Ydych chi'n frwdfrydig dros ddefnyddio Therapi Galwedigaethol i helpu pobl i fyw bywydau mwy ystyrlon? Ydych chi'n gwerthfawrogi gweithio mewn sefydliad penderfynol sy'n canolbwyntio ar les? Os felly, parhewch i ddarllen.
Yn dilyn ehangu parhaus y Tîm Therapi Galwedigaethol Llesiant Gydol Oes, crëwyd y rôl - Uwch Therapydd Galwedigaethol er mwyn cydlynu prosesau a gweithgareddau'r tîm brysbennu. Bydd cysylltiadau agos gydag Uwch Therapyddion Galwedigaethol eraill, Gofal sy'n cael ei gefnogi gan dechnoleg, y Gwasanaeth galluogi a'r Ganolfan Byw'n Annibynnol ym Mhenmorfa yn allweddol. Bydd hyn yn creu cyfleoedd clinigol cyffrous ac eang ar gyfer datblygiad proffesiynol.
Bydd y Therapydd Galwedigaethol cymwys hefyd yn cefnogi gydag asesiadau brysbennu a gweithgareddau cysylltiedig. Bydd y Therapyddion a'r Uwch Therapyddion Galwedigaethol cymwys yn gweithio'n agos gyda'i gilydd i barhau i ddatblygu gwasanaethau blaengar o fewn Cyngor Sir Ceredigion, gyda chefnogaeth barhaus gan aelodau eraill o'r tîm a chydweithwyr ym maes gwaith cymdeithasol.
Pwrpas y swydd: - goruchwylio, cydlynu a gweithredu sgiliau a dulliau Therapi Galwedigaethol craidd i wella annibyniaeth unigolion o'r pwynt cyswllt cyntaf
- lleihau risg i ddefnyddwyr gwasanaeth, gofalwyr a theuluoedd
- arwain wrth wneud penderfyniadau ym maes Therapi Galwedigaethol sy'n seiliedig ar dystiolaeth o fewn proses Brysbennu'r Tîm Amlddisgyblaethol
- goruchwylio, mentora a chydweithio gyda'r Therapydd Galwedigaethol brysbennu
- cefnogi staff iau i ddatblygu gwasanaethau a chymwyseddau sy'n darparu dulliau arloesol o gyflwyno gwasanaethau (rhithwir, mynediad agored at gyngor/gwybodaeth, clinigau, wyneb yn wyneb, fideo, a thechnoleg)
- cyfrannu at foderneiddio parhaus a chefnogi'r gwasanaeth Therapi Galwedigaethol ehangach
- chwarae rhan arweiniol allweddol ym maes Therapi Galwedigaethol yn y Ganolfan Byw'n Annibynnol ym Mhenmorfa.
- cefnogi'r rheolwr tîm ac Uwch Therapyddion Galwedigaethol eraill gyda'u cyfrifoldebau
- gweithio'n gynhyrchiol gydag arweinwyr eraill y Tîm Brysbennu Amlddisgyblaethol.
Oddyddiddydd: Byddwch yn defnyddio eich profiad clinigol ac arweiniol i gydlynu'r broses brysbennu ar gyfer atgyfeiriadau newydd i'r Tîm Therapi Galwedigaethol Llesiant Gydol Oes. Byddwch yn sicrhau safon uchel o ran presenoldeb a chymorth Therapi Galwedigaethol o fewn y tîm brysbennu ac asesu, 5 diwrnod yr wythnos. Byddwch yn arwain ar benderfyniadau sy'n ymwneud ag ymyrraeth frys a blaenoriaethu.
Yn ymarferol, bydd hyn yn cynnwys cyfrifoldebau clinigol ac anghlinigol er mwyn sicrhau bod pob defnyddiwr gwasanaeth yn cael ei drin fel unigolyn ac yn derbyn yr ymateb mwyaf priodol i gynyddu annibyniaeth, derbyn gwybodaeth a chyngor a gwasanaethau priodol yn amserol. Byddwch yn rhoi cyfle i bobl gyflawni beth sy'n bwysig iddynt. Byddwch yn datblygu gwybodaeth arbenigol ym mhob maes clinigol y mae'r tîm Therapi Galwedigaethol yn weithgar ynddynt. Byddwch yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr gwaith cymdeithasol ac aelodau eraill o'r tîm amlddisgyblaethol yn unol â'r nodau Llesiant Gydol Oes sy'n gysylltiedig â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Byddwch yn annog aelodau eraill o staff i weithio'n arloesol fel rhan o Dîm Ceredigion, gan gyfrannu at ymagwedd gyfunol sy'n seiliedig ar dystiolaeth a hyrwyddir gan Wasanaeth Brysbennu ac Asesu a Thîm Ceredigion.
