Oriau gwaith: 37 Oriau - Bydd yr oriau hyn yn cael eu gweithio yn ôl trefn rota Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch chi am yr oriau sydd ar gael, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio gan ddefnyddio'r manylion wedi'u darparu isod.
Math o gontract: Llawn Amser, Parhaol
Lleoliad: Tŷ Aberhonddu, Mamheilad, Pont-y-pŵl
Tîm: Tîm Dyletswydd Argyfwng De-ddwyrain Cymru (SEWEDT)
Mae'r swydd hon yn cynnig cyfle gwych i ddod yn rhan o'n tîm ni a darparu cymorth ar draws y sefydliad.
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £42,839 - £46,142yn ogystal â thaliad atodol ar sail y farchnad o £2,995 y flwyddyn, ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu. Mae Tîm Dyletswydd Argyfwng De-ddwyrain Cymru yn darparu gwasanaeth gwaith cymdeithasol brys y tu allan i oriau i bum awdurdod lleol, sef Blaenau Gwent, Caerffili, Casnewydd, Sir Fynwy a Thorfaen.
Rydyn ni'n dîm brwdfrydig ac ymroddgar sy'n ymdrechu i gynorthwyo oedolion, plant a theuluoedd sy'n wynebu argyfwng y tu allan i oriau. Mae'r tîm yn ymateb i sefyllfaoedd brys sy'n cynnwys plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed na allan nhw aros tan y diwrnod gwaith nesaf, gan weithio'n agos gydag asiantaethau partner eraill, fel yr heddlu a'r gwasanaeth iechyd.
Mae Caerffili, fel yr awdurdod arweiniol, yn darparu'r gwasanaeth ar gyfer yr awdurdodau partner o swyddfa ganolog. Rydyn ni'n gweithredu rota 4 wythnos sy'n cynnwys gweithio ar y penwythnos, gwyliau banc a dros nos gyda rheolwr dyletswydd ar gael bob amser naill ai yn y swyddfa neu ar alwad dros nos.
Mae'r swydd yn cynnwys tâl aflonyddwch dros dro o 20% am weithio y tu allan i oriau yn ogystal â thaliad atodol ar sail y farchnad ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy: (£2,995 pro rata). n chwilio am Uwch Ymarferydd Gwaith Cymdeithasol profiadol i ymuno âm sefydledig. Nodwch ein bod ni, ar yr achlysur hwn, yn ceisio blaenoriaethu ymgeiswyr sy'n Weithwyr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy (AMHP) ac, yn ddelfrydol, bydd gan ymgeiswyr brofiad o ddiogelu plant ac oedolion mewn risg sy'n canolbwyntio ar weithio gydag oedolion, plant, gofalwyr a theuluoedd mewn argyfwng. Rydyn ni hefyd yn darparu cyfleoedd hyfforddi rhagorol a fydd yn cynorthwyo'r ymgeisydd llwyddiannus o ran ei ddatblygiad proffesiynol parhaus. n hanfodol bod gan ymgeiswyr yr isafswm cymwysterau sef Diploma/Gradd mewn Gwaith Cymdeithasol neu gyfwerth, eu bod nhw'n Ymarferwyr Iechyd Meddwl Cymeradwy neu'n ymrwymo i gwblhau'r hyfforddiant hwn a bod ganddyn nhw o leiaf 3 blynedd o brofiad ôl-gymhwyso.
Ar gyfer y rôl, gofynnwn i chi: - Diploma/Gradd mewn Gwaith Cymdeithasol neu ragflaenydd.
- Gwybodaeth am ddeddfwriaeth briodol e.e. Deddf Plant 1989, Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, Deddf Iechyd Meddwl 1983 wedi'i ddiwygio 2007. Deddf Galluedd Meddyliol 2005 a Threfniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid.
- 3 blynedd o brofiad ôl-gymhwyso o weithio mewn adran Gwasanaethau Cymdeithasol.
- Profiad o gyflawni dyletswyddau statudol o dan Adran 47 o Ddeddf Plant 1989, Adran 76 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a gweithredu gweithdrefnau Amddiffyn Plant neu Profiad fel Ymarferydd Iechyd Meddwl Cymeradwy.
- Trwydded yrru lawn y DU Categori B (Ceir) a defnydd o gerbyd modur wedi'i yswirio at ddibenion busnes/gwaith i deithio ledled y Fwrdeistref Sirol i fynychu cyfarfodydd.
-
Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, patrymau gweithio ystwyth a chynlluniau disgownt i staff.
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â David Thomas ar 01495 767045/6 ar 07515598336 neu ebost:
thomad5@caerphilly.gov.uk.
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth. r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Rhaid i chi feddu ar Ddiploma/Gradd mewn Gwaith Cymdeithasol neu ragflaenydd a bod wedi cofrestru fel Gweithiwr Cymdeithasol gyda Gofal Cymdeithasol Cymru (neu'n gallu trosglwyddo o gorff cydnabyddedig arall).
Mae’r gofynion cofrestru presennol yn nodi bod cwblhau’r cymhwyster Cydgrynhoi Ymarfer o fewn eich 3 blynedd gyntaf o ymarfer yn orfodol (os gwnaethoch gymhwyso ar ôl 1 Ebrill 2016). Bydd methu â chwblhau'r cymhwyster hwn yn llwyddiannus yn golygu na fyddwch yn gallu adnewyddu eich Cofrestriad Gwaith Cymdeithasol neu ymarfer fel Gweithiwr Cymdeithasol. r swydd hon yn denu Atodiad Marchnad o £2,995 y flwyddyn, yn ychwanegol at y cyflog blynyddol, a fydd yn cael ei dalu mewn 12 rhandaliad misol.