Cartref Cymuned Beddau, 1 Trem-y-Bryn, Beddau, CF38 2DSYdych chi'n awyddus i gael effaith gadarnhaol ar fywydau plant a phobl ifainc?
Ydych chi'n unigolyn gweithgar a chydnerth sydd â'r gallu i ymgysylltu â phlant a phobl ifainc a'u cefnogi nhw'n emosiynol?
Dyma gyfle i fod yn Ymarferydd Gofal Plant Preswyl yng Nghartref Cymuned Beddau.
A chithau'n Ymarferydd Gofal Plant Preswyl, byddwch chi'n rhan o garfan ofalgar sy'n darparu cartref diogel a chefnogol i hyd at bedwar o blant a phobl ifainc. Mae gwaith y cartref yn cael ei arwain gan Reolwr Cofrestredig ac uwch aelodau staff.
Byddwch chi'n ymroi i wella bywydau plant sydd ag anghenion cymhleth a rhai sydd wedi profi trawma yn ystod eu plentyndod. Bydd disgwyl i chi fod yn greadigol ac ymgysylltu'n weithredol wrth weithio'n uniongyrchol gyda hyd at bedwar o blant a phobl ifainc a darparu cymorth a chefnogaeth iddyn nhw.
Byddwch chi'n cael eich cefnogi ac yn derbyn hyfforddiant i weithio mewn amgylchedd therapiwtig gan fanteisio ar y Model Adfer Trawma. Bydd llawer o'ch gwaith chi'n cynnwys cefnogi unigolion i weithio trwy eu profiadau unigol gan weithio tuag at wella a meithrin cydnerthedd i gyflawni nodau personol.
Bydd y gwaith yma'n cynnwys darparu cefnogaeth emosiynol a chorfforol sy'n caniatâu i bobl ifainc gyflawni eu potensial llawn, weithiau mewn sefyllfaoedd heriol. Bydd hyn yn cynnwys gweithio gyda theuluoedd a phobl broffesiynol i sicrhau bod y gofal a'r cymorth wedi'u haddasu i weddu i anghenion unigol y plant a phobl ifainc.
Er mwyn llwyddo yn y rôl yma, rhaid i chi fod yn unigolyn angerddol ac amyneddgar, a rhaid i chi ymrwymo i'r bobl rydych chi'n gweithio gyda nhw ac i safonau proffesiynol y swydd.
Bydd disgwyl i ymgeiswyr arddangos:
- Sgiliau cyfathrebu ardderchog
- Agwedd gadarnhaol a chydnerth
- Ymrwymiad i ddarparu amgylcheddau diogel a gofalgar i blant a phobl ifainc sy'n eu hannog nhw i ddysgu ac i ddatblygu
- Cydymdeimlad ac empathi, a brwdfrydedd dros wneud penderfyniadau personol
- Y gallu i feithrin perthnasau cryfion
- Brwdfrydedd ac ymrwymiad i ddysgu
- Y gallu i weithio'n hyblyg - bydd y patrwm gwaith yn cynnwys gweithio ar brynhawniau a nosweithiau o dro i dro yn ogystal â phenwythnosau, gwyliau banc a dyletswyddau dros nos.
Bydd disgwyl i chi feddu ar, neu fod yn barod i weithio tuag at, Ddiploma FfCCh Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Plant a Phobl Ifainc) neu gymhwyster NVQ Lefel 3 (Plant a Phobl Ifainc). Byddwch chi'n cofrestru â Gofal Cymdeithasol Cymru naill ai o'ch penodiad neu yn dilyn cyflawni'r Fframwaith Sefydlu Gofal Cymdeithasol yn llwyddiannus.
Ein Cynnig i Chi Mae swydd amser llawn 37 awr ar gael.
Rydyn ni'n cydnabod bod maes Gofal Cymdeithasol yn un heriol yn broffesiynol ac yn bersonol a'i fod yn gofyn am sgiliau, ymrwymiad a brwdfrydedd sylweddol. Mae gyda ni ganolfan Addysg a Datblygu fewnol, bwrpasol sy'n rhoi cymorth ymarferol er mwyn i'n staff gynnal eu sgiliau a'u Datblygiad Proffesiynol Parhaus. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn hyfforddiant llawn a'r gefnogaeth sydd ei hangen i gyflawni'r rôl. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus sydd ddim yn meddu ar gymhwyster perthnasol yn derbyn cefnogaeth i gyflawni Diploma FfCCh Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Plant a Phobl Ifainc) o fewn 2 flynedd o'u penodi.
Bydd modd i weithwyr Cyngor Rhondda Cynon Taf hefyd fanteisio ar ystod eang o fuddion staff sy'n cynnwys: - 26 diwrnod o wyliau blynyddol, sy'n cynyddu i 31 diwrnod ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth. Mae cyfle hefyd i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol hyd at uchafswm o 10 diwrnod (pro rata) y flwyddyn.
- Cynllun Beicio i'r Gwaith
- Aelodaeth Hamdden am Oes ratach
- Cerdyn gostyngiadau i staff - Cerdyn Vivup
- Cynllun Prynu Technoleg
- Mynediad at ein Huned Iechyd Galwedigaethol a CARI, ein hofferyn lles cyfrinachol digidol newydd.
Dyma rai o'r buddion sydd gyda ni i'w cynnig. Edrychwch ar ein tudalennau gwe pwrpasol ar gyfer Gwasanaethau i Blant am ragor o wybodaeth ynghylch pam y dylech chi ddewis gyrfa yn Rhondda Cynon Taf.
www.rctcbc.gov.uk/SwyddiGwasanaethauiBlantAm ragor o wybodaeth neu i drefnu trafodaeth anffurfiol cysylltwch â Nicola Howard ar (01443) 202600 neu
Nicola.Howard@rctcbc.gov.uk.
Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.
Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno
yn Saesneg.
Yn rhan o'i amcanion hirdymor mewn perthynas â'r Gymraeg a Strategaeth Cynllunio'r Gweithlu, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gynllun cyfweliad gwarantedig ar gyfer siaradwyr Cymraeg Lefel 3 ac uwch. Os ydych chi'n bodloni'r meini prawf hanfodol sydd wedi'u nodi yn y fanyleb person ar gyfer y swydd ac yn siaradwr Cymraeg Lefel 3 ac uwch, fe'ch gwahoddir i gyfweliad os byddwch chi'n dewis cymryd rhan yn y cynllun.Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed wrthon ni cyn pen pedair wythnos o'r dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.
Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi'r Lluoedd Arfog, rhaid i'r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o'r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr neu filwyr wrth gefn, sy'n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.