Wrexham County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Lleoliad
Wrecsam
Pob ardal
Manylion
Math o gontract
Dros dro
Maes gofal
Gofal plant
Gweithle
Cyfleusterau Crèche a Meithrinfeydd Dydd
Rôl
Practitioner
Disgrifiad o'r swydd
Disgrifiad
Ymarferydd Plant a Phobl Ifanc - Mewnol yn Unig G07: £29,269 18.5 awr yr wythnos
Secondiad - 12 mis
Mae Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru (GMGC) yn chwilio am weithiwr ieuenctid/cefnogi i ymuno â'n tîm o staff ymroddgar am secondiad 12 mis. Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd deithio i bob rhan o ogledd Cymru i ddarparu'r gwasanaeth.
Bydd gofyn i ddeiliad y swydd: • Cyfrannu at grwpiau cymorth sefydledig yng Ngogledd Cymru i blant a phobl ifanc sydd wedi'u mabwysiadu mewn partneriaeth â Gwasanaeth Cysylltiedig Adoption UK. • Meithrin a chynnal perthnasoedd gwaith cadarnhaol ac effeithiol gyda phlant a phobl ifanc a fabwysiadwyd a'u rhiant/rhieni i hyrwyddo mynediad at y grwpiau • Gweithio yn y Tîm Cefnogi Mabwysiadu a gyda'r gweithwyr cefnogi teuluoedd therapiwtig i adnabod plant a phobl ifanc ar gyfer y Gwasanaeth Cysylltiedig. • Cynorthwyo i ddarparu elfennau o'r gwasanaeth sy'n gysylltiedig ag unigolion a grwpiau • Defnyddio ymyraethau sy'n addas i gam datblygiad y plentyn • Gweithio ar eich menter eich hun, yn unol â'r holl asesiadau risg, a chynlluniau cefnogi mabwysiadu i hyrwyddo lles plant unigol • Datblygu'ch sgiliau proffesiynol ar ffurf datblygiad parhaus • Diploma QCF Lefel 3 / NVQ Lefel 3/ Diploma CACHE Lefel 3/ Tystysgrif BTEC Lefel 3/ Diploma Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Gofal Plant), Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant neu gymhwyster Gofal Plant/ Datblygiad perthnasol arall Mae hwn yn secondiad 12 mis i weithio i Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru ac rydym yn awyddus i gael ceisiadau gan bobl brofiadol a llawn cymhelliant sydd â diddordeb mewn datblygu eu gwybodaeth a'u sgiliau ym maes Mabwysiadu.
I gael rhagor o fanylion, cysylltwch â susanne.mccarthy@wrexham.gov.uk Rhif ffôn: 07920 766125
Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer y swydd hon.
Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys beth bynnag fo'u hil, rhywedd, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol neu oedran.
Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.