Oriau gwaith: 37 Oriau
Math o gontract: Parhaol, Llawn Amser
Lleoliad: Gwasanaeth Fforensig Gwent, Ysbyty Sant Cadog
Tîm: Iechyd Meddw
Mae'r swydd hon yn cynnig cyfle gwych i ddod yn rhan o'n tîm ni a darparu cymorth ar draws y sefydliad.
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £41,511 - £44,711 ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu. Mae'r swydd hon yn denu Atodiad Marchnad o £2,863 y flwyddyn ar ôl derbyn y Cymhwyster AMHP, yn ychwanegol at y cyflog blynyddol, a fydd yn cael ei dalu mewn 12 rhandaliad misol.Mae cyfle cyffrous wedi codi am swydd Uwch Ymarferydd parhaol yn Nhîm Fforensig Gwent. Byddwch chi'n cael eich cydleoli â chydweithwyr iechyd o Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a bydd gennych chi ddealltwriaeth dda o anghenion y gwasanaeth. Byddwch chi'n gallu gweithio'n annibynnol wrth gael y sgiliau i weithio mewn lleoliad aml-asiantaeth.
Mae Gwasanaeth Fforensig Gwent yn cynorthwyo pobl sydd, o ganlyniad i'w hanghenion iechyd meddwl, wedi dod i gysylltiad â'r system gyfreithiol ac sydd angen amgylchedd saff a diogel, fel unedau cleifion mewnol arbenigol ac ysbytai diogel, a lleoliadau cymunedol sy'n eu galluogi nhw i gael amrywiaeth eang o driniaethau, therapïau a gofal i gynorthwyo eu hadferiad.
Bydd gofyn i ddeiliad y swydd weithio gydag amrywiaeth eang o weithwyr proffesiynol, gan gynnwys y Weinyddiaeth Gyfiawnder, meddygon teulu, gwasanaethau cymdeithasol, yr heddlu, byrddau iechyd lleol eraill a sefydliadau'r trydydd sector, i sicrhau canlyniadau cadarnhaol a rheoli risg.
Os nad oes gennych chi ddyfarniad Gweithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy, bydd disgwyl i chi ymgymryd â'r hyfforddiant hwn er mwyn cyflawni'r rôl. Ar ôl i chi ennill cymhwyster Gweithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy, byddwch chi'n cael taliad atodol ar sail y farchnad o £2,863 y flwyddyn am gymryd rhan yn rota Gweithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Ar gyfer y rôl, rydyn ni'n gofyn bod gennych chi'r canlynol: - Diploma/Gradd mewn Gwaith Cymdeithasol neu gymhwyster rhagflaenol.
- Cwblhau'r Rhaglen Cadarnhau Ymarfer yn llwyddiannus o fewn y tair blynedd gyntaf o ymarfer (os ydych chi wedi cymhwyso ar ôl 1 Ebrill 2016).
- Y gallu i gynnal asesiadau gyda phobl sy'n profi salwch meddwl.
- Profiad o weithio gyda phobl sy'n profi salwch meddwl, neu sy'n adfer ohono.
- Trwydded yrru lawn y DU Categori B (Ceir) a defnydd o gerbyd modur wedi'i yswirio at ddibenion busnes i fynd i gyfarfodydd.
Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, patrymau gweithio ystwyth a chynlluniau disgownt i staff.
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Julie O`Brien ar 02920 855020 neu ebost:
obriej2@caerphilly.gov.ukGellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth.
Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Rhaid i chi feddu ar Ddiploma/Gradd mewn Gwaith Cymdeithasol neu ragflaenydd a bod wedi cofrestru fel Gweithiwr Cymdeithasol gyda Gofal Cymdeithasol Cymru (neu'n gallu trosglwyddo o gorff cydnabyddedig arall).
Mae’r gofynion cofrestru presennol yn nodi bod cwblhau’r cymhwyster Cydgrynhoi Ymarfer o fewn eich 3 blynedd gyntaf o ymarfer yn orfodol (os gwnaethoch gymhwyso ar ôl 1 Ebrill 2016). Bydd methu â chwblhau'r cymhwyster hwn yn llwyddiannus yn golygu na fyddwch yn gallu adnewyddu eich Cofrestriad Gwaith Cymdeithasol neu ymarfer fel Gweithiwr Cymdeithasol.
Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, patrymau gweithio ystwyth a chynlluniau disgownt i staff.
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r cymhwyster Cydgrynhoi Ymarfer o fewn eich 3 blynedd gyntaf o ymarfer yn orfodol (os gwnaethoch gymhwyso ar ôl 1 Ebrill 2016). Bydd methu â chwblhau'r cymhwyster hwn yn llwyddiannus yn golygu na fyddwch yn gallu adnewyddu eich Cofrestriad Gwaith Cymdeithasol neu ymarfer fel Gweithiwr Cymdeithasol.