1 x SWYDD 22.5 AWR 1 X SWYDD 18 AWRYdych chi'n awyddus i gael effaith gadarnhaol ar fywydau plant a phobl ifainc? Ydych chi'n unigolyn gweithgar a chydnerth sydd â'r gallu i ymgysylltu â phlant a phobl ifainc a'u cefnogi nhw'n emosiynol?
Dyma gyfle i benodi dau Ymarferydd Gofal Plant Preswyl Dros Nos wedi'i leoli yn Nhŷ Ni yn Llanharan. Mae sifftiau nos fel arfer yn cynnwys gweithio rhwng 10.30pm a 7.30am. Bydd cyflog ychwanegol ar gael ar gyfer sifftiau nos.
A chithau'n Ymarferydd Gofal Plant Preswyl Dros Nos byddwch chi'n rhan o garfan ofalgar, sy’n darparu cartref diogel, meithringar i unigolyn ifanc, dan arweiniad a chefnogaeth y Rheolwr Cofrestredig, ac Uwch Aelodau o Staff profiadol.
Byddwch chi'n ymroi i wella bywydau plant sydd ag anghenion cymhleth a rhai sydd wedi profi trawma yn ystod eu plentyndod.
Byddwch chi'n ymrwymo i ddeall profiadau plant a phobl ifainc ac yn dangos cydymdeimlad yn eich dull o weithio gyda'r unigolion yma a'u cael nhw'n barod i fynd i'r gwely. Byddwch chi'n darparu cymorth emosiynol, corfforol a phersonol a bydd disgwyl i chi fod yn greadigol ac ymgysylltu'n weithredol wrth weithio'n
uniongyrchol gyda phlant a phobl ifainc a darparu cymorth a chefnogaeth iddyn nhw. Byddwch chi'n cael eich cefnogi ac yn derbyn hyfforddiant i weithio mewn amgylchedd therapiwtig gan fanteisio ar y Model Adfer Trawma.
Byddwch chi'n darparu cymorth emosiynol, corfforol a phersonol sy'n caniatâu i bobl ifainc gyflawni eu potensial llawn. Weithiau, mewn sefyllfaoedd heriol, bydd gofyn i chi ymateb i broblemau tu hwnt i'r cartref. Mae'r gallu i deithio'n annibynnol yn hanfodol ar gyfer y swydd yma.
Bydd rhan sylweddol o'ch swydd chi'n cynnwys cefnogi unigolion drwy'r nos. Yn achlysurol, bydd gofyn i chi gysylltu â gwasanaethau megis yr Heddlu, y Garfan Iechyd a'r Garfan ar Ddyletswydd ar gyfer Argyfyngau, gan fynd i'r afael â sefyllfaoedd brys. Bydd aelod o staff arall yn y cartref ar gael i’ch helpu chi yn ystod y sefyllfaoedd yma. Unwaith mae'r plant a'r bobl ifainc wedi setlo, bydd dyletswyddau yn cynnwys paratoi'r cartref ar gyfer y diwrnod dilynol. Bydd hyn yn cynnwys tasgau cyffredinol yn y cartref megis glanhau, smwddio neu goginio.
I lwyddo yn y rôl yma rhaid i chi fod yn unigolyn angerddol ac amyneddgar a rhaid ichi ymrwymo i'ch cydweithwyr ac i safonau proffesiynol y swydd. Bydd hyn yn cynnwys gweithio gyda theuluoedd a phobl broffesiynol i sicrhau bod y gofal a'r cymorth wedi'u haddasu i weddu i anghenion unigol y plant a phobl ifainc.
