd yn oed yn ehangach o lwybrau i blant â phrofiad o fod mewn gofal. O ganlyniad i'r ailstrwythuro, mae pedwar tîm rheoli achosion llai wedi'u creu a bydd dull seiliedig ar gryfderau yn sail i hyn o fewn amgylchedd cydweithredol a chefnogol.
Rydym wrthi ar hyn o bryd yn recriwtio uwch-ymarferydd a fydd wedi'i leoli yn ein Tîm Ardal y Gorllewin.
Mae ein Timau Ardal wedi'u lleoli mewn pedair canolfan gymunedol o amgylch y fwrdeistref sirol. Mae ein gwasanaethau cymorth wedi'u targedu i deuluoedd wedi'u cyd-leoli â'n timau ardal, i ddarparu continwwm o wasanaethau yn amrywio o gymorth cynnar i ddarpariaeth ddwys i deuluoedd ag anghenion cymhleth. Yn ogystal, mae gennym dimau sy'n cynnig arbenigedd mewn perthynas â phlant ag anableddau a phobl ifanc 16 oed a throsodd y mae ganddynt hawl i wasanaethau gadael gofal.
Rydym wrthi'n cyflwyno hyfforddiant ar gyfer y model gwaith cymdeithasol arwyddion diogelwch. Bydd yr holl staff newydd yn cael cyfres o hyfforddiant a fydd yn eu cynorthwyo i ddatblygu eu harfer yn unol ag egwyddorion y model.
Byddem wrth ein bodd yn clywed gan weithwyr cymdeithasol/uwch-ymarferwyr profiadol sydd â phrofiad goruchwylio a/neu brofiad ar lefel uwch-ymarferydd sydd â 3 blynedd o brofiad neu fwy o wasanaeth. Os byddwch yn llwyddiannus, byddwch yn cael cyfnod sefydlu cadarn, goruchwyliaeth reolaidd, cymorth ychwanegol a mentora lle y bo angen. Yn ogystal â hyn, byddwch yn gallu datblygu eich gyrfa ymhellach gyda chyfleoedd datblygu a dyrchafu.
Rydym yn sefydliad myfyriol sy'n adeiladu ar ei gryfderau yn barhaus ac sy'n ymrwymedig i'r egwyddor mai'r ffordd fwyaf effeithiol o wella canlyniadau i'r holl blant, pobl ifanc a theuluoedd yw drwy ddarparu gwasanaethau hygyrch, cyffredinol.
Gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn gyflogwr i chi, gallwch ddisgwyl gweithio mewn amgylchedd gwerth chweil ac addysgol lle mae staff yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi.
Mae'r Cyngor yn frwdfrydig yn cefnogi cyfleoedd gweithio hyblyg lle bynnag y mae anghenion darpariaeth gwasanaeth yn caniatáu hynny. Gallai hyn gynnwys gweithio rhan-amser, oriau cywasgedig ac ati.
Rydym yn defnyddio technoleg symudol sy'n eich galluogi i weithio o amrywiaeth o safleoedd neu gartref er mwyn cynyddu hyblygrwydd a lleihau amser teithio.
I gael rhagor o wybodaeth ffoniwch Kamal Ray ar 01656 642303 neu anfonwch e-bost at kamal.ray@bridgend.gov.uk
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Oedolion gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae trwydded yrru ddilys yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 18 Chewefror 2026
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 19 Chewefror 2026
Dyddiad y Cyfweliad: 27 Chewefror 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr