Os chi fydd yr ymgeisydd llwyddiannus, byddwch yn cynorthwyo i ddarparu gwasanaeth benthyca cyfarpar sy'n wasanaeth effeithiol ac effeithlon i bobl anabl o bob oed. Mae'n hanfodol bod cyfarpar y gwasanaeth yn cael ei lanhau'n briodol, ac mae'n ofynnol bod pob ardal yn cael ei glanhau'n ddyddiol i safon uchel o safbwynt rheoli heintiau. Byddwch yn glanhau ac yn dihalogi cyfarpar sydd wedi'i ddefnyddio yn y gymuned, ac yn cyflawni tasgau glanhau, gan ddarparu gwasanaeth o safon uchel a sicrhau amgylchedd diogel a glanwaith. Byddwch yn rhan hanfodol o broses y gadwyn gyflenwi. Dihalogi yw'r cyfuniad o brosesau a ddefnyddir i sicrhau bod eitem yn ddiogel i staff ei thrin a'i thrafod ac yn ddiogel i'w defnyddio yn y dyfodol. Mae sicrhau bod unrhyw eitemau y gellir eu hailddefnyddio'n cael eu dihalogi'n effeithiol yn hanfodol er mwyn lleihau'r risg y gallai unrhyw elfennau heintus gael eu trosglwyddo. Byddwch yn cyflawni gwaith dihalogi ar dair lefel, sef glanhau, glanhau ac yna diheintio, a glanhau ac yna sterileiddio.
O ddydd i ddydd, byddwch: - Yn cael cyfarpar gan y Technegwyr/Gyrwyr Dosbarthu, ac yna'n ei lanhau a'i drefnu.
- Yn asesu, yn labelu ac yn categoreiddio eitemau wrth iddynt ddod yn ôl i'r warws, gan nodi unrhyw stoc sydd wedi'i difrodi neu sydd wedi treulio.
- Yn trefnu bod cyfarpar yn cael gwasanaeth lle bo'n briodol.
- Yn cadw cofnodion cywir o stoc, yn adrodd yn ôl wrth y tîm rheoli ac yn cynorthwyo i wirio'r stoc yn rheolaidd.
- Yn cynorthwyo i ddarparu gwasanaeth benthyca cyfarpar sy'n wasanaeth effeithiol ac effeithlon i bobl anabl o bob oed.
- Yn cynorthwyo'r gyrwyr drwy ddosbarthu cyfarpar, neu gynorthwyo i wneud hynny, os yw lefelau gwasanaeth yn golygu bod hynny'n ofynnol.
Rydym yn bwriadu recriwtio unigolion hyblyg sy'n llawn cymhelliant a brwdfrydedd ynghylch natur y gwaith, ac sydd â: - Phrofiad perthnasol o weithio mewn gwasanaethau glanhau a hylendid
- Profiad perthnasol o weithio mewn warws a/neu amgylchedd dosbarthu neu leoliad cyfatebol
- Sgiliau llythrennedd a rhifedd ardderchog er mwyn deall cyfarwyddiadau ysgrifenedig, labeli cemegolion a rhaglenni gwaith
- Gwybodaeth dda am sut i ddefnyddio rhaglenni TG sylfaenol a defnyddio dyfeisiau electronig
- Ymwybyddiaeth dda o ofynion Iechyd a Diogelwch, y Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd a Systemau Rheoli ac Atal Heintiau
- Y gallu i fod yn aelod da o dîm a derbyn cyfarwyddiadau gan reolwyr, agwedd hyblyg at waith, a'r gallu i amrywio'r rhaglen waith er mwyn diwallu anghenion y gwasanaeth
Yn ogystal â'r uchod, bydd arnom angen unigolion sydd â rhywfaint o ruglder yn y Gymraeg.Bydd ymgeisydd llwyddiannus heb y sgìl Cymraeg gofynnol yn cael pob cymorth i gyrraedd y safon a ddymunir o fewn dwy flynedd yn dilyn y penodiad.
Yn gyfnewid am eich sgiliau a'ch ymrwymiad, byddwn yn cynnig ystod o fuddion i chi fel gweithiwr, a fydd yn cynnwys lwfans cystadleuol o ran gwyliau blynyddol a chynllun pensiwn cyfrannol hael. Mae mwy o wybodaeth am ein hystod eang o fuddion i weithwyr i'w chael
yma . At hynny, rydym wedi ymrwymo i ddatblygu ein pobl. Yn ogystal â rhoi cymorth i'ch galluogi i berchenogi meysydd cyfrifoldeb allweddol y swydd hon yn sydyn ac yn hyderus, rydym hefyd wedi ymrwymo i hybu eich datblygiad er mwyn i chi allu datblygu eich gyrfa gyda ni.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person Os oes angen unrhyw wybodaeth bellach arnoch am y swydd hon, mae croeso i chi gysylltu a Kate Lee: 07815 415957
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau. Yr hyn a gynigwn Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Lle byddwch yn gweithio Porth Gofal - Gwasanaethau Ymyrraeth wedi'u Targedu
Rydym wrth wraidd darpariaeth gofal cymdeithasol gydol oes Ceredigion ac ein nod yw sicrhau bod pob unigolyn yn derbyn yr ymyrraeth orau i ddiwallu ei anghenion neu, lle bo angen, eu tywys at gymorth cynnar neu wasanaethau arbenigol.Ein prif swyddogaethau yw:
- Tîm Derbyn a Brysbennu Porth Ceredigion
- Gwasanaethau Ymyrraeth wedi'i Thargedu
- Gwasanaethau Maethu
- Gwasanaethau Preswyl a Gofal Dydd
- Gwasanaethau Tai
- Storfeydd Cyfarpar Cymunedol Integredig
- Tîm Dyletswydd Argyfwng