Bydd disgwyl i ymgeiswyr arddangos:
- Sgiliau cyfathrebu ardderchog
- Agwedd gadarnhaol a chydnerth
- Ymrwymiad i ddarparu amgylcheddau diogel a gofalgar i blant a phobl ifainc sy'n eu hannog nhw i ddysgu ac i ddatblygu
- Cydymdeimlad, empathi a brwdfrydedd dros wneud penderfyniadau personol
- Y gallu i feithrin perthnasau cryfion
- Brwdfrydedd ac ymrwymiad i ddysgu personol
- Gallu i weithio'n hyblyg
Bydd angen i chi fod yn barod i weithio sifftiau, gan gynnwys ar wyliau'r banc, ar benwythnosau a dyletswyddau aros dros nos. Efallai bydd gofyn i chi weithio mewn lleoliadau preswyl eraill yn achlysurol i gynorthwyo ein cartrefi eraill yn yr awdurdod lleol, er mwyn diwallu anghenion y gwasanaeth.
Bydd disgwyl i chi feddu ar, neu fod yn barod i weithio tuag at Ddiploma FfCCh Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Plant a Phobl Ifainc) neu gymhwyster NVQ Lefel 3 (Plant a Phobl Ifainc). Byddwch chi'n cofrestru â Gofal Cymdeithasol Cymru naill ai o'ch penodiad neu yn dilyn cyflawni'r Fframwaith Sefydlu Gofal Cymdeithasol yn llwyddiannus.
Ein Cynnig i Chi... Rydyn ni’n cydnabod bod maes Gofal Cymdeithasol yn un heriol yn broffesiynol ac yn bersonol a'i fod yn gofyn am sgiliau, ymrwymiad a brwdfrydedd sylweddol. Mae gyda ni ganolfan Addysg a Datblygu fewnol, bwrpasol sy'n rhoi cymorth ymarferol er mwyn i'n staff gynnal eu sgiliau a'u Datblygiad Proffesiynol Parhaus. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn hyfforddiant llawn a'r gefnogaeth sydd ei hangen i gyflawni'r rôl. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus sydd ddim yn meddu ar gymhwyster perthnasol yn derbyn cefnogaeth i gyflawni Diploma FfCCh Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Plant a Phobl Ifainc) o fewn 2 flynedd o'u penodi.
Bydd modd i weithwyr Cyngor Rhondda Cynon Taf hefyd fanteisio ar ystod eang o fuddion staff sy'n cynnwys: - 26 diwrnod o wyliau blynyddol, sy'n cynyddu i 31 diwrnod ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth. Mae cyfle hefyd i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol hyd at uchafswm o 10 diwrnod (pro rata) y flwyddyn.
- Cynllun Beicio i'r Gwaith
- Aelodaeth Hamdden am Oes ratach
- Cerdyn gostyngiadau i staff – Cerdyn Vectis
- Cynllun Prynu Technoleg
- Mynediad at ein Huned Iechyd Galwedigaethol a CARI, ein hofferyn lles cyfrinachol digidol newydd.
Edrychwch ar ein tudalennau gwe pwrpasol ar gyfer Gwasanaethau i Blant am ragor o wybodaeth ynghylch pam y dylech chi ddewis gyrfa ym maes Gwasanaethau Preswyl. Gwasanaethau Preswyl i Blant | Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (rctcbc.gov.uk)Am ragor o wybodaeth neu am sgwrs anffurfiol, ffoniwch Charlotte Ajax (Rheolwr Cofrestredig) ar 07385401811.
Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.
Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg. Yn rhan o amcanion hirdymor y Cyngor mewn perthynas â'r Gymraeg a’i Strategaeth Cynllunio'r Gweithlu, mae wedi ymrwymo i gynllun cyfweliad gwarantedig ar gyfer siaradwyr Cymraeg Lefel 3 ac uwch. Os ydych chi’n bodloni'r meini prawf hanfodol sydd wedi'i nodi ym manyleb y person ar gyfer y swydd ac yn siaradwr Cymraeg Lefel 3 ac uwch, fe'ch gwahoddir i gyfweliad os byddwch chi’n dewis cymryd rhan yn y cynllun. Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed wrthon ni cyn pen pedair wythnos o'r dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.
Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi'r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr neu filwyr wrth gefn ac sy’n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.