Ymarferydd Gofal Plant Preswyl Dros Nos, Tŷ Bwlch Llawn amser - 27 awr yr wythnos Rhan amser - 18 awr yr wythnos Ydych chi'n awyddus i gael effaith gadarnhaol ar fywydau plant a phobl ifainc? Ydych chi'n unigolyn gweithgar a chydnerth sydd â'r gallu i ymgysylltu â phlant a phobl ifainc a'u cefnogi nhw'n emosiynol?
Dyma gyfle i benodi Ymarferydd Gofal Plant Preswyl Dros Nos wedi'i leoli yn Nhŷ Bwlch yn Nhreorci. Mae sifftiau nos fel arfer yn cynnwys gweithio rhwng 10.30pm a 7.30am. Bydd cyflog ychwanegol ar gael ar gyfer sifftiau nos.
A chithau'n Ymarferydd Gofal Plant Preswyl Dros Nos byddwch chi'n rhan o garfan ofalgar, sy'n darparu cartref diogel a meithringar dan arweiniad a chefnogaeth Rheolwr Cofrestredig profiadol ac Uwch Aelodau o Staff.
Byddwch chi'n ymroi i wella bywydau plant sydd ag anghenion cymhleth a rhai sydd wedi profi trawma yn ystod eu plentyndod. Byddwch chi'n ymrwymo i ddeall profiadau plant a phobl ifainc ac yn dangos cydymdeimlad yn eich dull o weithio gyda'r unigolion yma a'u cael nhw'n barod i fynd i'r gwely. Byddwch chi'n darparu cymorth emosiynol, corfforol a phersonol a bydd disgwyl i chi fod yn greadigol ac ymgysylltu'n weithredol wrth weithio'n uniongyrchol gyda phlant a phobl ifainc a darparu cymorth a chefnogaeth iddyn nhw. Byddwch chi'n cael eich cefnogi ac yn derbyn hyfforddiant i weithio mewn amgylchedd therapiwtig gan fanteisio ar y Model Adfer Trawma.
Byddwch chi'n darparu cymorth emosiynol, corfforol a phersonol sy'n caniatâu i blant a phobl ifainc gyflawni eu potensial llawn. Weithiau, mewn sefyllfaoedd heriol, bydd gofyn i chi ymateb i broblemau tu hwnt i'r cartref. Mae'r gallu i deithio'n annibynnol yn hanfodol ar gyfer y swydd yma.
Bydd rhan sylweddol o'ch swydd chi'n cynnwys cefnogi unigolion drwy'r nos. Yn achlysurol, bydd gofyn i chi gysylltu â gwasanaethau megis yr Heddlu, y Garfan Iechyd a'r Garfan ar Ddyletswydd ar gyfer Argyfyngau, gan fynd i'r afael â sefyllfaoedd brys. Bydd aelod o staff arall yn y cartref ar gael i'ch helpu chi yn ystod y sefyllfaoedd yma. Unwaith mae'r plant a'r bobl ifainc wedi setlo, bydd dyletswyddau yn cynnwys paratoi'r cartref ar gyfer y diwrnod dilynol. Bydd hyn yn cynnwys tasgau cyffredinol yn y cartref megis glanhau, smwddio neu goginio.
I lwyddo yn y rôl yma rhaid i chi fod yn unigolyn angerddol ac amyneddgar a rhaid ichi ymrwymo i'ch cydweithwyr ac i safonau proffesiynol y swydd. Bydd hyn yn cynnwys gweithio gyda theuluoedd a phobl broffesiynol i sicrhau bod y gofal a'r cymorth wedi'u haddasu i weddu i anghenion unigol y plant a phobl ifainc.