Tîm Therapi Galwedigaethol Llesiant Gydol Oes: Rydym yn frwdfrydig dros y gwasanaeth o safon sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yr ydym yn ei ddarparu i bobl yng Ngheredigion a'r safbwynt unigryw y mae ein galwedigaeth yn ei gynnig i'r sefydliad ehangach. Rydym yn credu bod gan bobl hawl i gyrraedd eu potensial llawn ym mhob cyfnod o'u bywydau.
Fel tîm, rydym yn falch o'n diwylliant cefnogol ac rydym yn awyddus i rannu ein cryfderau, ein sgiliau proffesiynol, a'n gwybodaeth eang - o fewn ein gwasanaeth Therapi Galwedigaethol uniongyrchol a chyda'n cydweithwyr amlddisgyblaethol.
Fel Therapydd Galwedigaethol cymwys a phrofiadol, gallwch ddisgwyl derbyn goruchwyliaeth broffesiynol reolaidd a chyfnodau penodol ar gyfer Datblygiad Proffesiynol Parhaus.
Ein nod yw grymuso unigolion i fanteisio i'r eithaf ar eu hannibyniaeth gan ddefnyddio adnoddau'n deg ac yn gyfrifol, yn unol â'n cyfrifoldebau proffesiynol a deddfwriaethol.
Mae ein tîm yn arbenigo yn y canlynol:
- addasiadau
- dulliau ac offer codi a chario
- asesiadau gweithredol
- grymuso pobl sydd â chyflyrau hirdymor cymhleth
- defnyddio dulliau cydadfer, adfer ac sydd yn canolbwyntio ar yr unigolyn
- gweithio amlddisgyblaethol
- adnabod ffyrdd arloesol o helpu pobl i fyw bywydau mwy ystyrlon
Fel Therapydd Galwedigaethol cymwys, byddwch yn hyderus yn eich sgiliau asesu clinigol; yn gallu egluro pam a sut yr ydych yn gwneud eich penderfyniadau. Byddwch yn hunanymwybodol yn broffesiynol, gan fod yn ymwybodol o'ch ffiniau o ran cymwyseddau. Byddwch yn awyddus i ddysgu a rhannu eich gwybodaeth. Yn bennaf, dylech fod yr un mor frwdfrydig ag yr ydym ni dros arloesi, gwaith tîm a darparu gwasanaeth o safon sy'n seiliedig ar dystiolaeth.
Rydymyngweithiofeltîmacyngwerthfawrogicyfraniadpobaelod.
Osydychynrhannueingwerthoedd,cysylltwchidrafodycyflecyffroushwn, neuymgeisiwchnawr.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person. Mae'rmanteisionsy'ngysylltiedigâ'rswyddhonyncynnwys;
- gweithio hybrid
- amser hyblyg
- grant ariannol dewisol hael i gefnogi'r ymgeisydd addas i symud i Geredigion
- mynediad posibl i'r Cynllun Tai Fforddiadwy - Tai Gostyngiad ar Werth
Am ragor o wybodaeth, neu os hoffech drafod y cyfle hwn, cysylltwch â: Steven Elliott, Rheolwr tîm ar: Steven.elliott@ceredigion.gov.uk
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau. Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o'r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Yr hyn a gynigwn Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Lle byddwch yn gweithio Porth Gofal - Gwasanaethau Ymyrraeth wedi'u Targedu
Rydym wrth wraidd darpariaeth gofal cymdeithasol gydol oes Ceredigion ac ein nod yw sicrhau bod pob unigolyn yn derbyn yr ymyrraeth orau i ddiwallu ei anghenion neu, lle bo angen, eu tywys at gymorth cynnar neu wasanaethau arbenigol.Ein prif swyddogaethau yw:
- Tîm Derbyn a Brysbennu Porth Ceredigion
- Gwasanaethau Ymyrraeth wedi'i Thargedu
- Gwasanaethau Maethu
- Gwasanaethau Preswyl a Gofal Dydd
- Gwasanaethau Tai
- Storfeydd Cyfarpar Cymunedol Integredig
- Tîm Dyletswydd Argyfwng
Penmorfa Penmorfa yw ein swyddfa fwyaf canolog, dyma lle mae ein Prif Weithredwr a'n Cynghorwyr wedi'i leoli.
Darllen mwy Aberaeron Mae Aberaeron yn dref harbwr brydferth ac mae'n un o gyrchfannau gwyliau mwyaf poblogaidd Ceredigion gyda llefydd poblogaidd i aros a bwyta.
Darllen mwy