Ymarferydd Gofal Plant Preswyl - Tŷ Bwlch Ydych chi'n awyddus i gael effaith gadarnhaol ar fywydau plant a phobl ifainc? Ydych chi'n unigolyn gweithgar a chydnerth sydd â'r gallu i ymgysylltu â phlant a phobl ifainc a'u cefnogi nhw'n emosiynol?
Dyma gyfle i fod yn Ymarferydd Gofal Plant Preswyl yng Nghartref Gofal Preswyl Tŷ Bwlch, Treorci.
A chithau'n Ymarferydd Gofal Plant Preswyl, byddwch chi'n rhan o garfan ofalgar sy'n darparu cartref diogel a chefnogol i hyd at ddau o blant a phobl ifainc. Mae gwaith y cartrefi'n cael ei arwain gan Reolwr Cofrestredig profiadol ac uwch aelodau staff.
Byddwch chi'n ymroi i wella bywydau plant sydd ag anghenion cymhleth a rhai sydd wedi profi trawma yn ystod eu plentyndod. Byddwch chi'n darparu gofal a chymorth, a bydd gofyn i chi weithio mewn modd creadigol, gan ymgymryd â gweithgareddau a gwaith uniongyrchol.
Byddwch chi'n cael eich cefnogi ac yn derbyn hyfforddiant i weithio mewn amgylchedd therapiwtig gan fanteisio ar y Model Adfer Trawma.
Bydd llawer o'ch gwaith chi'n cynnwys cefnogi unigolion i weithio trwy eu profiadau unigol gan weithio tuag at wella a meithrin cydnerthedd i gyflawni nodau personol. Bydd y gwaith yma'n cefnogi asesiad o anghenion gofal a chymorth parhaus yr unigolyn er mwyn sicrhau gwaith cynllunio cadarnhaol ar gyfer y dyfodol.
Bydd y gwaith yma'n cynnwys darparu cymorth a gofal emosiynol, corfforol a phersonol sy'n caniatâu i bobl ifainc gyflawni eu potensial llawn, weithiau mewn sefyllfaoedd heriol. Bydd hyn yn cynnwys gweithio gyda theuluoedd a phobl broffesiynol i sicrhau bod y gofal a'r cymorth wedi'u haddasu i weddu anghenion unigol y plant a phobl ifainc, a bod modd iddyn nhw symud ymlaen mewn modd cadarnhaol o'r lleoliad.
Er mwyn llwyddo yn y rôl yma, rhaid i chi fod yn unigolyn angerddol ac amyneddgar, a rhaid i chi ymrwymo i'r bobl rydych chi'n gweithio gyda nhw ac i safonau proffesiynol y swydd.
Bydd disgwyl i ymgeiswyr arddangos:
- Sgiliau cyfathrebu ardderchog
- Agwedd gadarnhaol a chydnerth
- Ymrwymiad i ddarparu amgylcheddau diogel a gofalgar i blant a phobl ifainc sy'n eu hannog nhw i ddysgu ac i ddatblygu
- Cydymdeimlad ac empathi, a brwdfrydedd dros wneud penderfyniadau personol
- Y gallu i feithrin perthnasau cryfion
- Brwdfrydedd ac ymrwymiad i ddysgu
- Gallu i weithio'n hyblyg
Mae sifftiau'n cynnwys gwyliau'r banc a phenwythnosau ac fel arfer yn arfer cynnwys gweithio rhwng 7.30am - 3.30pm a 3pm - 11pm. Mae dyletswyddau aros dros nos a gweithio yn ystod y nos hefyd, a hynny ar sail rota. Efallai bydd gofyn i chi weithio mewn lleoliadau preswyl eraill yn achlysurol i gynorthwyo ein cartrefi eraill yn yr awdurdod lleol, er mwyn diwallu anghenion y gwasanaeth.
Bydd disgwyl i chi feddu ar, neu fod yn barod i weithio tuag at, Ddiploma FfCCh Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Plant a Phobl Ifainc) neu gymhwyster NVQ Lefel 3 (Plant a Phobl Ifainc). Byddwch chi'n cofrestru â Gofal Cymdeithasol Cymru naill ai o'ch penodiad neu yn dilyn cyflawni'r Fframwaith Sefydlu Gofal Cymdeithasol yn llwyddiannus.
Ein Cynnig i Chi... Rydyn ni'n cydnabod bod maes Gofal Cymdeithasol yn un heriol yn broffesiynol ac yn bersonol a'i fod yn gofyn am sgiliau, ymrwymiad a brwdfrydedd sylweddol. Mae gyda ni ganolfan Addysg a Datblygu fewnol, bwrpasol sy'n rhoi cymorth ymarferol er mwyn i'n staff gynnal eu sgiliau a'u Datblygiad Proffesiynol Parhaus. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn hyfforddiant llawn a'r gefnogaeth sydd ei hangen i gyflawni'r rôl.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus sydd ddim yn meddu ar gymhwyster perthnasol yn derbyn cefnogaeth i gyflawni Diploma FfCCh Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Plant a Phobl Ifainc) o fewn 2 flynedd o'u penodi.
Bydd modd i weithwyr Cyngor Rhondda Cynon Taf hefyd fanteisio ar ystod eang o fuddion staff sy'n cynnwys: - 26 diwrnod o wyliau blynyddol, sy'n cynyddu i 31 diwrnod ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth. Mae cyfle hefyd i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol hyd at uchafswm o 10 diwrnod (pro rata) y flwyddyn.
- Cynllun Beicio i'r Gwaith
- Aelodaeth Hamdden am Oes ratach
- Cerdyn gostyngiadau i staff - Cerdyn Vivup
- Cynllun Prynu Technoleg
- Mynediad at ein Huned Iechyd Galwedigaethol a CARI, ein hofferyn lles cyfrinachol digidol newydd.
Edrychwch ar ein tudalennau gwe pwrpasol ar gyfer Gwasanaethau i Blant am ragor o wybodaeth ynghylch pam y dylech chi ddewis gyrfa ym maes Gwasanaethau Preswyl. Gwasanaethau Preswyl i Blant | Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (rctcbc.gov.uk)I gael rhagor o wybodaeth am y swydd yma neu i drefnu sgwrs anffurfiol ffoniwch Mandy Meredith (Rheolwr Gwasanaeth - Gofal Preswyl) ar 07880 044429.
Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.
Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad ydy unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses recriwtio a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddynt hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno, does
dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro hwn. Diolch am eich diddordeb, ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.
Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi'r Lluoedd Arfog, rhaid i'r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o'r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr neu filwyr wrth gefn, sy'n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.