Bydd disgwyl i ymgeiswyr arddangos:
- Sgiliau cyfathrebu ardderchog
- Agwedd gadarnhaol a chydnerth
- Ymrwymiad i ddarparu amgylcheddau diogel a gofalgar i blant a phobl ifainc sy'n eu hannog nhw i ddysgu ac i ddatblygu
- Cydymdeimlad, empathi a brwdfrydedd dros wneud penderfyniadau personol
- Y gallu i feithrin perthnasau cryfion
- Brwdfrydedd ac ymrwymiad i ddysgu personol
- Gallu i weithio'n hyblyg
Bydd angen i chi fod yn barod i weithio sifftiau, gan gynnwys ar wyliau'r banc, ar benwythnosau a dyletswyddau aros dros nos. Efallai bydd gofyn i chi weithio mewn lleoliadau preswyl eraill yn achlysurol i gynorthwyo ein cartrefi eraill yn yr awdurdod lleol, er mwyn diwallu anghenion y gwasanaeth.
Bydd disgwyl i chi feddu ar, neu fod yn barod i weithio tuag at, Ddiploma FfCCh Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Plant a Phobl Ifainc) neu gymhwyster NVQ Lefel 3 (Plant a Phobl Ifainc). Byddwch chi'n cofrestru â Gofal Cymdeithasol Cymru naill ai o'ch penodiad neu yn dilyn cyflawni'r Fframwaith Sefydlu Gofal Cymdeithasol yn llwyddiannus.
Ein Cynnig i Chi... Rydyn ni'n cydnabod bod maes Gofal Cymdeithasol yn un heriol yn broffesiynol ac yn bersonol a'i fod yn gofyn am sgiliau, ymrwymiad a brwdfrydedd sylweddol. Mae gyda ni ganolfan Addysg a Datblygu fewnol, bwrpasol sy'n rhoi cymorth ymarferol er mwyn i'n staff gynnal eu sgiliau a'u Datblygiad Proffesiynol Parhaus. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn hyfforddiant llawn a'r gefnogaeth sydd ei hangen i gyflawni'r rôl. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus sydd ddim yn meddu ar gymhwyster perthnasol yn derbyn cefnogaeth i gyflawni Diploma FfCCh Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Plant a Phobl Ifainc) o fewn 2 flynedd o'u penodi.
Bydd modd i weithwyr Cyngor Rhondda Cynon Taf hefyd fanteisio ar ystod eang o fuddion staff sy'n cynnwys: - 26 diwrnod o wyliau blynyddol, sy'n cynyddu i 31 diwrnod ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth. Mae cyfle hefyd i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol hyd at uchafswm o 10 diwrnod (pro rata) y flwyddyn.
- Cynllun Beicio i'r Gwaith
- Aelodaeth Hamdden am Oes ratach
- Cerdyn gostyngiadau i staff - Cerdyn Vivup
- Cynllun Prynu Technoleg
- Mynediad at ein Huned Iechyd Galwedigaethol a CARI, ein hofferyn lles cyfrinachol digidol newydd.
Edrychwch ar ein tudalennau gwe pwrpasol ar gyfer Gwasanaethau i Blant am ragor o wybodaeth ynghylch pam y dylech chi ddewis gyrfa ym maes Gwasanaethau Preswyl. Gwasanaethau Preswyl i Blant | Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (rctcbc.gov.uk)Am ragor o wybodaeth neu i drefnu sgwrs anffurfiol, ffoniwch Mandy Meredith (Rheolwr Gwasanaeth, Preswyl) ar 07880 044429.
Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.
Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Yn rhan o'i amcanion hirdymor mewn perthynas â'r Gymraeg a Strategaeth Cynllunio'r Gweithlu, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gynllun cyfweliad gwarantedig ar gyfer siaradwyr Cymraeg Lefel 3 ac uwch. Os ydych chi'n bodloni'r meini prawf hanfodol wedi'u nodi yn y fanyleb person ar gyfer y swydd ac yn siaradwr Cymraeg Lefel 3 ac uwch, bydd gwahoddiad i gyfweliad i chi os byddwch chi'n dewis cymryd rhan yn y cynllun.Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed wrthon ni cyn pen pedair wythnos o'r dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.
Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi'r Lluoedd Arfog, rhaid i'r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o'r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr neu filwyr wrth gefn, sy'n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.