Gwasanaethau Gwaith Cymdeithasol / Gwasanaethau Cymdeithasol
Rôl
Gweithiwr cymdeithasol
Disgrifiad o'r swydd
Ymarferydd Gwaith Cymdeithasol - Carfan ar Ddyletswydd ar gyfer Argyfyngau
Disgrifiad Swydd Ymarferydd Gwaith Cymdeithasol (Carfan ar Ddyletswydd ar gyfer Argyfyngau)
Lleoliad: Gorsaf Heddlu Pontypridd
Cyflog: £47,754 pro rata;
Parhaol Rhan amser 18.5 awr
Gwir gyflog ar gyfer 18.5 awr - £23,877
Rydyn ni'n chwilio am Ymarferydd Gwaith Cymdeithasol profiadol i ymuno â'n carfan, i weithio ar sail rhan amser. Byddwch chi'n gweithio yn rhan o rota gwaith penodol, gan ddarparu ymateb gwaith cymdeithasol statudol brys y tu allan i oriau gwaith arferol i blant ac oedolion sy'n agored i niwed. Yn rhan o’r swydd, bydd gofyn i chi weithio ar benwythnosau, sifftiau gyda'r hwyr a gyda'r nos. Mae'r gwasanaeth yn archwilio opsiynau adleoli ar hyn o bryd yn ogystal â dychwelyd i drefniadau gweithio yn y swyddfa yn fwy rheolaidd. Fodd bynnag, bydd dull gweithio hyblyg yn cael ei weithredu, a bydd hyn yn aml yn cynnwys gweithio gartref.
Rydyn ni'n chwilio am ymgeiswyr sy'n meddu ar sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol cryf, sy'n gallu cynnal asesiadau risg a gwneud penderfyniadau gwybodus mewn argyfwng. Byddwch chi'n meddu ar y gallu i weithio yn annibynnol ac yn rhan o garfan brysur, yn aml ar y cyd ag asiantaethau partner megis yr Heddlu ac unigolion proffesiynol ym maes Iechyd. Byddwch chi hefyd yn meddu ar wybodaeth a dealltwriaeth gadarn o'r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer Oedolion a Phlant.
Mae'n hanfodol eich bod yn meddu ar Gymhwyster Gwaith Cymdeithasol perthnasol a'ch bod wedi cofrestru â Gofal Cymdeithasol Cymru. Byddai meddu ar Statws Ymarferydd Iechyd Meddwl cymeradwy (AMHP) yn ddelfrydol iawn, fodd bynnag, mae disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn barod i gwblhau'r hyfforddiant i ddod yn AMHP. Cewch chi arian ychwanegol os bydd gyda chi gymhwyster AMHP a chewch chi arian ychwanegol am weithio yn ystod oriau anghymdeithasol (ar ôl 10pm ac ar y penwythnos).
Am ragor o wybodaeth, ffoniwch Carolyn Jenkins, Rheolwr y Garfan ar (01443) 743665 neu 07385 375537.
Bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a'r Heddlu'n ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.
Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.
Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Yn rhan o'i amcanion hirdymor mewn perthynas âr Gymraeg a Strategaeth Cynllunio'r Gweithlu, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer siaradwyr Cymraeg Lefel 3 ac uwch. Os ydych chi'n bodloni'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person ar gyfer y swydd, ac yn siaradwr Cymraeg Lefel 3 neu'n uwch, bydd gwahoddiad i chi gael cyfweliad os ydych chi'n dewis cymryd rhan yn y cynllun.
Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed wrthon ni cyn pen pedair wythnos o'r dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.
Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi’r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr neu filwyr wrth gefn, sy’n cwrdd â’r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr