Ymarferydd Gofal Plant Preswyl – Cartref Hir-dymor i Blant, Aberdâr Oriau- 18.5 awr yr wythnos Cyflog- Gradd 7, £15,511 y flwyddyn Gofal sy’n ystyriol o drawma ac sy’n seiliedig ar berthynas ar gyfer dau o blant
Oes gyda chi'r angerdd a'r cydnerthedd i wneud gwahaniaeth ystyrlon ym mywydau plant a phobl ifainc?Ydych chi'n rhywun sy'n gallu meithrin perthnasoedd llawn ymddiriedaeth a chynnig cymorth emosiynol i blant sydd wedi wynebu profiadau niweidiol?
Dyma gyfle i ymuno â'n cartref hir-dymor yn Aberdâr, i gyflawni rôl sy’n rhoi boddhad ac sy’n cynnwys darparu gofal a chymorth ar gyfer dau o blant. A chithau'n Ymarferydd Gofal Plant Preswyl, byddwch chi'n rhan o garfan fedrus, feithringar wedi'i harwain gan Reolwr Cofrestredig profiadol a'i chefnogi gan uwch staff.
Yn y cartref bach, sefydlog yma, byddwch chi'n chwarae rôl hanfodol wrth gynnig gofal cyson yn seiliedig ar berthynas. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn ymrwymo i ddeall effaith trawma yn ystod plentyndod a chefnogi plant ag anghenion cymhleth mewn ffordd sy'n hyrwyddo iachâd, diogelwch emosiynol, a chydnerthedd hir-dymor.
Byddwch chi'n gweithio mewn modd creadigol a thosturiol i helpu pob plentyn i wneud cynnydd ar ei gyflymder ei hun, gan ddefnyddio dull sy'n ystyriol o drawma ac sy'n seiliedig ar y Model Adfer yn dilyn Trawma. Bydd rhan fawr o'ch rôl yn cynnwys darparu cymorth emosiynol ac ymarferol wrth i blant wneud synnwyr o'u profiadau, meithrin ymddiriedaeth mewn oedolion, a gwneud cynnydd tuag at eu nodau personol.
Mae hyn yn cynnwys cynnig gofal amyneddgar, dibynadwy, ac addas —weithiau mewn sefyllfaoedd heriol—wrth gydweithio â theuluoedd a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod gofal pob plentyn wedi'i deilwra ac yn canolbwyntio ar eu llais a'u hanghenion.
Er mwyn llwyddo yn y rôl yma, rhaid i chi fod yn unigolyn angerddol ac amyneddgar, a rhaid i chi ymrwymo i'r plant rydych chi'n gofalu amdanyn nhw a chynnal safonau proffesiynol.
Yr hyn rydyn ni'n chwilio amdano Bydd disgwyl i ymgeiswyr arddangos:
- Sgiliau cyfathrebu ardderchog
- Agwedd gadarnhaol a chydnerthedd, gyda'r gallu i gadw'ch pen ac i fod yn fyfyriol yn ystod adegau anodd
- Ymrwymiad i ddarparu amgylcheddau diogel, gofalgar lle mae plant yn gallu dysgu, datblygu a theimlo eu bod nhw'n cael eu clywed.
- Tosturi, empathi, a chred mewn cefnogi dewis ac ymreolaeth unigol
- Y gallu i fuddsoddi mewn meithrin perthnasoedd, ac atgyweirio perthnasoedd dros amser
- Ymrwymiad i ddysgu a datblygiad parhaus, gan gynnwys arfer sy’n ystyriol o drawma
- Hyblygrwydd i weithio amrywiaeth o sifftiau, gan gynnwys yn ystod y dydd, gyda’r prynhawn, gyda’r nos o bryd i’w gilydd, ar benwythnosau, gwyliau banc, ac aros dros nos.
Byddwch naill ai'n meddu ar Ddiploma Lefel 3 FfCCh mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Plant a Phobl Ifainc) neu gymhwyster cyfwerth, neu’n fodlon gweithio tuag ato. Rhaid eich bod chi wedi cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru naill ai adeg penodi neu ar ôl cwblhau'r Fframwaith Sefydlu.
Ein Cynnig i Chi Rydyn ni'n cydnabod bod gweithio ym maes Gofal Cymdeithasol yn heriol yn broffesiynol ac yn bersonol ac yn gofyn am sgil, ymrwymiad a chydnerthedd emosiynol. Rydyn ni'n cynnig:
- Canolfan Ddysgu a Datblygu fewnol bwrpasol sy'n darparu cyfleoedd hyfforddi a DPP cadarn
- Byddwn ni’n ariannu’r holl hyfforddiant sydd ei angen arnoch chi i gyflawni'r rôl
- Cymorth i gyflawni Diploma Lefel 3 FfCCh (os nad ydych chi eisoes yn meddu ar y cymhwyster yma), o fewn dwy flynedd o’ch penodi
Mae Buddion Staff Cyngor RhCT yn cynnwys: - 26 diwrnod o wyliau blynyddol, sy'n cynyddu i 31 diwrnod ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth
- Cynllun Beicio i'r Gwaith
- Aelodaeth Hamdden am Oes ratach
- Vivup (gostyngiadau i staff)
- Mynediad at y gwasanaeth Iechyd Galwedigaethol
I ddysgu rhagor ynglŷn â gweithio yn rhan o Wasanaethau i Blant RhCT, ewch i'r tudalennau gw dynodedig:
https://www.rctcbc.gov.uk/swyddigwasanaethauiblant Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.
Yn ogystal âr cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus. Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg. Yn rhan o'i amcanion hirdymor mewn perthynas âr Gymraeg a Strategaeth Cynllunio'r Gweithlu, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer siaradwyr Cymraeg Lefel 3 ac uwch. Os ydych chi'n bodloni'r meini prawf hanfodol sydd wedi'u nodi yn y fanyleb person ar gyfer y swydd ac yn siaradwr Cymraeg Lefel 3 ac uwch, fe’ch gwahoddir i gyfweliad os byddwch chi'n dewis cymryd rhan yn y cynllun. Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed wrthon ni cyn pen pedair wythnos o'r dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.
Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi’r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr neu filwyr wrth gefn, sy’n cwrdd â’r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.